Costau Byw: sut mae gwledydd Ewrop yn ymateb?

  • Cyhoeddwyd
Menyw mewn siopFfynhonnell y llun, Getty Images

Gyda'r argyfwng costau byw yn taro mae'r miliynau o gartrefi sydd angen cymorth ar draws y Deyrnas Unedig yn dal i ddisgwyl clywed pa fesurau yn union fydd yn cael eu cyflwyno nesaf.

Wedi iddi gael ei chyhoeddi fel y Prif Weinidog newydd mae disgwyl i Liz Truss gyhoeddi yn fuan be' fydd y camau hynny ar gyfer y gaeaf.

Ond sut mae gwledydd eraill yn Ewrop yn mynd i afael â'r sefyllfa? Mae Cymru Fyw wedi holi Cymry ar draws y cyfandir sut mae eu llywodraethau nhw yn ymateb.

Sbaen - Gwenan Iolo

"Lleihaodd llywodraeth Sbaen y treth ar drydan i 5%, ymestynnon nhw'r cyfyngiad ar godiadau rhent a chynnig cymorth o €200 ar gyfer cartrefi incwm isel.

"Dros yr haf, daeth gyfyngiadau i fusnesau i rym dros y defnydd o ynni. Cyflwynon nhw fesuriadau fel cynyddu'r tymheredd isaf o'r system awyru i 27 gradd selsiws, fod rhaid cau drysau busnesau os yw'r system awyru ymlaen ac i droi goleuadau bant mewn adeiladau.

"Ers dechrau Medi, mae yna leihad o rhwng 30% a 50% ar drafnidiaeth gyhoeddus, canran sy'n ddibynnol ar y llywodraeth leol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau cyson wedi bod yn Sbaen dros y flwyddyn ddiwethaf

"Fi'n credu fod y camau ar y cyfan yn rhai synhwyrol, a fi'n gwerthfawrogi'n fawr y lleihad mewn prisiau trafnidiaeth gyhoeddus a'r treth ar drydan.

"Mae'r ymateb wedi bod yn bositif, ond mae'r cyhoedd yn credu fod angen i'r llywodraeth neud mwy, ac i gydweithio mwy gydag arweinydd yr wrthblaid i gymryd camau pellach."

Yr Eidal - Menna Price

"Mae'r llywodraeth yn yr Eidal yn gweithio ar ddwy lefel - yn fewnol a gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r sefyllfa yn newid yn gyflym ond mae'r llywodraeth bresennol (mae ganddon ni Etholiad Cyffredinol ar Fedi 25) wedi llwyddo i weithredu toriad tollau ar danwydd a phrisiau trydan a gosod ad-daliad treth i gostau egni busnesau.

"Dyw'r mesuriadau ddim yn datrys y broblem o'r chwyddiant uchaf ers 1985 (8.4%) sydd yn effeithio ar fywydau pawb, ond yn enwedig teuluoedd ac unigolion sydd mewn sefyllfa economaidd bregus.

"Mae'r llywodraeth yn canolbwyntio ar y defnydd o ynni trydan ac effeithlonrwydd egnïol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Protest 'Potiau Gwag' ar draws Yr Eidal ym mis Mehefin, 2022. Mae'r Eidal yn un o wledydd mwyaf bregus Ewrop gyda 40% o'i nwy wedi bod yn dod o Rwsia

"Mae'r broses o gyflawni'r tasgau yn rhy araf a biwrocrataidd. Mae angen ymateb sydyn a phendant achos mae'r ffynhonell nwy Nord Stream wedi cau yn derfynnol sydd yn gadael yr Eidal a stoc o 82% o nwy (80% yn yr Undeb Ewropeaidd).

"Mae'r olaf yn cynnwys addysgu oedolion a phlant sut i ddefnyddio egni (trydan, nwy a tannwydd) mewn ffordd effeithiol. Nid cost yw'r unig broblem ond y gallu i ddarparu egni i bawb. Mae angen llywodraeth cryf er mwyn dirprwyo llywodraethau lleol ac o ganlyniad, y gymuned."

Iwerddon - Angharad Williams

"Mae prisiau wedi codi, ond tydyn nhw heb godi i'r un gradd ag yng Nghymru. Wnes i wneud trip i Gymru yn ddiweddar ac roeddwn i wedi synnu ar brisiau pethau.

