Heddlu Dyfed Powys eisiau bod yn 'hollol ddwyieithog'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae mor bwysig sicrhau llu dwyieithog'

Mae hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i swyddogion newydd dan hyfforddiant wedi cychwyn ym mhencadlys Heddlu Dyfed Powys.

Am y tro cyntaf, bydd recriwtiaid yn medru manteisio ar y cyfle i wneud eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn "rhy fodlon dros y blynyddoedd i dderbyn gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg".

Awgrymodd Dr Richard Lewis hefyd fod y cyhoedd yn gallu bod yn fwy parod i rannu gwybodaeth gyda swyddogion sy'n siarad Cymraeg.

Ychwanegodd mai nod y cynllun yw sicrhau bod y llu yn datblygu i fod yn "hollol ddwyieithog".

Y cyhoedd yn ymddiried mwy?

Wrth ddisgrifio pwysigrwydd y cynllun hyfforddiant, dywedodd Dr Lewis: "Ry'n ni'n wasanaeth cyhoeddus, ry'n ni felly'n gorfod sicrhau bod 'na wasanaeth yn ddwyieithog ym mhobman.

"Ry'n ni fel siaradwyr Cymraeg wedi bod yn rhy fodlon dros y blynyddoedd i dderbyn gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg.

"Mae eisiau i ni newid hynny yn fewnol yn Dyfed Powys i sicrhau'r gwasanaeth hynny."

Wrth siarad ym mhencadlys y llu yn Llangynnwr, Caerfyrddin ddydd Mawrth, soniodd y Prif Gwnstabl am y manteision personol i'r swyddogion o fedru'r Gymraeg.

"Dwi'n cofio'n amser fel heddwas pan o'n i'n gweithio ar y strydoedd, faint fwy o wybodaeth bydden i'n cael, ac ambell waith, faint fwy bydde pobl yn ymddiried yndda i fel heddwas os fydden nhw'n ystyried bo' fi'n medru'r iaith.

"Bydd 'na lu cyfan yn y dyfodol o bobl sydd yn gallu gwneud hynny a dwi'n gobeithio bydd y gwasanaeth ry'n ni'n gallu cynnig iddyn nhw yn well, ond hefyd bydd y wybodaeth ry'n ni'n cael 'nôl o'r cymunedau yn well."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn ei bod hi'n "her fawr i newid diwylliant o fewn y llu"

Mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol De Cymru, bydd hyfforddiant academaidd ac ymarferol cyfrwng Cymraeg yn cael ei gynnig i'r swyddogion newydd, os ydyn nhw'n dymuno.

Bydd swyddogion dan hyfforddiant di-Gymraeg neu ddysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau iaith trwy senarios ymarferol a gweithdai ychwanegol.

"Mae'r rhai sydd yn medru'r iaith, yn siaradwyr Cymraeg, mi fydd 'na ddyletswydd arnyn nhw i helpu'r rhai sydd yn ddi-Gymraeg," meddai Dr Richard Lewis.

"Mae tua deunaw o siaradwyr Cymraeg a deunaw di-Gymraeg yma ac erbyn diwedd eu hyfforddiant, byddan nhw gyd yn medru'r Gymraeg i raddau, ond mae hwn yn rhywbeth byddwn i'n hoffi sicrhau bod y llu cyfan yn gallu gwneud mewn blynyddoedd i ddod."

'Her fawr iawn i newid y diwylliant'

Yn ôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, mae'r cynllun hyfforddiant yn dangos ymrwymiad Dyfed Powys at yr iaith Gymraeg.

"Os y'n ni eisiau rhoi gwasanaeth cyflawn i'n cymuned, mae'r iaith Gymraeg yn gorfod bod yn rhan o hynny," meddai.

"Ry'n ni hefyd yn ymateb i her Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r siaradwyr Cymraeg yn eu her cynllun strategol nhw ac ry'n ni'n edrych i gyfrannu at hwnna fel mudiad."

Er gwaetha'r weledigaeth, mae 'na gydnabyddiaeth bod gwaith caled o'u blaenau fel llu.

"Mae'n mynd i fod yn her fawr iawn i newid y diwylliant o fewn y llu ond ry'n ni ar y cam cyntaf," meddai Mr Llywelyn.

"Hwn yw'r cam cyntaf efallai dros ryw ddegawd neu mwy o gynyddu'r defnydd o Gymraeg yn allanol, yn weledol i'r gymuned ry'n ni'n ei wasanaethu ond hefyd yn fewnol.

"Dwi'n gobeithio byddwn ni'n gweld heddiw fel y cam cyntaf ar y daith hynny, sydd yn gam positif iawn i ni fel llu."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynllun ei ddisgrifio gan Dr Dafydd Trystan fel un "arloesol"

Gyda dros 35 o swyddogion dan hyfforddiant yn cychwyn eu taith ym Mhencadlys Dyfed Powys, dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bod cynllun hyfforddiant y llu yn un "arloesol".

"Mae'n gyffrous iawn gweld Heddlu Dyfed Powys yn camu ymlaen gyda darpariaeth Cymraeg a dwyieithog i'w hyfforddeion nhw nawr," meddai.

"Mae'n gam pwysig ymlaen a fydd e'n sicrhau bod yr heddlu yn y rhan yma o'r wlad beth bynnag yn gallu darparu gwasanaeth cyflawn dwyieithog i bobl."