Cymryd plant i ofal wedi camgymeriad radiolegwyr

  • Cyhoeddwyd
GeorgeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz - nid ei henw iawn - yn dweud fod y profiad wedi "llygru" y ffordd mae hi'n ystyried ei hun

Mae mam i blant a gafodd eu rhoi mewn gofal ar ôl camgymeriad gan staff ysbytai yn y gogledd yn dweud nad ydy hi'n medru symud ymlaen â'i bywyd.

Fe gollodd y fam, sydd am aros yn ddienw, ofal o'r plant am 10 diwrnod yn 2020 ar ôl mynd â'i babi wyth mis oed i'r ysbyty wedi torri ei goes.

Fe gafodd y babi ddiagnosis anghywir o'i anaf yn dilyn archwiliad pelydr-X, ac fe gafodd y rhieni eu harestio.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i'r teulu, ond yn mynnu bod yn rhaid iddyn nhw roi blaenoriaeth i les plentyn mewn achosion o'r fath.

'Teimlo'n euog'

"Mae'r ffordd dwi'n meddwl amdanaf i fy hun fel mam wedi ei lygru," medd Liz - nid ei henw iawn.

"Dwi'n teimlo'n euog nad ydw i wedi bod yno am ran helaeth o fywydau'r plant oherwydd bod fy meddwl, rhywsut, rhywle arall.

"Alla' i ddim edrych ar luniau o'r bechgyn o'r cyfnod yna heb feddwl am hyn."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth staff Ysbyty Maelor fethu â sylwi ar yr anaf i goes y bachgen bach

Fe aeth y rhieni â'r babi, George - nid ei enw iawn - i Ysbyty Maelor Wrecsam ar 24 Hydref 2020 ar ôl iddo rowlio oddi ar y gwely tra'n cael newid clwt.

Roedd yn edrych mewn poen a methu pwyso ar ei droed dde.

Wedi aros am bum awr yn yr uned frys, fe fethodd staff â sylwi ar yr anaf i'w goes.

Fe gafodd y teulu eu hanfon adref gyda chyngor i roi moddion lladd poen iddo.

Camddarllen pelydr-X

Deuddydd yn ddiweddarach fe aeth y rhieni â George at feddyg teulu, wnaeth eu gyrru i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Ar ôl archwiliad pelydr-X yno, fe ddywedodd radiolegwyr fod gan y bachgen bum toriad i esgyrn gwahanol, yn cynnwys ei fraich.

Yn unol â chanllawiau Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, fe edrychodd dau radiolegydd ar y lluniau pelydr-X.

Ar sail nodiadau'r staff hynny, oedd yn nodi'n bendant fod gan George bum anaf nad oedd yn ddamweiniol, fe gafodd pryderon lles a diogelwch eu codi gan feddyg orthopedig.

Fe gafodd y rhieni eu harestio dridiau'n ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywedodd radiolegwyr yn Ysbyty Glan Clwyd fod gan y babi bum toriad, ond un oedd ganddo mewn gwirionedd

"Fe ddaeth y plismon atom a dyna oedd y tro olaf i mi weld George," medd Liz.

"Fe ges i fy arestio a chefais i ddim ffarwelio. Fe ges i fy nghymryd i'r ddalfa. Roedd y cyfan yn afreal."

'Ddim yn cysgu, ddim yn gwisgo'

Cyn cael eu cyfweld gan yr heddlu, fe ddywedodd gweithiwr cymdeithasol wrth y rhieni bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am les eu meibion ac fe ofynnodd iddyn nhw roi'r plant mewn gofal yn wirfoddol.

"Dyna oedd y peth gwaethaf. Roedd yn un peth i ni fel oedolion, ond i'r plant gael eu cymryd i ffwrdd o'u cynefin, roedd yn erchyll," meddai Liz.

"Roedd George wedi ei fwydo o'r fron a doedd o erioed wedi bod o'm gofal, felly roedden ni'n gwybod bod y cyfan yn mynd i fod yn erchyll.

"Roeddem ni mewn sioc am ddyddiau, ddim yn cysgu, ddim yn gwisgo."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y babi wyth mis oed dorri ei goes ar ôl rowlio oddi ar y gwely tra'n cael newid clwt

Fe gafodd y lluniau pelydr-X eu gweld gan arbenigwr yn Ysbyty Alder Hey dridiau ar ôl i'r rheini gael eu harestio.

Casglodd hi mai un anaf yn unig oedd gan George a hynny ar ei goes dde, "sy'n gyffredin mewn damweiniau baglu a disgyn ymysg plant symudol".

"O'r foment honno roedden ni'n gwybod bod camgymeriad wedi digwydd," medd Liz.

Er hynny, byddai'n rhaid disgwyl 10 diwrnod arall cyn i'r plant gael dychwelyd adref, ar ôl ail archwiliad pelydr-X i gwblhau'r broses ddiogelu.

'Ofn mynd â phlant i'r ysbyty'

Bu'n rhaid i Liz gymryd chwe mis o'r gwaith gyda salwch ac yna newid natur ei swydd.

Mae'n dal i geisio dygymod â chael ei gwahanu oddi wrth ei phlant, yn byw efo gorbryder a hunllefau.

"Dwi ddim eisiau i bobl fod ofn mynd â'u plant i'r ysbyty," meddai.

"Rydym yn deall bod hwn yn faes cymhleth a bod y penderfyniadau wedi'u gwneud yn y gred eu bod yn diogelu plant, ond mae plant yn haeddu cael eu trin gan staff meddygol sy'n ddigon cymwys."

Mae Liz eisiau i'r broses o gyfeirio achosion at arbenigwyr gael ei chyflymu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod "bob tro'n ceisio gweithredu er lles y plentyn"

Dywedodd dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gill Harris: "Hoffwn ymddiheuro eto i'r teulu am yr hyn maen nhw wedi bod trwyddo.

"Alla' i ddim dechrau dychmygu'r profiad ac rwy'n cydymdeimlo â nhw, ond ein dyletswydd fel gofalwr iechyd ydy rhoi lles y plentyn yn gyntaf mewn achosion fel hyn.

"Rydym yn gwneud hyn mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill sy'n penderfynu ar eu camau eu hunain.

"Rydym wedi edrych ar ein canllawiau a sut rydym yn geirio adroddiadau i asiantaethau eraill, fel nad oes amheuaeth pan mae angen ymchwiliadau clinigol pellach.

"Er hynny, rydym yn ymddiheuro am fethu'r anaf yn y lle cyntaf ac am y boen a'r loes i'r plentyn.

"Mae'r achos prin hwn wedi ein cymell i ddiweddaru ein polisi ar gyfer pob achos o anaf esgyrn sydd ddim yn ddamweiniol ac wedi cryfhau ein prosesau.

"Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn fodlon bod y mesurau sydd nawr yn eu lle a'r iawndal i'r teulu'n ddigonol. Mae wedi penderfynu nad oes angen ymchwiliad pellach.

"Mae pob aelod o staff y bwrdd iechyd sy'n gysylltiedig â'r achos hwn yn cydymdeimlo â'r teulu am y trawma a brofon nhw, ond rydym bob tro'n ceisio gweithredu er lles y plentyn."