'Jôcs, y clasuron a chwerwder o hyd' wrth i Johnson adael Rhif 10

  • Cyhoeddwyd
Araith olaf Boris Johnson fel Prif Weinidog y DU yn Downing Street ben bore Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson yn rhoi ei araith olaf fel Prif Weinidog y DU yn Downing Street ben bore Mawrth

Mi oedd 'na jôcs, mi oedd 'na gyfeiriadau clasurol, ac mi oedd 'na chwerwder - roedd araith ddiwethaf Boris Johnson fel Prif Weinidog yn nodweddiadol ohono.

Dechreuodd drwy ddweud ei fod ar fin trosglwyddo'r baton mewn ras oedd, yn y diwedd, yn ras gyfnewid annisgwyl.

Doedd o methu maddau i'r cyfle i sgorio pwyntiau gwleidyddol, wrth ddweud "mae'r rheolau wedi newid hanner ffordd trwy'r ras, ond wnawn ni ddim mynd mewn i hynny rŵan".

Er mewn gwirionedd, y fo yn torri'r rheolau wnaeth frysio ei gwymp o'r uchelfannau gwleidyddol, ac mae'n amlwg yn dal i ddal dig.

Boris a Carrie Johnson yn gadael Downing StreetFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

A welwn ni Boris a Carrie Johnson unwaith eto ar garreg drws 10 Downing Street?

Aeth ymlaen i restru ei lwyddiannau fel Prif Weinidog: Cwblhau Brexit, y cynllun brechu a chefnogi Wcráin yn erbyn Rwsia - ymdrech i geisio rheoli tipyn ar ei waddol fel Prif Weinidog.

Dyma ddyn sydd wedi breuddwydio am fod yn 'Frenin y Byd' ers yn blentyn, ond mae ei ffaeleddau personol wedi dod â'r freuddwyd yno i ben yn ddigon disymwth.

Ond roedd 'na awgrym, o bosib, ei fod heb ddiystyru codi ei ben unwaith eto uwchben y parapet. Fel Cincinnatus, meddai, mi fyddai o rŵan yn dychwelyd at y gwŷdd.

Ar yr olwg gyntaf, mae'n arwydd ei fod yn paratoi i gilio o fywyd cyhoeddus. Ond fydd o'n gwbl ymwybodol, fel ysgolhaig clasurol, mai yn y pendraw, codi eto wnaeth Cincinnatus, fel unben!

Boris Johnson yn cyrraedd BalmoralFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson yn cyrraedd Balmoral i ymddiswyddo'n ffurfiol i'r Frenhines

Gorffennodd ei araith drwy gyfeirio at y gaeaf caled o'n blaenau ni, ond mae hi'n haf o hyd ym myd Boris Johnson.

"Mi ddown ni drwyddi ac mi godwn eto," meddai.

Synnwn i ddim ei fod yn teimlo rhyddhad mawr nad fo sy'n gorfod wynebu'r penderfyniadau sy'n disgwyl Liz Truss ar ddesg Rhif 10 Downing Street heddiw.

Ond mae ei gyfnod o wrth y llyw wedi dod i ben, am rŵan, ond efallai y gwelwn ni ei fop o wallt melyn unwaith eto cyn hir.