CPD Caerdydd yn colli apêl dros daliad am Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo cytundeb i symud o Nantes i Glwb Pêl-droed Caerdydd pan fu farw

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi colli apêl yn sgil anghydfod dros orfod talu £5.3m (€6m) i Nantes am drosglwyddiad y diweddar chwaraewr, Emiliano Sala.

Fe apeliodd y clwb i CAS (Court of Arbitration for Sport) yn erbyn gorchymyn gan y corff rheoli, FIFA i dalu'r rhandal cyntaf i Nantes ar ôl cytuno i'w brynu am ffi o £15m.

Daeth cadarnhad brynhawn Gwener bod panel y llys, wedi gwarandawiad yn Lausanne yn gynharach eleni, wedi gwrthod yr apêl a bod rhaid i'r clwb nawr dalu'r rhandal cyntaf i'r clwb Ffrengig.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adar Gleision bod y clwb "yn siomedig gyda phenderfyniad" CAS.

"Unwaith y bydd cyfreithwyr y clwb wedi ystyried y rhesymau dros y penderfyniad rydym yn disgwyl y byddwn yn apelio a byddwn ni ddim yn gwneud unrhyw daliadau i FC Nantes yn y cyfamser," ychwanegodd.

"Os yw'r apeliadau hynny'n aflwyddiannus ac mae'r clwb yn gyfrifol am dalu'r ffi trosglwyddo, bydd y clwb yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y sawl oedd yn gyfrifol am y ddamwain i dalu am ei golledion.

"Dylai ein holl feddyliau barhau i fod gyda theulu Emiliano, sydd nawr yn cael eu cefnogi'n ariannol gan yr ymddiriedolaeth y sefydlodd y clwb ar eu cyfer."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Teyrngedau i Emiliano Sala yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi ei farwolaeth ar 21 Ionawr 2019

Bu farw'r ymosodwr Archentaidd 28 oed ym mis Ionawr 2019 wrth hedfan o Ffrainc i Gymru ar ôl arwyddo cytundeb i ymuno â Chaerdydd o Nantes.

Bu misoedd o ddadlau rhwng y ddau glwb wedi hynny i ba raddau roedd y trosglwyddiad wedi ei gwblhau.

Roedd Caerdydd yn honni nad oedden nhw'n gyfrifol am dalu unrhyw ran o'r ffi gan nad oedd yn swyddogol yn un o'u chwaraewyr nhw pan fu farw.

Dyfarnodd FIFA bod yn rhaid i'r clwb dalu'r rhandal cyntaf i Nantes, gan wahardd Caerdydd rhag prynu chwaraewyr yn ystod tair ffenestr drosglwyddo os nad oedden nhw'n gwneud y taliad hwnnw.

'Y trosglwyddiad wedi ei gwblhau'

Mewn datganiad wedi'r penderfyniad i wrthod apêl Caerdydd, dywedodd CAS: "Ar ôl ystyried holl dystiolaeth a holl ddadleuon y ddau glwb, daeth panel CAS i'r casgliad bod trosglwyddiad y chwaraewr o FC Nantes i CPD Dinas Caerdydd wedi ei gwblhau.

"A chan fod amodau'r cytundeb trosglwyddo wedi eu cwblhau cyn marwolaeth y chwaraewr, mae cais FC Nantes am randal cyntaf y ffi trosglwyddo, sef €6m, wedi ei gadarnhau."

Mae Nantes wedi croesawu'r dyfarniad, gan ddweud bod y panel yn cefnogi dadl y clwb "ers dechrau'r achos bod trosglwyddiad y chwaraewr i Gaerdydd ar ben pan fu farw, yn drasig, mewn damwain awyren".

Ychwanegodd datganiad y clwb bod CAS hefyd wedi "dedfrydu Caerdydd i [dalu] swm hanesyddol o uchel" mewn cysylltiad â chostau'r achos.

"Mae FC Nantes yn falch bod y broses yma - y gwnaeth Caerdydd ei ddechrau a'i oedi ar sawl achlysur - sydd wedi bod yn anodd i bawb sy'n agos at Emiliano, ar ben o'r diwedd.

"Mae'r clwb yn gobeithio y bydd hyn yn nodi diwedd yr ymgyrch camwybodaeth cyhoeddus, na ymatebodd FCN iddo erioed, o barch i deulu'r chwaraewr."