Rhiwabon: Anfon dyn i ysbyty seiciatryddol am ladd ei nain

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu tu allan i dŷ Susan Hannaby yn Rhiwabon
Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd heddlu tu allan i dŷ Susan Hannaby yn Ffordd New Hall, Rhiwabon wedi i'w chorff gael ei ganfod yno

Mae dyn o Wrecsam oedd wedi cyfaddef dynladdiad ei nain wedi cael ei anfon am gyfnod amhenodol i ysbyty seiciatryddol.

Cafwyd hyd i gorff Susan Hannaby, 69, yn ei thŷ yn Rhiwabon yn dilyn tân ym mis Chwefror y llynedd.

Roedd ei hŵyr 26 oed, Kyle Ellis wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o'i llofruddio ond fe dderbyniodd yr erlyniad ei ble o gyflawni dynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Clywodd Llys Y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi cael sawl asesiad gan ddau seiciatrydd ymgynghorol ac wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd.

Roedd Ellis, a ymddangosodd yn y llys drwy gyswllt fideo, wedi byw gyda'i nain - a'i daid a fu farw yn 2020 - am o gwmpas 10 mlynedd.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi curo, tagu a thrywanu Mrs Hannaby yn ei chartref yn Ffordd New Hall, cyn cynnau'r tân.

'Hunllefau'

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd mam y diffynnydd, Sharon Ellis, ei bod wedi caru ei mam yn fawr iawn a'i bod "yn falch bod Kyle yn cael y driniaeth y mae ei angen".

"Rydym yn siarad," fe ychwanegodd, "ac mae hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i mi."

Yn ei datganiad hithau, dywedodd wyres Mrs Hannaby, Stephanie Parry, bod clirio tŷ ei nain wedi achosi "hunllefau", a'i bod "yn cael trafferth edrych ar, na dal cyllell heb feddwl be aeth nain drwyddo".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug

Roedd yr ymosodiad ar Mrs Hannaby, meddai'r Barnwr Rhys Rowlands, wedi bod yn un "hir a milain".

Ond dywedodd bod hi'n glir na fyddai Ellis wedi cyflawni'r "drosedd ofnadwy" yma oni bai am ei salwch meddwl ar y pryd, oedd heb ei gadarnhau "heb sôn am gael ei drin".

Dywedodd bod Ellis wedi "ei faldodi'n llwyr" ar ôl mynd i fyw gyda'i nain a'i daid yn 14 oed.

Roedd ei nain, oedd â phroblemau iechyd ei hun, wedi dibynnu arno fwyfwy wedi marwolaeth ei daid, ac roedd yna "straen ar brydiau" ar eu perthynas.

Roedd Ellis wedi cymryd cyfnod o'r gwaith am ei fod dan straen ac roedd ei berthynas â'i gariad wedi dod i ben.

Negeseuon wedi peri gofid

Yn y dyddiau cyn yr ymosodiad, roedd ei ymddygiad wedi dechrau dod yn destun pryder i'w ffrindiau a pherthnasau.

Anfonodd negeseuon testun a wnaeth beri gofid, gan honni iddo ddioddef camdriniaeth pan yn blentyn.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr bod yna ddim cymhelliad i'r farwolaeth, ac mai'r "seicosis oedd y rheswm".

Gan osod gorchymyn ysbyty am gyfnod amhenodol, dywedodd wrth Ellis mai mater i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fydd penderfynu pa bryd y dylid ei ryddhau.

Dywedodd bod yr achos yn un "drasig", gan gydymdeimlo â theulu a ffrindiau Mrs Hannaby.

Pynciau cysylltiedig