'O'n i'n sgrechen ar y llawr a na'th y plismon orfod mynd'
- Cyhoeddwyd
"Anghofia'i fyth o Ionawr y seithfed 2020 pan dda'th yr heddlu at y drws i ddweud bod Caio'r mab wedi lladd ei hunan. Pan a'th y plismon, do'dd dim sôn am unrhyw gefnogaeth."
Mae Rhian Wyn o Bontrhydfendigaid yn un o sawl teulu sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth cefnogi i deuluoedd sy'n colli plant drwy hunanladdiad.
Mae Llywodraeth Yr Alban newydd ariannu cynllun peilot a fydd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd am ddwy flynedd.
"Ni really angen rhywbeth yr un peth â'r Alban," meddai Rhian wrth siarad â Cymru Fyw.
"Fi'n cofio'n iawn rhyw blismon ifanc yn dod i'r tŷ tua 21:30 a dweud bod Caio wedi lladd ei hunan yng Nghaerdydd.
"Rwy'n fam sengl a dim ond fi a'n merched ifanc o'dd yn y tŷ."
'Cwbl 'traumatised' a mor unig'
"O'dd e'n brofiad ofnadw', o'n i'n sgrechen ar y llawr a'r merched yn eistedd ar y grisiau. Na'th y plismon yna orfod mynd gan ddweud 'I'm going to leave now'.
"Wedyn ro'dd heddlu Caerdydd yn ffonio yn ystod oriau mân y bore 'da ryw tick list yn gofyn hyn a'r llall - o'dd Caio ag epilepsi? O'dd e'n cymryd hyn, odd e'n cymryd y llall? O'n i'n gwbl traumatised a mor unig."
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod ar fin cyhoeddi fframwaith cenedlaethol ar gyfer sicrhau gofal yn ystod galar.
Dywed Heddlu De Cymru bod yn rhaid gofyn nifer o gwestiynau wedi marwolaeth sydyn.
Profiad tebyg oedd un Amanda a Geraint Williams o Aberystwyth, wedi i'w merch Phoebe farw drwy hunanladdiad ym Mai 2019.
"Yr unig bobl a welon ni oedd dau blismon a ddaeth i'r drws am 02:00 i dorri'r newyddion - fe arhoson nhw am 15 munud yn unig," meddai Amanda Williams.
"Roedden wedi ein parlysu'n llwyr ac ar ôl hynna welon ni neb a ni dal ddim wedi cael unrhyw gefnogaeth.
"Petai ein merch wedi'i llofruddio mi fyddai ni wedi cael cymorth swyddog cyswllt teulu ond chawson ni ddim byd. Diolch byth roedd gennym ein gilydd."
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael cais am ymateb.
'Rhaid darparu cefnogaeth'
Ychwanegodd Mrs Williams: "Dwi'm yn gwybod sut na'th Geraint lwyddo i yrru y noson honno i gartrefi ein rhieni.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cefnogaeth. Mae angen cefnogaeth ar rieni ac ar frodyr a chwiorydd.
"Yn digwydd bod ro'n yn gwybod am elusen 2 Wish Upon a Star drwy ffrind oedd wedi colli merch rai blynyddoedd ynghynt.
"Maen nhw yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd pobl ifanc o dan 25 - beth os yw'r plentyn a golloch yn hŷn na hynny. Be' wedyn?
"Fisoedd wedi'r farwolaeth rhaid wynebu cwest cyhoeddus - ac mae hynny hefyd yn brofiad anodd ac yn gallu bod yn brofiad unig i lawer."
Fe gollodd Wynne Davies a'i gŵr Geraint o Bontardawe eu merch Angharad yn 2014 - roedd hi'n 21 ac yn fam i fachgen bach.
"Mae'n amhosib esbonio'r profiad oni bai eich bo' chi wedi bod trwyddo fe'ch hunan," meddai.
"Nid just y golled ond y teimladau chi'n mynd trw'. Mae'n brofiad physical ac emosiynol. Fi'n cofio pan aethon ni draw a gweld Angharad yn ei chartref o'n i ffili stopio crynu...
"Fi'n credu am y flwyddyn gynta' o'n i mewn sioc. O'n i'n gwybod bod Angharad wedi marw ond rhywffordd o'dd fy meddwl i ddim yn gallu prosesu fe'n iawn... o'n i'n gwybod bod hi ddim yn dod 'nôl.
