'Hen bryd' adolygu heddluoedd Cymru ac uno erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
Y Prif Gwnstabl Richard Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Richard Lewis yn brif gwnstabl ar y llu ble y dechreuodd ei yrfa yn 2000

Mae prif gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys eisiau gweld un llu'n gweithredu yng Nghymru erbyn 2030, ond mae'n gwadu ei fod yn dymuno bod yn brif gwnstabl Cymru.

Yn siaradwr Cymraeg o Sir Gaerfyrddin, fe ymunodd Dr Richard Lewis â'r llu fel cwnstabl yn 2000, a chodi drwy'r rhengoedd, gan ddychwelyd i'r rhanbarth yn dilyn cyfnod fel prif gwnstabl Heddlu Cleveland.

Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C, fe ddywedodd bod hi'n hen bryd adolygu'r drefn blismona yng Nghymru - sydd wedi bodoli ers y 1960au.

Ond mae un o gomisiynwyr eraill Cymru wedi galw'r syniad yn un "twp".

"Rwy'n Gymro balch, yn wladgarwr ond nid ar sail rhamant dwi wedi galw am un llu cenedlaethol," meddai.

"Dwi ddim yn gweld bod angen pedwar prif gwnstabl, pedwar comisiynydd, pedwar dirprwy brif gwnstabl.

"Dwi'n credu bod cymunedau lleol yn becso pwy yw eu heddwas lleol. Mae'r syniad yn ddatblygiad o'r hyn mae'r Arglwydd Thomas wedi dweud yn ei adroddiad ef.

"Mae yna Fwrdd Plismona dros Gymru, Bwrdd Cyfiawnder Cenedlaethol dros Gymru - datblygiad naturiol yw hyn o beth mae'r lleill wedi dweud ers blynyddoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw ffiniau heddluoedd Cymru heb newid ers 1968

Fe fyddai uno'r pedwar heddlu yn creu un llu gyda dros 7,400 o swyddogion, yn ôl ystadegau'r Swyddfa Gartref.

Mae yna dros 34,000 o swyddogion yn Heddlu'r Metropolitan. Dyma fyddai'r trydydd llu mwyaf o ran maint yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan Heddlu'r Met a Heddlu Dinas Llundain 34,907 o swyddogion. Mae gan Heddlu'r West Midlands 7,535 ac mae yna 7,348 o swyddogion yn ardal Greater Manchester.

Mae gan Heddlu'r Alban 17,000 o swyddogion, ac mae yna 6,700 o swyddogion yn gweithio i wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.

Gwaredu ffiniau

Ac yntau wedi bod yn y swydd ers pedwar mis mae Dr Lewis yn gwadu taw gwneud arbedion yw prif bwrpas cael un llu yng Nghymru.

"Dwi ddim yn credu bod angen gwneud arbedion mewn un llu.

"Dwi'n gweld taw buddsoddiad sydd eisiau gwneud mewn plismona yng Nghymru wrth waredu ffiniau.

"Yng Nghymru gallwn ni daclo problemau Cymru ar raddfa genedlaethol yn hytrach na gwneud pethau pedair ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu-Dyfed Powys yn gyfrifol am blismona ardaloedd canolbarth a gorllewin Cymru

Yn Yr Alban, mae un llu wedi gweithredu ers 2013 ers pan unwyd wyth llu rhanbarthol.

Digon stormus oedd y blynyddoedd cychwynnol i'r llu newydd, gyda phryder am doriadau mewn sawl ardal.

Yn ôl Dr Richard Lewis, mae modd dysgu o'r camgymeriadau a wnaed yn Yr Alban.

"Fe fuodd y blynyddoedd cynnar yn anodd, ond dwi'n credu gallwn ni ddysgu'r gwersi hynny yn Yr Alban a sicrhau bod ni ddim yn gwneud yr un camgymeriadau yng Nghymru.

"Dyw e ddim yn drychinebus nawr. Mae'n gweithio yn dda."

