Y camau nesaf i'r Brenin newydd, Charles III

  • Cyhoeddwyd
The Prince of Wales, January 2020Ffynhonnell y llun, PA Media

Pan fu farw'r Frenhines, fe etifeddodd ei mab, Charles, cyn-Dywysog Cymru, y goron yn syth.

Ond, mae sawl cam ymarferol a thraddodiadol cyn y daw yn Frenin yn swyddogol.

Beth fydd ei deitl?

Bydd yn cael ei adnabod fel Brenin Charles III.

Dyna oedd penderfyniad cyntaf ei deyrnasiad. Fe allai fod wedi dewis unrhyw un o'i bedwar enw - Charles Philip Arthur George.

Nid ef yw'r unig un fydd derbyn teitl newydd.

Bydd gwraig y Brenin, Camilla, yn cael ei hadnabod fel y Frenhines Gydweddog.

Wrth anerch y wlad ddydd Gwener, dywedodd y Brenin Charles y byddai ei fab, William, a'i wraig yntau Kate, yn cymryd y teitlau Tywysog a Thywysoges Cymru.

Seremonïau swyddogol

Fe wnaeth y Brenin Charles III wneud cyhoeddiad swyddogol i'r Deyrnas Unedig ar y teledu nos Wener.

Roedd hynny yr un pryd â gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan St Paul, ble'r oedd Prif Weinidog y DU Liz Truss a Maer Llundain Sadiq Khan.

Bydd Charles yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol fel Brenin am 10:00 ddydd Sadwrn. Bydd hyn yn digwydd ym Mhalas St James yn Llundain o flaen y corff seremonïol, Cyngor yr Esgyniad.

Mae'r Cyngor yn cynnwys aelodau'r Cyfrin Gyngor - grŵp o uwch ASau presennol a blaenorol - ynghyd â rhai gweision sifil, uwch gomisiynwyr y Gymanwlad, ac Arglwydd Faer Llundain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Charles ei arwisgo fel Tywysog Cymru gan ei fam, Y Frenhines Elizabeth II, yng Nghaernarfon yn 1969

Bydd Proclamasiwn yn cael ei ddarllen yn y cyfarfod. Yn draddodiadol, mae'n gyfres o weddïau a llwon sy'n canmol y Frenhines flaenorol ac yn datgan cefnogaeth i'r Brenin newydd.

Fel gyda phob un o'r seremonïau hyn, bydd llawer o sylw'n cael ei roi i'r hyn allai fod wedi cael ei addasu, ychwanegu neu ddiweddaru yn y Proclamasiwn, fel arwydd o oes newydd.

Datganiad cyntaf y Brenin

Bydd y Brenin yn mynychu ail gyfarfod gyda Chyngor yr Esgyniad a'r Cyfrin Gyngor.

Yn dilyn ffanffer, bydd proclamasiwn cyhoeddus yn cael ei wneud o falconi ym Mhalas St James yn datgan mai Charles yw'r Brenin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Uwch Frenin yr Arfau yn cyhoeddi "God save the King", ac am y tro cyntaf ers 1952, bydd yr anthem yn cael ei chanu gyda'r geiriau hynny.

Bydd gynau'n tanio salíwt yn Llundain ac ar hyd y Deyrnas Unedig a bydd y proclamasiwn sy'n cyhoeddi Charles fel y Brenin newydd yn cael ei ddarllen yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast.

Y coroni

Dyma fydd y seremoni swyddogol lle fydd Charles yn cael ei goroni.

Oherwydd y paratoadau sydd eu hangen, mae disgwyl oedi tan y bydd hyn yn digwydd. Fe etifeddodd y Frenhines Elizabeth y goron yn Chwefror 1952, ond ni chafodd ei choroni'n swyddogol nes Mehefin 1953.

Ers 900 o flynyddoedd, mae'r coroni wedi digwydd yn Abaty Westminster. Mae'n wasanaeth crefyddol sy'n cael ei gynnal gan Archesgob Caergaint. Mi fydd yn gosod y Goron ar ben Charles - coron aur o 1661.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix / Getty Images

Yn wahanol i briodasau brenhinol, mae'r coroni yn achlysur y wladwriaeth - y llywodraeth sy'n talu amdano, ac yn ei hanfod, yn dewis y gwesteion.

Bydd cerddoriaeth a darlleniadau a bydd y Brenin newydd yn tyngu llw'r coroni o flaen llygaid y byd.

Pennaeth y Gymanwlad

Charles yw pennaeth newydd y Gymanwlad - sefydliad o 56 o wledydd annibynnol a 2.4 biliwn o bobl.

Ar gyfer 14 o'r gwledydd rheiny, ynghyd â'r DU, y Brenin yw pennaeth y wladwriaeth.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Pynciau cysylltiedig