'Angen adolygiad o wasanaethau cymdeithasol plant Cymru'
- Cyhoeddwyd
Dylid cynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi, yn ôl arbenigwr.
Dywed yr Athro Donald Forrester - arbenigwr ar wasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd - bod "problemau dwys" o fewn y system a'i bod bellach "mewn argyfwng".
Mae cangen Cymru o Gymdeithas y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW Cymru) yn cytuno, gan ddweud na chafodd y sector ei gynnwys wrth baratoi'r ymateb i Covid-19 ar ddechrau'r pandemig.
Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ymroddedig i drawsnewid gwasanaethau plant.
Cafodd Logan Mwangi ei lofruddio gan ei fam, ei lystad a bachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2021.
Bu farw'r bachgen pump oed ar ôl dioddef ymosodiad "milain ac estynedig" yn ei gartref, gan achosi anafiadau "catastroffig".
Cafodd ei gorff ei roi yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y teulu'n adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol ond cafodd Logan ei dynnu oddi ar y Gofrestr Diogelu Plant fis cyn ei farwolaeth.
Cymru 'ar ei hôl hi'
Dywed yr Athro Donald Forrester, bod "dipyn go lew" o farwolaethau plant wedi bod yng Nghymru a'r DU lle'r oedd angen adolygiadau gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.
Galwodd am adolygiad annibynnol o holl waith gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru - fel y rhai sy'n cael eu cynnal yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Cymru "ar ei hôl hi" trwy beidio cynnal un, meddai.
Ychwanegodd: "Nid yw'n ddigon da i gario 'mlaen fel yr ydyn ni, pan rydym yn gwybod nad yw hynny'n gweithio. Mae angen i ni feddwl am ffyrdd radical o wneud pethau, o bosib.
"Os ydych chi'n parhau i wneud yr un pethau, fedrwch chi ddim disgwyl cael canlyniadau gwahanol.
"Bydd gennym niferoedd uchel iawn o blant mewn gofal, a byddwn yn dal i deimlo nad ydym yn eu diogelu, ac mae'r ddau beth yn perthyn i'w gilydd."
'Pryderon enfawr'
Dywedodd Allison Hulmes, cyfarwyddwr BASW Cymru, nad oedd gweithwyr cymdeithasol wedi cael eu cynnwys wrth i'r cynlluniau ar gyfer delio â Covid-19 gael eu paratoi.
Ar y dechrau roedd yn rhaid i weithwyr cymdeithasol addasu eu camau diogelu plant yn ystod y pandemig am nad oedd canllawiau mewn grym, meddai, ond ni chafodd ymweliadau cartref wyneb yn wyneb eu hatal yn llwyr.
Ychwanegodd bod "pryderon enfawr" mewn perthynas â diogelu plant cyn y pandemig, yn enwedig gyda recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol.
Nid oes data i ddangos faint o swyddi gweithwyr cymdeithasol sy'n wag, ond roedd yr Athro Forrester wedi clywed gan un awdurdod lleol bod ganddynt raddfa 40% o swyddi gwag.
Dywedodd Ms Hulmes bod prinder gweithwyr cymdeithasol cyn y pandemig, a bod y baich o achosion cymhleth yn rhy uchel.
Roedd hynny wedi gwaethygu oherwydd Covid-19, meddai.
Dywedodd bod gweithwyr cymdeithasol wedi mynd "tu hwnt i'r gofyn" wrth gefnogi a diogelu plant bregus, a'u bod yn parhau i wneud hynny.
"Nid yw'n iawn mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU sydd heb ymgymryd ag adolygiad o wasanaethau plant. Rydym angen archwiliad annibynnol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cyflwyno trefniadau diogelu newydd, cryfach.
Ychwanegodd eu bod yn "ymroddedig i drawsnewid gwasanaethau plant".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r alwad am adolygiad annibynnol.
Gofynnwyd am ymateb gan Blaid Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2022