Dafydd Elis-Thomas: Arwisgiad arall yn 'hynod annhebygol'

  • Cyhoeddwyd
Yr Arglwydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn siarad ar raglen Newsnight nos Iau

Mae cyn-Lywydd y Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn credu bod arwisgiad arall, tebyg i'r un ym 1969, yn "hynod annhebygol".

Yn ystod ei araith gyntaf fel Brenin yn dilyn marwolaeth ei fam, cadarnhaodd y Brenin Charles III bod ei fab, William, yn ei olynu fel Tywysog Cymru.

Ers hynny mae peth trafodaeth wedi bod yng Nghymru am natur y rôl ac a ddylai ei nodi gyda seremoni ffurfiol.

Ond dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas na fyddai'n ffafrio "stynt" debyg i 1969.

"Rwy'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond nid wyf yn meddwl y dylwn ei gyhoeddi ar Newsnight," meddai, pan holwyd a oedd yn credu byddai arwisgiad arall.

"Bydd parti, byddwn i'n ddychmygu, ar gyfer Tywysog a Thywysoges newydd Cymru ond yn bersonol dydw i ddim yn ffafrio stynt arall yng Nghastell Caernarfon.

"Cafodd y cyntaf [1911] ei drefnu gan David Lloyd George a'r ail gan George Thomas, oedd yn ymgais i wneud eu hunain yn boblogaidd fel gwleidyddion - sydd ddim yn ffordd deg i drin y Teulu Brenhinol."

'Ddim yn ddiwrnod da i brotest'

Mae protest 'dawel' yn erbyn y Frenhiniaeth hefyd wedi ei threfnu heddiw y tu allan i Gastell Caerdydd gan gyn-AS Plaid Cymru Bethan Sayed.

Ffynhonnell y llun, Fox Photos/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Arwisgiad Charles yng Nghastell Caernarfon, 1969

Fe wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas feirniadu hynny'n chwyrn.

"Dyw hi ddim yn ddiwrnod da o gwbl i brotest. Mae'n beth gwirion iawn i'w wneud oherwydd rydyn ni dal mewn cyfnod o alaru," meddai.

"Dylem fod yn cydnabod llwyddiannau y Frenhines fel pennaeth y wladwriaeth... roedd hi'n gefnogol iawn ac yn deall fod beth roedd wedi ei brofi yn y Gymanwlad eisoes, bellach yn digwydd yng Nghymru.

"Roedd hi'n gefnogol iawn i ddatblygiad datganoli, a fyddai rhywun heb ddisgwyl hynny yn seiliedig ar rai pethau y dywedodd ar ddechrau ei theyrnasiad."