Haws i Aelodau'r Senedd siarad ac nid ysgrifennu Cymraeg - AS

  • Cyhoeddwyd
Samuel Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

Samuel Kurtz ydy'r AS dros ardal Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Mae'n bosib fod llai o gwestiynau Cymraeg ysgrifenedig yn y Senedd am fod aelodau yn ei gweld hi'n haws siarad yr iaith, yn ôl un Aelod o'r Senedd Ceidwadol.

Roedd nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn y Senedd yn 10% yn 2018-19 o'i gymharu â 4% yn 2021-22.

Ond roedd 30% o'r trafod yn siambr y Senedd yn Gymraeg yn 2021-22, o gymharu â 23% yn 2020-21.

Pasiwyd cynnig yn y Senedd ddydd Mercher i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd, dolen allanol a nodi'r adroddiad blynyddol, dolen allanol diweddaraf.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Samuel Kurtz AS bod y ffigyrau yn "arwydd, efallai, bod mwy o gysur wrth ddefnyddio Cymraeg llafar na Chymraeg ysgrifenedig - rhywbeth rydw i'n bersonol yn ei deimlo".

Ychwanegodd Mr Kurtz: "Nodaf o'r adroddiad bod nifer o gynlluniau ar waith i ddatblygu'r cynllun ieithoedd swyddogol ymhellach yn ystod y tymor seneddol hwn.

"Byddwn yn annog rhywfaint o'r ffocws ar yr agwedd ysgrifenedig ar yr iaith, yn ogystal â'r gair llafar..."

'Senedd i bawb'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, sydd â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol ar ran Comisiwn y Senedd: "Mae pobl Cymru yn disgwyl ein gweld ni yn gosod y safonau uchaf posibl ar draws ein holl wasanaethau."

Ychwanegodd fod Senedd Cymru yn "sefydliad i bawb, mae'r iaith Gymraeg yn iaith i bawb".

Mae'n ffyddiog, meddai, fod y cynllun yn "gosod fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog sy'n cefnogi pawb, sy'n eu hannog nhw i fynegi eu hunaniaeth, ac i wneud defnydd o'u sgiliau iaith waeth bynnag yw lefel y sgiliau hynny".

Mae Comisiwn y Senedd yn bwriadu "parhau i gynnig ystod eang o hyfforddiant" i gynorthwyo staff y Comisiwn, Aelodau o'r Senedd a'u staff cymorth i wella eu sgiliau Cymraeg ysgrifenedig.

Pynciau cysylltiedig