Rhoi babi mewn gofal yn sgil 'methiannau radioleg'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth methiannau o ran gwasanaethau radioleg a'r gwasanaethau cymdeithasol olygu fod babi chwe mis oes wedi ei gadw mewn gofal am 26 diwrnod, yn ôl honiadau un teulu.
Fe wnaeth y fam o ddau adrodd ei stori ar ôl iddi glywed am brofiadau teulu arall o Gymru.
Dywedodd y fam y dylai arbenigwyr fod wedi bod yn rhan o'r broses yn gynharach na ddigwyddodd, a'i bod wedi cael ei "chosbi' am wneud dim o'i le.
Gwrthododd gwasanaethau cymdeithasol Casnewydd wneud sylw ar achosion unigol, ond dywedodd llefarydd nad yw unrhyw blentyn yn cael ei roi mewn gofal heb ystyriaeth gofalus.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn gorfod dilyn canllawiau diogelu plant.
Roedd y rheini, Sarah a John - nid eu henwau iawn - wedi cymryd eu babi cynamserol i Ysbyty Brenhinol Gwent ar 19 Ionawr, 2020.
Fe gafodd y bachgen, Thomas, ei ollwng yn ddamweiniol i'r llawr wrth gael ei newid. Ar gyngor gwasanaeth ffôn y GIG fe aed ag ef i'r ysbyty.
"Oherwydd iddo gael ei eni yn fuan - gyda chymorth forceps, a bod ei ben y siâp gwahanol am gyfnod wedi ei eni, roeddwn yn poeni [am ei ben]," meddai Sarah.
Y diwrnod wedyn, cafodd sganiau CT eu cymryd ac yna cafodd y rhieni wybod fod eu babi yn cael arolwg trylwyr o'i ysgerbwd, ynghyd â phrofion gwaed a phrofion retina.
Cafodd arolwg yr ysgerbwd - 30 o brofion pelydr-x - ei wneud ar 21 Ionawr.
Y diwrnod canlynol, cafodd y teulu wybod fod yna rywbeth anarferol ar ei thibia chwith, a bod yna farc anarferol ar un o'i asennau.
Ar hynny, daeth yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn rhan o'r broses.
'Cael fy nghosbi'
Dywedodd y gweithwyr cymdeithasol fod yn rhaid i'r rheini roi eu plentyn dan ofal er mwyn cadw rhai o'i hawliau, gan gynnwys yr hawl i ymweld â'u mab.
Dywedodd Sarah: "Roedden ni'n gwybod nad oedd e wedi cael dolur. Roedden ni'n meddwl mai hen anaf oedd ar ei goes, a bod rhywbeth ar ei asen a'u bod am wybod pam.
"Doeddwn i byth wedi ei adael ers ei eni, ar wahân i ddwy awr gyda fy mam."
Gan fod yr awdurdodau lleol nawr yn rhannol gyfrifol am y plentyn, nhw oedd yn gwneud llawer o'r penderfyniadau o ddydd i ddydd.
"Roeddwn i'n teimlo mod i'n yn cael fy nghosbi. Roedd e'n ofnadwy," meddai Sarah.
"Fe ddywedon nhw wrtha i beidio pacio unrhyw ddillad ar ei gyfer ac y byddai gofalwr bedydd yn gyfrifol am bopeth.
"Doedd e ond chwe mis oed ac ond yn cael 'chydig o fwyd gyda'r nos, ac erbyn iddo ddod yn ôl roedd e'n cael tri phryd y dydd.
"Roeddwn wedi gofyn iddo beidio cael cig am fy mod i'n llysieuwr... ond cefais wybod nad oedd hynny o gonsyrn i mi a bod yn rhaid iddo gael cig."
Am y dair wythnos nesaf bu'n rhaid iddynt weld ei mab mewn canolfan gyswllt yng Nghasnewydd.
"Bu'n rhaid i ni arwyddo taflen yn dweud na fyddwn yn dod yna yn feddw, na fyddwn yn brifo ein plentyn tra yno, ac na fyddwn yn ymddwyn yn gas tuag at y gweithiwr cyswllt ac na fyddwn yn cymryd cyffuriau.
Profion pelydr-x
"Roedd e'n fyd gwahanol. Doedd hyn ddim yn rhywbeth ro'n i'n rhan ohono," meddai.
Ond ychwanegodd fod y staff eu hunain yn y ganolfan gysywllt wedi bod "yn wych".
Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n rhaid i'r teulu aros am ail archwiliad o'r sgerbwd ar 4 Chwefror.
"Yn yr ail set o brofion pelydr-x fe wnaeth y ddau radiolegydd ddweud nad oedd yna unrhyw beth o le ar yr asen.
"Fe wnaethon nhw ofyn a oedd e'n llefain adeg y pelydr-x.
"Roedd e'n cael ei ddal i lawr gan ddau berson dieithr. Roedd e'n llefain, doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn digwydd."
Dywedodd y radiolegwyr eu bod yn gallu diystyru'r asen, ond bod yna gwestiynau yn parhau am y goes.
Yna cafodd Sarah wybod nad oedd y radiolegwyr yn gallu penderfynu ar brofion pelydr-x ar fabi - ond bod yn rhaid eu gyrru i arbenigwr pediatrig yng Nghaerdydd.
"Roedd y canlyniadau yn dweud nad oedd unrhyw beth anarferol - ei fod yn gwbl iach am ei oed," meddai Sarah.
Er iddynt gael gwybod hyn ar 6 Chwefror, dywedodd y gwasanaethau cymdeithasol eu bod eisiau copi caled o'r adroddiad. Nid oeddynt yn fodlon derbyn copi e-bost na ffacs.