"Cawsom daliad eithriadol o €200 ym mis Ebrill a wnaeth hynna helpu. Mae sôn y bydd taliad arall y gaeaf hwn, ond dydi hyn ddim wedi cael ei gyhoeddi'n ffurfiol.

"Dydan ni ddim yn talu am ddŵr ac mae sbwriel yn cael ei gasglu gan gwmnïau preifat, ac nid yw'r pris wedi newid. Mae cost bwyd wedi codi, ond mae wedi bod yn gynnydd bach hyd yn hyn.

"Mae yna Daliad Anghenion Ychwanegol newydd, sy'n dibynnu ar brawf modd, ar gael i bobl sydd efo trafferth talu am bethau.

"Ar hyn o bryd, rydym yn aros am y gyllideb am 2023, ac mae'r Taoiseach Micheál Martin wedi dweud y bydd cefnogaeth yno i godi'r pwysau ariannol.

"Pan ddaw'r misoedd oerach bydd pobl yn sylwi arno'n wirioneddol, ond mae prisiau ynni ar fin codi a bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd iawn."

Ffrainc - Geraint Owen

"Yma yn ardal Limousin aeth y ddau ohonom i siopa heddiw. Llenwais danc y car â disel am €1.76 (£1.53) y litr ac aeth Gwen i bostio dau gerdyn am €1.80 (£1.55) yr un. Yn yr archfarchnad roedd cig eidion stiwio yn €8.

"Yn gyffredinol rhoddwyd cap o 4% ar gostau trydan nwy ac olew, gostiodd €5.5 biliwn i gwmni ynni EDF. Y llywodraeth sydd biau EDF. Hefyd, wrth gwrs, mae EDF yn gwerthu trydan i Brydain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf betrol yn Ffrainc. Ar hyn o bryd pris cyfartalog tanwydd yn y DU ydi £1.69.8

"Petai'r plant yn iau mi fydde gwarchodaeth meithrin am ddim rhwng 2-6 oed. Mae addysg am ddim heb ddillad ysgol gorfodol, ac felly hefyd bwyd y plant. Yn y prifysgolion gwladwriaethol - cost academaidd gradd gyntaf yw €170 y flwyddyn.

"Yn archfarchnad Intermarche roedd cigoedd stêc filet yn 40€ y kilo, sirloin yn 27€ a chig eidion stiwio i wneud bourgignon yn 8€.

"Cawswom ginio yn y Cheval Blanc, ac roedd plat de jour o dri chwrs, bara, 500ml o win a choffi, yn 13.75€ y pen sef y pris statudol ym mhob bwyty ar gyfer gweithwyr.

"Serch hynny, mae costau cynnyrch blawd wedi codi, ac yn parhau i godi er bod pris bara cyffredin wedi ei rewi."

Gwlad Belg - Caron Davies

"Mae nifer o benderfyniadau wedi'u gwneud i geisio amsugno'r sioc pris ynni yng Ngwlad Belg gymaint â phosibl. Mae'r rhain yn seiliedig ar:

"Lleihau defnydd. Mae'r llywodraeth wedi galw ar Wlad Belg a chwmnïau i leihau eu defnydd a gosod eisiampl dda.

"Cefnogaeth i'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae'r llywodraeth wedi ymestyn yr holl fesurau cymorth presennol tan fis Mawrth 2023.

"Cefnogaeth gan y banciau. Mae'r llywodraeth yn trafod gyda'r sector ariannol i roi hwb i'r cartrefi sydd wedi cael eu taro galetaf, gan gynnwys trwy ohirio taliadau morgais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau yn codi yn aruthrol ar draws Ewrop. Ym mharth yr ewro, ym mis Awst, roedd y chwyddiant ar 9.1% - y mwyaf erioed

"Mae'r llywodraeth hefyd wedi lleihau treth ar fuddsoddiadau mewn paneli solar, gwresogyddion dŵr solar a phympiau gwres o 21% i 6%, gyda'r mesur yn ddilys tan ddiwedd 2023.

"Credaf fod y llywodraeth wedi meithrin mwy o hyder yn y boblogaeth yn gyffredinol ond gwraidd y drwg o hyd yw ein dibyniaeth ar danwydd ffosil gan bartneriaid annibynadwy.

"Er bod Gwlad Belg wedi gosod cynlluniau clir, mae hefyd yn ymwybodol o'r ffaith mai dim ond ar lefel Ewropeaidd yn y pen draw y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r argyfwng hwn mewn gwirionedd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig