Dioddefwr yn croesawu ymddiheuriad cenhadaeth am gam-drin

  • Cyhoeddwyd
Mark Murray
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Murray o Lanelwy ei gam-drin gan offeiriad mewn coleg hyfforddi yn Sir Gorllewin Efrog yn y 60au a'r 70au

Mae dyn o'r gogledd a gafodd ei gam-drin yn rhywiol mewn coleg hyfforddi i offeiriaid pan yn blentyn wedi croesawu ymddiheuriad gan genhadaeth Gatholig.

Roedd Mark Murray o Lanelwy, Sir Ddinbych yn un o nifer o ddioddefwyr fu'n cyfarfod ag Urdd y Comboni yn Llundain ddydd Mawrth.

Cafodd Mr Murray, 66, ei gam-drin gan offeiriad yng Ngholeg Sant Peter Claver ym Mirfield, Sir Gorllewin Efrog yn yr 1960au a'r 70au.

Dywedodd Mr Murray fod ymddiheuriad Urdd y Comboni wedi mynd ymhellach na'r disgwyl.

Cafodd Grŵp Dioddefwyr y Comboni wahoddiad i gwrdd ag Archesgob Westminster ac uwch glerigwyr eraill - gan gynnwys aelodau Urdd y Comboni - yn Llundain ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Bede Mullen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Coleg Sant Peter Claver ym Mirfield ei gau yn 1984

"Roedd yn llawer mwy positif na'r hyn ro'n i wedi dychmygu y byddai," meddai Mr Murray.

"Fe wnaethon nhw gydnabod y cam-drin, sy'n rhywbeth roedden ni wastad eisiau."

Roedd y Pab Francis wedi annog Urdd y Comboni i gwrdd â'r grŵp o ddioddefwyr yn dilyn cyfarfod preifat gydag ef.

'Erfyn am faddeuant'

Dywedodd Mr Murray fod yr Urdd wedi gwrando ar alwad y Pab a mynd ymhellach na gwneud ymddiheuriad syml.

"Fe wnaethon nhw erfyn arnom ni am faddeuant. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod mor ddiffuant ag oedd o," meddai.

"Mae'n gam dramatig ymlaen yn ein hadferiad."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y grŵp o ddioddefwyr wedi teithio i'r Fatican i rannu eu hanes gyda'r Pab Francis

Yn 2014 cytunodd Urdd y Comboni i dalu £120,000 o iawndal i 11 o ddynion a gafodd eu cam-drin yn y 60au a 70au, gyda Mr Murray yn un o'r rhain.

Fe wnaeth y dynion hefyd dderbyn ymddiheuriad gan Esgob Leeds wedi iddynt rannu eu hanes gyda'r Pab.

'Ymddiheuro'n ddiffuant'

Yn ymateb ar ran Urdd y Comboni dywedodd y Tra Pharchedig Tesfaye Tadesse eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i bob unigolyn wnaeth ddioddef camdriniaeth gan y rheiny oedd yn gyfrifol am eu lles, eu diogelwch a'u haddysg yng Ngholeg Sant Peter Claver".

"Rwy'n ymestyn yr ymddiheuriad yma i deuluoedd ac anwylion sydd wedi dioddef hefyd. Ry'n ni'n edifar fod camgymeriadau wedi'u gwneud dros y blynyddoedd."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio fod yr ymddiheuriad yma yn "dangos ein hawydd diffuant" i gydnabod yr effaith ddinistriol mae'r cam-drin wedi'i gael ar y dioddefwyr.

Dywedodd y grŵp dioddefwyr y byddant yn parhau i gwrdd ag Urdd y Comboni dros y misoedd nesaf.

Yn ôl Mr Murray mae hynny'n allweddol er mwyn sicrhau eu bod nid yn unig yn cydnabod camgymeriadau'r gorffennol ond yn ei atal rhag digwydd eto hefyd.

Pynciau cysylltiedig