"Fe wnaethon nhw benderfynu eu bod am ymchwilio i fy nghefndir meddygol. Ond fe allen nhw fod wedi gwneud hynny cyn yr adroddiad yma.
"Ro'n i'n teimlo yn y diwedd eu bod yn ceisio cyfiawnhau pam eu bod wedi cymryd y camau hyn," meddai.
Rhestr diogelu plant
Erbyn 11 Chwefror, roedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi cael copi o'r adroddiad a'r wybodaeth am gefndir y rheini.
Ond yna roedd gwasanaethau cymdeithasol Casnewydd am siarad gyda'r ymgynghorydd wnaeth ysgrifennu'r adroddiad.
"Fe wnes i deimlo yn isel dros ben," meddai Sarah.
Fe wnaeth cyfarfod cyfreithiol y diwrnod canlynol ddod i'r casgliad nad oedd Thomas yn gallu mynd adre tan fod pecyn gofal wedi ei lunio, a'i bod yn debygol y byddai'r babi yn cael ei roi ar restr diogelu plant.
Byddai'r pecyn gofal ddim yn barod tan yr wythnos ganlynol.
Ond yr wythnos ganlynol, ar 17 Chwefror, roedd y teulu yn ôl gyda'i gilydd, gan fod y rheini wedi symud i ran arall o Gymru.
Ni chafodd y pecyn cymorth ei gwblhau. Fe wnaeth cyfarfod o'r panel diogelu plant ar 6 Mawrth benderfynu yn unfrydol nad oedd angen i enw Thomas gael ei gynnwys ar y rhestr diogelu.
Ar y pryd penderfynodd y teulu i beidio gwneud cwyn ffurfiol i'r awdurdodau, am eu bod am roi'r cyfan tu ôl iddyn nhw.
"Ond byddai wedi bod orau i'r babi pe bai arbenigwr wedi bod ynghlwm â'r broses llawer ynghynt ac iddo beidio fod wedi mynd yn rhan o'r drefn ofal," meddai Sarah.
Cafodd Sarah a John eu gwahanu o'u babi am gyfnod o fis.
'Penderfyniadau cymhleth'
Dywedodd Cyngor Casnewydd: "Ni allwn wneud sylw ar achosion unigol, ond does yr un plentyn yn cael ei roi mewn gofal heb ystyriaeth gofalus o'r holl amgylchiadau, ac nid yw penderfyniadau cymhleth o'r fath yn cael eu gwneud yn rhwydd.
"Mae'n broses aml-asiantaeth sy'n derbyn gwybodaeth feddygol arbenigol, ac wedi ei arwain gan bediatryddon.
"Mae pob gofal yn cael ei gymryd i sicrhau y bydd plentyn yn ddiogel yn ei gartref unwaith fod pryder wedi ei fynegi. Mae hyn yn cael ei wneud mor gyflym a thrwyadl â phosib.
"Rydym yn sicr mai dyna fyddai'r cyhoedd yn ei ddisgwyl. Yn ddealladwy, byddwn yn cael ein beirniadu pe bai plentyn yn cael ei anafu'n ddifrifol pe baen ni heb weithredu yn ôl ein canllawiau diogelu statudol.
"Rydym yn cydnabod ei bod yn straen i rieni pan fod plentyn yn cael ei roi mewn gofal, ond mae yna adegau pam fod rhieni yn cytuno i hyn ddigwydd, ac maent yn cydweithio gyda ni ac yn cadw ei hawliau dros y plentyn.
"Pan yn bosib, mi all rhieni ymweld â'u plant yn rheolaidd, weithiau yn ddyddiol, er mwyn caniatáu cyswllt parhaol.
"Rydym o hyd yn gweithredu yn unol â'r hyn sydd orau i'r plentyn. Rydym oll yn rhy gyfarwydd gyda thrasiedïau sy'n digwydd oherwydd na chafodd plentyn ei ddiogelu gystal ag y byddwn yn ei ddymuno."
'Sefyllfaoedd emosiynol'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Mae'r sefyllfaoedd hyn yn rhai emosiynol ac anodd ond mae'r bwrdd iechyd o dan ganllawiau cenedlaethol i warchod plant, canllawiau mae'n rhaid eu dilyn i ddiogelu plant rhag cael niwed.
"Mae achosion o'r fath yn cael eu cyd-lynu a'u harwain gan y gwasanaethau cymdeithasol - mae yna rôl yn hyn i glinigwyr ac ymgynghorwyr pediatrig.
"Un rhan o'r ymchwiliad yw rhan y radiolegwyr, ac nid oes gan radiolegwyr unrhyw gyswllt gyda'r gwasanaethau cymdeithasol. Maen nhw'n gweithio yn annibynnol, ac ond yn ymwneud â'r delweddau maent yn eu harchwilio.
"Mae'n ofynnol gan amlaf i arolwg ysgerbwd gael ei ailadrodd o fewn 14 diwrnod, cyn i ddiagnosis radiolegol gael ei gwblhau."
Dywedodd y bwrdd iechyd mai'r drefn wedyn yw i ddau radiolegydd sy'n arbenigo mewn delweddau pediatrig i adrodd ar ganlyniadau, gydag opsiwn am drydydd adroddiad o'r delweddau i gael ei wneud ar lefel rhanbarthol.
"Mae'r adroddiad terfynol yn cael ei drosglwyddo i'r tîm pediatrig er mwyn iddynt drafod ymhellach gyda'r tîm aml-asiantaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021