'Angen rhywbeth i ddifyrru pobl ifanc Y Bala'

  • Cyhoeddwyd
Parc sglefrfyrddio yn Y Mwmbwls

Mae 'na alw i sefydlu parc sglefrio a golff gwyllt yn Y Bala er mwyn i bobl ifanc gael rhywbeth i'w wneud.

Daw'r apêl gan Marie Kirkman, sy'n rhedeg gardd gymunedol yn y dref, ble mae disgyblion Ysgol Godre'r Berwyn yn mynd ati'n wythnosol i ddysgu am arddio o bob math.

Mae hi'n credu y byddai'r grîn yng nghanol y dref yn lle delfrydol ar gyfer adnoddau o'r fath.

Dywedodd cynghorydd lleol bod angen ystyried a oes modd gwireddu syniadau sydd wedi eu hawgrymu gan bobl ifanc lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi treulio amser yn yr ardd gymunedol ond mae angen mwy i'w difyrru yn y dref, medd Marie Kirkman

Fe amlinellodd Ms Kirkman yr hyn y mae'n gobeithio amdano yn ystod sesiwn wythnosol y disgyblion yn yr ardd gymunedol.

Cafodd yr ardd ei sefydlu, meddai, "achos mae bywyd wedi mynd yn galed" ac awydd i "helpu pobl i gael bwyd am ddim".

"Dwi isio tyfu pethe yma i bobl gael bwyta trwy'r gaeaf, haf… beth bynnag," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd i helpu gwella'r gymuned

Mae disgyblion Ysgol Godre'r Berwyn wrth eu boddau efo'r wers wythnosol.

Dywedodd Jac: "Mae hwn jyst yn siawns i ni wella'r gymuned a hefyd mae o'n rhan o'n gwaith BAC ni hefyd.

"Dydi o ddim jyst yn helpu efo graddau - mae'n helpu'r gymuned i gael lle gwell i chillio.

"Den ni yn dysgu llawer o sgiliau newydd gan gynnwys gosod lawr llwybrau a mae 'na dipyn o grwpiau gwahanol hefyd - rhai yn peintio, gosod llwybrau… pob peth rili."

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o dir y grîn yn Y Bala sy'n cael ei awgrymu fel lleoliad posib ar gyfer parc sglefrfyrddio

Ond mae Marie Kirkman yn credu bod angen mwy o bethau yn ardal Y Bala i ddifyrru pobl ifanc lleol, ac y byddai safle'r grîn yn le da i'w sefydlu.

Ei gobaith yw cael "rhyw skatepark a gobeithio crazy golf i deuluoedd hefyd i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol".

Mae hi'n dadlau "does 'na ddim byd iddyn nhw - y [plant oedran] 13 plus - yn y dref" ac y byddai cyfleusterau o'r fath yn rhoi "rhywbeth iddyn nhw wneud".

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid teithio i Ruthun neu Gorwen ar gyfer rhai gweithgareddau hamdden, medd Osian

Mae disgyblion Ysgol Godre'r Berwyn o blaid y syniad.

Dywedodd Osian: "Dwi'n meddwl bod o'n syniad da i blant bach allu cael y siawns i wneud pethau tu allan a gallu mynd ar beiciau nhw neu skateboardio, yn lle teithio i Ruthun neu Corwen."

Mae'r Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r Bala ar Gyngor Gwynedd, yn gefnogol iawn i'r syniadau sydd wedi dod o'r gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

'Rhaid mynd ati' i wireddu syniadau pobl ifanc yr ardal, medd y Cynghorydd Dilwyn Morgan

"Beth sydd yn dda am gynlluniau fel hyn [ydi] bod o'n dod gan y bobl ifanc yn y gymuned," meddai.

"Bydd rhaid i ni fynd ati rŵan i'w cefnogi nhw - mae 'na alw rŵan yn does.

"Y cam cyntaf fydd edrych oes 'na dir ar gael a gweld sut mae mynd ati i godi arian ac yn y blaen.

"[Rhaid ystyried] cefnogi y bobl ifanc… eu cynllun nhw ydi o a dyna sy'n bwysig i mi."

Pynciau cysylltiedig