Syniad 'twp'

Mae yna farc cwestiwn, serch hynny, ynglŷn â'r gefnogaeth i'r syniad o gyfeiriad yr heddluoedd eraill yng Nghymru.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Comisiynydd Heddlu'r De, Alun Michael fod y syniad o gael un llu i Gymru gyfan yn un "twp".

"Mae gen i barch mawr at Richard Lewis, fydd o'n llwyddiant yn ei faes sgwâr, ond rhaid cadw gwreiddiau plismona yn lleol", meddai.

"Mae'n bosib rhedeg yr elfen adweithiol o blismona ar ôl traed mwy fel Cymru a rhanbarthau o Loegr, ond fysa'n colli atebiaeth y Prif Gwnstabl i gymunedau.

"Dyna beth sydd wedi digwydd yn Yr Alban.

"Roeddwn ni'n clywed gan gynghorau lleol yn Yr Alban ar ôl uno yn un llu, bod pob cysylltiad 'efo'r Prif Gwnstabl wedi mynd."

Dywedodd Heddlu'r De nad oedd ganddyn nhw "unrhyw sylw i'w wneud", a'r un oedd ymateb Heddlu Gwent, a doedd dim ymateb gan Heddlu'r Gogledd i'r cais am sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Lewis eisoes wedi siarad am yr "hawl" i siarad Cymraeg gyda'r heddlu, yn hytrach na "braint"

Dyw plismona ddim yn faes sydd wedi ei ddatganoli yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Nod y strwythur plismona presennol yw sicrhau fod gan bawb lais ar blismona yn eu hardaloedd, trwy gyfrwng y Comisiynwyr Heddlu etholedig.

"Mae prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu yn cydweithio gyda lluoedd eraill ar amrywiaeth o bethau i wella'r gwasanaeth i'r cyhoedd.

"Rydym wedi recriwtio 479 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru, ac fe fydd heddluoedd Cymru yn cael £820m yn 2022/23, cynnydd o £39.2m ar y flwyddyn flaenorol."

'Amser i ailfeddwl'

Er nad oes yna gefnogaeth gyhoeddus ymhlith yr heddluoedd eraill i'r syniad o un llu i Gymru, mae Dr Lewis yn dweud bod "siarad yn gyhoeddus" am y mater yn beth pwysig.

Un pryder amlwg wrth uno'r lluoedd fyddai'r perygl o flaenoriaethu'r ardaloedd trefol a dinesig, ar draul ardaloedd gwledig.

Yn ôl Dr Lewis, mae'n bwysig nad yw hynny yn digwydd.

"Mae'n bwynt pwysig ac yma yn Heddlu Dyfed-Powys, gwledig ydym ni ar y cyfan.

"Fi'n credu bod angen ffordd i sicrhau bod yr heddweision sydd gyda ni yma yn Nyfed-Powys heddi yn aros o fewn yr hen ffiniau i sicrhau nad yw'r adnoddau yn mynd at Abertawe, Caerdydd, Bangor ac yn y blaen.

"Dyw'r ffiniau yna heb newid ers 1968, ac mae'n amser i ailfeddwl hynny fi'n credu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Richard Lewis wedi bod yn ei swydd newydd ers pedwar mis

Ar ôl cyfnod yng ngogledd Lloegr fel Prif Gwnstabl Cleveland, mae'n dweud ei fod yn "hyfryd i fod adref" ac yng "Nghymru fydd fy nyfodol i. Dyma ble fydda i tan ddiwedd fy ngyrfa plismona."

Mae'n gwadu, serch hynny, ei fod am fod yn Brif Gwnstabl Heddlu Cymru.

"Dwi wedi gosod yr amserlen ar gyfer wyth mlynedd yn y dyfodol ar bwrpas.

"Beth dwi eisiau gwneud yw paratoi'r gwaith nawr i sicrhau fod yna rywun yn y dyfodol yn medru gwneud y swydd honno.

"Dyna fy ngwaith i, dwi'n credu."

Pynciau cysylltiedig