Adroddiad: Brwydr Fawr Maes Dulyn 2022

  • Cyhoeddwyd
Tîm Sêr CymruFfynhonnell y llun, Begw Elain
Disgrifiad o’r llun,

Bu rhaid i Yws Gwynedd, Ifan Swnami a Mei Emrys hel eu hên sgidiau pêl-droed o'r atig

Dri deg dau mlynedd ers chwarae gêm bel-droed enwog ar Faes Dulyn ym Mhenygroes rhwng tîm Bryncoch a sêr Pobol y Cwm, mae'r clwb wedi cynnal ail 'frwydr' ym Maes Dulyn.

Begw Elain Roberts, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol CPD Nantlle Vale fu'n adrodd ar y gêm i Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Begw Elain
Disgrifiad o’r llun,

Begw Elain, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol CPD Nantlle Vale

Brynhawn Llun, 29 o Awst, teithiodd pobl o bob rhan o Gymru i weld gêm arbennig ym Maes Dulyn, cartref clwb hanesyddol Clwb Pêl-droed Nantlle Vale.

Gêm oedd hi rhwng Tîm Lejands Nantlle Vale a Thîm Sêr Cymru, a oedd yn cynnwys Bryn Fôn, Nathan Craig ac Yws Gwynedd. Doedd hi'n sicr ddim yn gêm i'w methu.

Er nad oes cofnod sicr o bryd gychwynnodd CPD Nantlle Vale, ymunodd tîm o'r enw Nantlle Vale â chynghrair gogledd Cymru 1919-20, yn yr ail adran, gan orffen yn nawfed allan o 14. Dyna ddechrau hanes y clwb.

Cafodd y gêm ei chynnal fel dathliad canmlwyddiant y clwb, rhywbeth nad oedd yn bosib yn ystod y pandemig yn 2020. Ond roedd hi'n werth yr aros gyda dros 1500 wedi dod i wylio'r gêm fawr!

Y timau

  • Tîm Lejands CPD Nantlle Vale

Ffynhonnell y llun, Begw Elain
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Tîm Lejands Nantlle Vale

Rheolwr - Craig Thomas, un o hyfforddwyr presennol tîm cyntaf CPD Nantlle Vale; is-reolwr - Elfed Thomas.

Y garfan - Mark Owen, David Parry, Carwyn Moss, Aled Jones-Griffiths, Dylan Williams, Paul Thomas, Simon Kay, Irfon Hughes, Aaron Hughes, Martin Hughes, Dylan Sion Jones, Peter Thomas, Jason Roberts, Eifion Jones, John Arwel Jones, David Hughes, Neil Thomas, Vic Barma, Colin Evans, Adrian Griffiths, Ian Pierce, Clive Jones, Geraint Jones, John Hayes, Neil Perkins, Math Davies a Jamie Thomas.

Er bod Maes Dulyn wedi gweld llawer iawn o enwogion ar y cae, roedd hi'n dal yn gyffrous croesawu'r enwogion yma i gae'r Vale ac yn sicr cawson nhw groeso mawr.

  • Tîm Sêr Cymru

Ffynhonnell y llun, Begw Elain
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Tîm Sêr Cymru

Rheolwr - Bryn Fôn; is-reolwr - Dewi Rhys.

Y garfan - Yws Gwynedd, Ifan Swnami, Osian Candelas, Siôn Emyr, Nathan Craig, Kevin Williams, Carwyn Glyn, Dyfan Rees, Aled Thomas, Osian Morgan, Welsh Whisperer ac Elidyr Glyn.

Ffynhonnell y llun, Begw Elain
Disgrifiad o’r llun,

Mr Urdd gyda'r dyfarnwr Aled Rhys Williams a'r lumanwr Rheinallt Davies

Y Gêm

Am ddau o'r gloch cafwyd munud o gymeradwyaeth er cof am rai o chwaraewyr gwreiddiol y Frwydr Fawr a'r diweddar Mei Jones a Dyfrig Evans.

Yna dechreuodd y gêm ac roedd Maes Dulyn yn llawn sŵn ac egni yn dod o bob cyfeiriad. Roedd y ddau dîm rheoli fel petaen nhw'n chwarae mewn ffeinal yn Wembley a sŵn y dorf yn cynyddu ar ôl bob cyfle am gôl.

Roedd y ddau dîm yn hynod o gystadleuol gyda goliau yn dod o'r ddwy ochr trwy'r hanner cyntaf gyda thîm Lejands Nantlle Vale ar y blaen 3-0. Ond doedd hi ddim yn hir cyn i dîm y Sêr ddechrau brwydro am y bêl gan ei hennill. Y sgôr ar hanner amser oedd 4-3 i dîm y Sêr.

Dechreuodd yr ail hanner ac mewn dim o amser daeth dau gôl arall i dîm Lejands Nantlle Vale, gyda Mistar Urdd yn gwneud ymddangosiad arall ar y cae.

Ffynhonnell y llun, Begw Elain
Disgrifiad o’r llun,

DJ Owain Llyr yn diddanu'r dorf

Y sgôr terfynol oedd 6-4 i dîm Lejands Nantlle Vale ar ôl perfformiad ac ymdrech cadarn gan dîm y Sêr. Sgoriwyd goliau'r gêm gan David Parry (2), Aaron Hughes (2), Eifion Jones a Dylan Siôn i dîm y Lejands ac i dîm y sêr, Iwan Fon (2), Ifan Swnami a Tyler, Pobol y Cwm (Aled Thomas).

Er bod Tecs (Bryn Fôn) a Gordon Whitehead (Dewi Rhys) yn rheoli tîm y Sêr doedd neb yn gallu dod yn agos i dîm Lejands CPD Nantlle Vale.

Un o'r aelodau tîm y Sêr a wnaeth ei farc ar y cae oedd yr actor Aled Thomas a chwaraeodd yn dda trwy'r gêm.

Ar ddiwedd y gêm, meddai: "Roedd yn gêm ffantastig, mae'r awyrgylch wedi bod yn arbennig, y dorf wedi bod yn grêt a'r golygfeydd yn fan hyn yn ffantastig ac roedd yn ddiwrnod llawn hwyl."

Mae elw'r gêm yn cael ei rannu rhwng Clwb Pêl-droed Nantlle Vale ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Efionnydd 2023. Hoffai'r clwb ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi ym mhob ffordd. Pwy a ŵyr... efallai y bydd Brwydr Fawr Maes Dulyn rhif 3 mewn 32 o flynyddoedd?!

Pynciau cysylltiedig