"Ond ro'dd yr ail flwyddyn yn anoddach rywsut... Mae pobl yn disgwyl i chi deimlo'n well ond dy'ch chi ddim.
"Chi hefyd yn gorfod paratoi atebion i gwestiynau am faint o blant sy 'da chi - ydych chi'n dweud tri a bod un wedi marw er fe fyddai wastad yn fam i bedwar."
Cafodd yr elusen 2 Wish Upon a Star, dolen allanol ei sefydlu yn 2012 gan Rhian Mannings wedi marwolaeth sydyn ac annisgwyl ei mab George - ddyddiau wedyn fe wnaeth ei gŵr Paul, 33, ladd ei hun.
Ers ei sefydlu mae'r elusen wedi rhoi cymorth i nifer o deuluoedd sydd wedi colli plant o dan 25 oed yn annisgwyl - nifer ohonynt drwy hunanladdiad.
"Rydym yn helpu teuluoedd sydd ag unrhyw gysylltiad Cymreig - teuluoedd o Gymru sydd wedi colli plentyn o dan 25 oed yma neu dramor a hefyd teuluoedd o bant sydd â phlentyn wedi marw yng Nghymru," medd Ann Edwards, un o Gydlynwyr Cwnsela a Chymorth yr elusen.
"Ers sefydlu'r elusen rydym wedi cefnogi 157 o deuluoedd plant a phobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad - roedd rhain i gyd o dan 25 ac yr ieuengaf yn 10 oed."
'Dyw pob teulu ddim yn cael gwybod'
Yn 2019 fe gyflwynodd Rhian Mannings ddeiseb, dolen allanol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Fe gafodd y ddeiseb ei llofnodi gan 5,682 o bobl.
"Ni'n gwybod wrth siarad â staff a theuluoedd, fod ein gwasanaeth yn newid bywydau'r rhai sydd wedi colli plentyn yn annisgwyl ond ry'n am i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i bob teulu pan fydd ei angen fwyaf.
"Mae perthynas dda 'da ni gyda'r heddlu ond am wahanol resymau dyw pob teulu ddim yn cael gwybod bo' ni ar gael i helpu.
"Byddai cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn lot o help, hoffem i bob teulu gael gwybodaeth a'r opsiwn i dderbyn ein cymorth."
Mae cael cefnogaeth yn hollbwysig, meddai Siân Angharad Retter o Dremain ger Aberteifi.
Bu ei brawd Steffan, 26, farw drwy hunanladdiad yn Nhachwedd 2018.
"Roedd e'n brofiad gwbl ofnadwy i fi a'n rhieni ac mae mor bwysig cael cefnogaeth. Yn fuan wedyn fe 'nes i a dwy arall oedd wedi colli rhywun ffurfio cangen gorllewin Cymru o LISS (Living in Suicide Shadow).
"Ry'n ni'n grŵp lle mae pawb yn deall beth yw poen hunanladdiad rhywun agos - mae'r grŵp yn rhoi cyfle i ni fynd am dro gyda'n gilydd a siarad am ein profiadau. Heb gefnogaeth mae'r cyfan yn gallu bod yn brofiad sobor o unig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae colli rhywun drwy hunanladdiad yn drasig a gall unigolion sy'n wynebu profiad o'r fath brofi teimladau cymhleth.
"Cyn hir fe fyddwn yn cyhoeddi ein Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer sicrhau gofal yn ystod galar.
"Bydd hwn yn cael ei gefnogi gan grant o £1m a fydd ar gael i ddarparwyr gofal y trydydd sector.
"Fel rhan o'r gwaith mae'r Cydlynydd Cenedlaethol a gyfer Atal Hunanladdiad yng Nghymru yn cydweithio ag asiantaethau allweddol i ddatblygu canllaw a fydd yn gwella'r ymateb a'r gefnogaeth i'r rhai sy'n galaru yn sgil hunanladdiad."
"Mae angen cefnogaeth gyson o hyd," medd Rhian Wyn.
"Chi ddim yn dod dros colli plentyn. Ma' Caio ar fy meddwl drwy'r dydd, bob dydd."
Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau a all gynnig cymorth i rai sydd wedi colli anwyliaid ar gael yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019