Wythnos Atal Hunanladdiad: 'Angen gofod i rannu gofid'

  • Cyhoeddwyd
Daniel Aled DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Rhagfyr 2021 bu farw Daniel Aled Davies, 34, drwy hunanladdiad

"Mae mor bwysig fod pobl yn gallu siarad am broblemau iechyd meddwl yn hollol agored a bod 'na ddim stigma ynghlwm â hynny."

Dyma eiriau tad o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth wrth siarad â Cymru Fyw i nodi Wythnos Atal Hunanladdiad y Byd.

Ym mis Rhagfyr 2021 bu farw Daniel Aled Davies, 34, drwy hunanladdiad.

"Roedd y cyfan yn sioc anferth i fi a ngwraig Julie. Doedd 'da ni ddim syniad - roedd e i weld mor hapus ei fyd," meddai Gareth Davies.

"Do'dd na ddim rheswm o gwbl 'da ni i feddwl y byddai fe'n gneud. O'dd e i weld yn hapus iawn gyda'i fywyd - roedd e mewn perthynas hapus a fe a'i bartner ar fin cael babi.

"Roedd 'dag e ddigon o waith fel saer coed, o'dd e'n berson ffit - yn rhedeg ac yn seiclo ac ro'dd digon o ffrindiau wastad gyda Daniel."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd marwolaeth Daniel yn "gymaint o sioc" i'w deulu

Ers rhai blynyddoedd roedd Daniel yn byw yn y de-ddwyrain. Roedd yn berchen ar fflat yng Nghasnewydd ac adeg ei farwolaeth yn byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner.

"Rhyw ddau neu dri diwrnod cyn iddo farw ro'dd e wedi mynd mas i fwyd 'da criw o Gasnewydd am ginio ac ro'dd e i'w weld yn hapus i bawb," meddai Mr Davies.

"Efallai bod 'na un neu ddau sylw fyddai rhywun yn gallu eu dehongli fel rhai negyddol wrth edrych yn ôl ond mae hynny'n rhan o bob sgwrs.

"Ac ychydig cyn hynny ro'dd e wedi mynd i weld ei ffrind Dafydd yng ngogledd Lloegr a hwnnw'n dweud na welodd e Daniel erioed mor hapus.

"Ond mae'n amlwg i ryw dywyllwch ddod drosto y bore Sadwrn 'na ym mis Rhagfyr a neb yn gwybod pam, a rywsut dwi'm yn credu ei fod wedi bwriadu 'neud.

"Ro'dd e fel petai ei wydr e'n orlawn rhywffordd ac wrth iddo orlifo doedd Daniel, o bosib, ddim yn gallu ymdopi."

'Anodd i fechgyn ifanc'

Dywed Mr Davies ei fod hi mor bwysig i greu sefyllfa lle mae pobl yn gallu siarad yn rhwydd am yr hyn sy'n eu poeni.

"Rhaid creu gofod i rannu gofid. Fi'n credu bod hi'n gallu bod yn anodd i fechgyn ifanc - ma'r ddelwedd macho 'ma ac mae'n anodd chwalu'r stigma.

"Mae'n bwysig bod ysgolion yn trafod hyn yn agored a'u bod yn dweud wrth ddisgyblion am rannu eu pryderon - os nad gyda rhieni gyda rhywun arall.

"Mae'n bwysig i rieni hefyd siarad gyda'u plant ond dyw e ddim mor hawdd â hynny fi'n gwybod.

"Ro'n ni fel rhieni yn browd iawn o Daniel ac yn teimlo bo' ni wedi creu awyrgylch yn y cartref lle mae modd siarad am unrhyw beth."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel yn rhedwr ac yn seiclwr o fri

Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau ar gyfer 2021 ddangos bod 12.7 marwolaeth drwy hunanladdiad yng Nghymru i bob 100,000 o bobl.

Mae hynny ychydig bach yn uwch na'r gyfradd y flwyddyn gynt, ac ychydig yn uwch hefyd na'r gyfradd o 10.3 marwolaeth i bob 100,000 o bobl drwy Gymru a Lloegr.

Dynion oedd tri chwarter yr achosion yn 2021, sy'n gyson efo tueddiadau tymor hir, meddai'r Swyddfa Ystadegau.

Yn ôl y Samariaid mae'r ffigyrau diweddaraf yn dystiolaeth nad oes digon yn cael ei wneud i leihau cyfraddau hunanladdiad uchel.

'Cyfnod hunllefus o hyd'

"Mae'n bwysig hefyd i deuluoedd ofyn am gymorth," ychwanega Gareth Davies, "ac ry'n yn gwerthfarogi parodrwydd y cyhoedd i siarad â ni er bod hynny'n anodd i rai.

"Mae Julie, y wraig, wedi elwa o gwnsela ac Angharad y ferch. Mae'n parhau i fod yn gyfnod hunllefus iawn ac i fod yn onest dyw amser ddim yn lleddfu'r boen.

"Mae gweld ein hŵyr newydd yn dod â hapusrwydd ond mae rhywun yn gwybod na fydd e'n gweld ei dad ac na chafodd Daniel y cyfle i weld ei fab.

"Mae 'na gerrig milltir i'w goresgyn o hyd - penblwyddi, Sul y Mamau a bu farw Daniel ar drothwy'r Nadolig.

"Mae fy ffydd yn fy nghynnal i - dwi'n warden yn Eglwys Llanbadarn Fawr ond eto roedd mynd yn ôl i'r eglwys ar y dechrau yn anodd iawn wrth i atgofion lifo am Daniel yn grwt bach yn chwarae yn yr Ysgol Sul.

"Mae fy ngwaith fel cynghorydd sir hefyd o gymorth mawr wrth i fi orfod ffocysu ar bethau eraill.

"Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddwn yn sefyll gan bod yr etholiad ond ychydig o fisoedd ar ôl i ni golli Daniel ond rwy'n falch bo' fi wedi penderfynu aros.

"Ond addasu i fywyd heb Daniel ry'n ni - ac mae hynny mor anodd."

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth a chefnogaeth ar gael yma.

Pynciau cysylltiedig