Casnewydd: Beirniadu arwyddion strydoedd uniaith Saesneg

  • Cyhoeddwyd
enwau Casnewydd

Mae Cyngor Sir Casnewydd wedi cael ei feirniadu am osod arwyddion enwau ffyrdd Saesneg yn unig yng nghanol y ddinas.

Yn ôl un ymgyrchydd iaith sy'n byw yng Nghasnewydd, mae'r awdurdod wedi "colli cyfle" - yn enwedig o gofio'r dreftadaeth a'r ymdrechion i hybu'r Gymraeg yn y ddinas.

Wrth siarad â Newyddion S4C, awgrymodd Elin Maher y gallai'r cyngor fod wedi cynnig cyfieithiadau Cymraeg i enwau strydoedd "a rhoi dewis i'r trigolion pa enwau yr hoffen nhw eu defnyddio ar eu hewl nhw".

"Ry'n ni yn galw ar i Gyngor Casnewydd ailystyried y polisi fel bod modd, nid yn unig, defnyddio enw stryd Gymraeg ond hefyd edrych ar ddiwylliant a hanes y ddinas a'r cysylltiadau gyda'r Gymraeg ac edrych, o bosib, ar roi enwau newydd Cymraeg a Chymreig i strydoedd y ddinas," meddai.

Doedd Cyngor Casnewydd ddim am ymateb ond polisi swyddogol y cyngor yw gosod arwyddion dwyieithog mewn ardaloedd newydd.

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod nad yw safonau'r Gymraeg yn gorfodi awdurdodau lleol i greu enwau Cymraeg newydd ar strydoedd.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen hyrwyddo'r Gymraeg yn weladwy yng Nghasnewydd,' medd Elin Maher

Yn ôl Cyfrifiad 2011 doedd gan 87% o bobl Casnewydd ddim gwybodaeth o'r Gymraeg.

Ychwanegodd Ms Maher bod enwau stryd yn fodd i ni sylwi "fod y Gymraeg yn bresennol".

"Mae'n rhaid cofio bod y Gymraeg wedi bod yng Nghasnewydd ar hyd yr amser - mae'r eglwysi wedi bod yn cynnal y Gymraeg ac erbyn hyn mae addysg a phobl y gymuned yn ei dathlu hi ai chofleidio hi ac mae'n hen bryd ein bod yn cynnig cyfleoedd newydd i bawb yn y gymuned i weld y Gymraeg.

"Hoffen i gael sgwrs gyda'r cyngor ynglŷn â sut ydan ni'n edrych ac yn hyrwyddo'r Gymraeg yn weladwy yn y ddinas.

"Os ydy'r sir yn cefnogi amcan Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr - yna mae'n rhaid i ni edrych ymhellach na'r elfennau arferol, y rhai traddodiadol - mae'n rhaid edrych y tu hwnt i hynny.

"Mae angen y sgwrs yna gyda'r gymuned mewn fforwm fyw fel bod ni'n gallu cyfrannu at y syniad yma o Gasnewydd ddwyieithog neu amlieithog, wrth gwrs."

'Dim gorfodaeth'

Wrth holi ar strydoedd Casnewydd y farn ymhlith pobl nad oedd yn medru'r Gymraeg oedd bod "99% o'r bobl yn y ddinas yn siarad Saesneg beth bynnag" ac nad oedd e'n fater o bwys.

Roedd un arall yn dweud bod hi'n iawn defnyddio'r Gymraeg petai'r Cymry am gadw eu hiaith a'u treftadaeth gan osod y Gymraeg o dan y Saesneg.

Dywedodd un arall ei bod hi'n Gymraes ac nad oedd hi wedi sylwi a bod 'Casnewydd' i'w weld, beth bynnag, wrth enwi'r cyngor ar yr arwydd.

Mewn datganiad dywedodd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg eu bod yn ymwybodol o'r arwyddion a'u bod mewn cysylltiad â Chyngor Casnewydd.

Ychwanegodd fod rhoi enwau Cymraeg i strydoedd - yn enwedig enwau sy'n perthyn i dreftadaeth a hanes lleol - yn fodd effeithiol o wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn y gymuned a chreu naws am le.

Ond maen nhw'n cydnabod "nad yw safonau'r Gymraeg yn gorfodi awdurdodau lleol i greu enwau Cymraeg newydd ar strydoedd".