Cymorth biliau: Rhaid gweld y cynnig ar y bwrdd gan Truss
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Liz Truss ddangos pa gefnogaeth fydd yn cael ei gynnig i helpu pobl dalu biliau uwch, meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru.
Fe benodwyd Ms Truss yn Brif Weinidog yn dilyn cyfarfod gyda'r Frenhines yn Yr Alban ddydd Mawrth cyn iddi ddechrau penodi cabinet.
Ar ôl cael ei hethol yn arweinydd gan y Ceidwadwyr, mae wedi addo torri trethi a chyflwyno cynllun "beiddgar" ar gyfer yr economi.
Yn ôl rhai adroddiadau, mae ei thîm wedi ystyried rhewi biliau ynni.
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdydd, taw'r argyfwng costau byw yw'r flaenoriaeth gyntaf i'r prif weinidog newydd.
"Mae'n rhaid i ni weld y cynnig ar y bwrdd er mwyn i bobl gael deall pa gefnogaeth, pa help, sydd yno," meddai Mr Davies, a gefnogodd Ms Truss yn yr etholiad yn erbyn Rishi Sunak.
Roedd ganddi "fandad clir" ar ôl ennill 57% o'r bleidlais, meddai, ac fel gwleidyddion Torïaidd eraill, fe alwodd ar y blaid i uno dan yr arweinydd newydd.
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ei fod hefyd am weld cymorth i fusnesau bach "sy'n wynebu cael eu taro'n galed gan gostau ynni yn hedfan".
"Gallai fod angen taliadau ychwanegol i bobl anabl, pobl ar yr incwm isaf a phensiynwyr hefyd."
Ddydd Llun, fe wnaeth Mark Drakeford alw ar Ms Truss i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn lleddfu'r argyfwng costau byw.
"Nid oes amser i'w wastraffu - mae angen gweithredu nawr," dywedodd Prif Weinidog Cymru.
Beth nesaf?
Ar ôl cael ei chyhoeddi'n arweinydd ddydd Llun, bu Ms Truss yn cyfarfod gyda'r Frenhines yn Balmoral er mwyn cymryd yr awenau yn swyddogol.
Ar ôl dychwelyd o'r Alban, mae disgwyl iddi siarad â'r cyhoedd mewn araith yn Downing Street brynhawn Mawrth.
Fel pob prif weinidog newydd, bydd yn rhaid i Ms Truss ysgrifennu llythyron i gadlywyddion y Llynges yn eu gorchymyn ar sut i ymateb pe bai ymosodiad niwclear ar Brydain.
Hefyd ar ei rhestr o dasgau fydd penodi ei chabinet cyntaf.
Y disgwyl yw mai'r Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, fydd y Canghellor nesaf.
Mae 'na sïon y gallai Suella Braverman gael ei phenodi i'r Swyddfa Gartref, tra bod disgwyl i James Cleverly olynu Ms Truss fel Ysgrifennydd Tramor.
Fe fydd Robert Buckland yn gobeithio cadw ei le fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru - swydd a gafodd ym mis Gorffennaf.
Rishi Sunak oedd ei ddewis cyntaf fel arweinydd, ond fe newidiodd Syr Robert i gefnogi Ms Truss yn ystod yr ymgyrch, gan ddweud ei bod hi'n wleidydd all uno'r Blaid Geidwadol.
Ddydd Mercher fe fydd Ms Truss yn dod wyneb yn wyneb â Keir Starmer yn Nhŷ'r Cyffredin ar gyfer sesiwn holi'r prif weinidog.
Wrth adael Downing Street am y tro olaf fore Mawrth, dywedodd Boris Johnson ei fod yn "falch o fod wedi cyflawni'r addewidion" a wnaeth i'r blaid pan gafodd ei ethol, gan gyfeirio at y cynllun brechu Covid a'r cytundeb Brexit.
Gan erfyn ei blaid i gefnogi'r prif weinidog newydd, ychwanegodd ei fod yn gwybod y byddai Liz Truss "dosturiol" yn darparu cymorth drwy'r gaeaf i ddod.
"Rydym yn un Deyrnas Unedig gyfan," aeth ymlaen i ddweud, gan ddadlau'r achos dros yr undeb.
Dywedodd bod yr "undeb mor gryf fel y bydd y rhai sydd am ei dorri yn dal i geisio, ond ni fyddant byth, byth yn llwyddo".
Mi oedd 'na jôcs, mi oedd 'na gyfeiriadau clasurol, ac mi oedd 'na chwerwder - roedd araith ddiwethaf Boris Johnson fel Prif Weinidog yn nodweddiadol ohono.
Dyma ddyn sydd wedi breuddwydio am fod yn 'Frenin y Byd' ers yn blentyn, ond mae ei ffaeleddau personol wedi dod a'r freuddwyd yno i ben yn ddigon disymwth.
Ond roedd 'na awgrym, o bosib, ei fod heb ddiystyru codi ei ben unwaith eto uwchben y parapet.
'Rhaid iddi ddelio â'r problemau'
Wrth ymateb i araith Mr Johnson dywedodd yr aelod Ceidwadol yn Senedd Cymru, Sam Kurtz, bod lle i ddiolch i Mr Johnson am ei lwyddiannau yn y swydd.
"Ond cyfnod Liz Truss yw hi nawr a cawn weld gyda'r sialensiau sydd o'n blaen y gaeaf yma," dywedodd ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae wedi bod yn haf eithaf anodd i'r blaid, gyda chystadleuaeth arweinydd, ond nawr yw'r amser i barcio popeth a dod ymlaen i helpu Liz.
"Mae 'na lot o broblemau o'n blaenau ni gyda'r rhyfel yn Wcráin a phrisiau popeth yn mynd lan, mae hwn am fod yn gyfnod anodd iawn.
"Cawn weld dydd Iau beth yw ei strategaeth economaidd hi i sicrhau bod teuluoedd a busnesau yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw dros y gaeaf.
"Wnes i gefnogi Rishi Sunak, roedd bach mwy o fanylion gan Rishi dros yr haf... ond os mae hi'n dod mas gyda strategaeth cryf gall hi sicrhau bod dyfodol disglair i ni gyd.
"Mae hi 'di bod yn agored bod angen menthyg arian yn y cyfnod byr a torri trethi ar yr un pryd, felly cawn weld sut mae hwnnw a ddigwydd ac os mai hwnnw yw'r strategaeth cywir.
"Ond mae'n rhaid iddi ddelio â'r problemau sydd ganddo ni nawr neu fydd teuluoedd yn mynd yn dlawd a busnesau yn cau a does neb mo'yn gweld hynny.
"Mae wastad ffydd 'da fi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022