Caergybi: Stena yn prynu cyn safle Alwminiwm Môn

  • Cyhoeddwyd
Cyn safle Alwminiwm MônFfynhonnell y llun, Orthios
Disgrifiad o’r llun,

Bydd hen safle Alwminiwm Môn ar gyrion Caergybi yn "ehangu a datblygu'r porthladd", yn ôl Stena

Mae cwmni porthladd Stena wedi cadarnhau ei fod wedi prynu cyn safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi.

Yn ddiweddar, daeth y safle yn "barc eco" dan berchnogaeth cwmni o'r enw Orthios a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth eleni. Fe gollodd 140 o bobl eu swyddi.

Wrth gyhoeddi'r pryniant, dywedodd Stena y bydd y safle yn eu galluogi i ehangu a datblygu porthladd Caergybi.

Dywedodd y cwmni ei fod yn dal i weithio ar yr union gynlluniau ar gyfer y safle, ond eu bod yn obeithiol am fwy o swyddi yno yn y dyfodol.

'Hwb i'r economi a swyddi'

Fe ddisgrifiodd Ian Hampton, Cyfarwyddwr Gweithredol Stena Line UK Ltd, y pryniant fel "buddsoddiad sylweddol".

"Mae'n ffurfio rhan bwysig o'n strategaeth hir dymor ar gyfer dyfodol Porthladd Caergybi," ychwanegodd.

"Mae gan ein cynlluniau ar gyfer y safle botensial i fod yn hwb sylweddol i'r economi rhanbarthol a swyddi lleol.

"Caergybi yw'r porthladd mwyaf ry'n ni'n berchen arno a'r brif ffordd i Iwerddon... ac mae gan y cytundeb hwn y potensial i'w wneud hyd yn oed yn fwy a sicrhau ei fod yn dod â buddsoddiad pellach a swyddi i Gaergybi."

Disgrifiad o’r llun,

Protest symbolaidd tu allan i fynedfa gwaith Orthios yng Nghaergybi

Ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth gweithwyr menter ailgylchu gynnal protest tu allan i brif fynedfa'r safle ar ôl i 140 o weithwyr gael gwybod na fyddai swyddi yno iddyn nhw mwyach.

Daeth cadarnhad fod prif gyllidwr preifat cwmni Orthios wedi penderfynu rhoi'r busnes yn nwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran rheolwyr y cwmni eu bod hwythau wedi dychryn gyda'r datblygiadau.

Yn dilyn y cyhoeddiad y byddai Stena yn prynu'r safle ddydd Mawrth, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, groesawu'r pryniant.

"Bu bron i ni golli'r safle, a gan ei fod yn safle mor strategol bwysig - o ran datblygu economaidd a chreu swyddi ar Ynys Môn - roedd yn allweddol bod ei berchennog yn rhywun a allai weithio gyda Llywodraeth Cymru, y Cyngor lleol ac eraill i geisio i wneud y mwyaf o'i botensial.

"Mae potensial mawr i ddatblygu porthladd Caergybi, yn enwedig yn y sector ynni adnewyddadwy, ac mae Stena yn amlwg yn bartner pwysig yn hynny, felly gall y cyhoeddiad hwn heddiw helpu i glymu uchelgeisiau ynghyd wrth inni geisio gwneud y gorau o'r safle hwn ar gyfer y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig