Achos April Jones y 'gwaethaf' i un fu'n agos i'r teulu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

April Jones

"Y peth gwaetha' i fi orfod delio gyda fe."

Dyna eiriau un o'r swyddogion arbenigol fuodd yn gyswllt rhwng yr heddlu â theulu April Jones, union 10 mlynedd wedi diflaniad y ferch bump oed o Fachynlleth.

Mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru, mae Hayley Heard - swyddog CID sydd bellach wedi ymddeol - yn sôn am yr ymchwiliad a'i chyfnod gyda'r teulu.

Diflannodd April Jones ar 1 Hydref, 2012.

O fewn wythnos roedd y llofrudd, Mark Bridger, wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o'i llofruddio.

Cafodd ddedfryd o garchar gydol oes am ei lladd. Dyw corff April erioed wedi cael ei ddarganfod.

Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd April Jones ym mis Hydref 2012

'I think my daughter has been kidnapped'

Y geiriau mewn galwad 999 wnaeth arwain at yr ymdrech chwilio fwyaf yn hanes Prydain.

Dyma alwad ffôn rhwng mam April, Coral, a swyddfa galwadau'r heddlu.

Fe drodd sylw Cymru a'r byd tuag at ganolbarth Cymru yn Hydref 2012 gyda channoedd yn dod i ardal Machynlleth i geisio dod o hyd i April.

Roedd 'na chwilio am y ferch fach drwy gaeau, coedwigoedd a thir fferm, ddydd a nos.

Hayley Heard oedd y swyddog arbenigol oedd yn gyswllt rhwng yr heddlu a rhieni April, Coral a Paul. Bu'n treulio'r rhan fwyaf o'r flwyddyn gyda'r teulu.

"Y bore ar ôl diflaniad April, ges i alwad i weld a fydden i'n gallu bod yn rhan o'r Family Liaison Team," meddai.

"O'n nhw moyn rhywun i weithio gyda'r teulu. O'n ni'n investigators ond hefyd rhoi gwybodaeth iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r cyhoedd yn helpu gyda'r chwilio am April Jones ar 2 Hydref, 2012

Roedd dyddiau cynnar yr ymchwiliad yn rhai prysur, yn ôl Ms Heard: "Roedd pobl yn dod nôl a mla'n i'r tŷ. O'dd lot yn digwydd.

"O'n nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd i April.

"O'n nhw'n gobeithio bod hi'n mynd i fod yn iawn, ond fel oedd pethau'n symud mla'n, o'n nhw'n gwybod nad oedd April yn mynd i ddod gartre'."

Roedd adeiladu'r cysylltiad rhwng yr heddlu a'r teulu yn hollbwysig, ond roedd eu hymateb yn anhygoel, yn ôl Ms Heard.

"O'n i'n gofyn am lot gan y teulu. Oedd Dave o'dd yn gweithio gyda fi yn siarad gyda Paul.

"Dwi'n fam fy hun, ac roedd Coral yn siarad gyda fi. Roedden nhw moyn atebion yn gynnar iawn, ond yn anffodus doedd dim atebion gyda ni i roi iddyn nhw.

"O'dd e'n anodd iddyn nhw. O'dd Coral yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol; o'dd Paul yn cerdded o gwmpas, yn mynd lan y mynydd. O'dd gyda fe bow pinc a nath e rhoi e lan ar ben Mynydd Dyfi. O'n nhw'n delio gyda fe yn eu ffordd eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul a Coral Jones ar ddiwrnod angladd eu merch ym mis Medi 2013

"O'n nhw'n amazing. O'n ni'n rhoi cymaint o wybodaeth iddyn nhw oedd yn galed i'w gymryd, ond o'n nhw'n delio gyda fe yn amazing."

Yn 2013 fe ymddangosodd Mark Bridger yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyfer achos wnaeth bara pedair wythnos a hanner.

Ar ddiwedd yr achos fe gafodd y rheithgor e'n euog o ladd April.

Bydd yn treulio gweddill ei oes yn y carchar.

'Dal ddim yn gwbod'

Yn ystod yr achos bu teulu April yn aros mewn llety arbennig, tra bod Ms Heard a'r tîm gyda nhw drwy gydol yr amser.

"Roedden ni'n casglu nhw yn y bore ac yn aros gyda nhw drwy gydol yr achos," meddai.

"Pan ddaeth y ddedfryd roedden nhw'n relieved. O'n nhw'n falch ei fod e wedi cael ei ffeindio'n euog, a bod nhw'n gallu rhoi'r llys tu ôl iddyn nhw a symud mla'n.

"Ond roedd Coral dal moyn gwybod ble oedd April. Beth oedd Mark Bridger wedi neud gyda April?

"Dy'n nhw dal ddim yn gw'bod beth mae e wedi 'neud iddi hi. O'n nhw ddim yn gwybod pam ei fod e wedi 'neud hyn. Pam nhw fel teulu?"

Disgrifiad o’r llun,

Achos April Jones oedd y mwya' heriol i Hayley Head orfod delio ag ef

Nid teulu April yn unig gafodd eu heffeithio gan lofruddiaeth April, gyda thref Machynlleth a'r ardal ehangach hefyd yn ceisio dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd.

"Sai'n credu bod nhw byth yn mynd i ddod drosto beth aethon nhw drwyddo," meddai Ms Heard.

"Roedd pob un wedi tynnu at ei gilydd fel cymuned."

Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o flwyddyn gyda'r teulu, mae Ms Heard yn cydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod anodd.

"Roedd diwrnodau eitha tywyll ac emosiynol. Ond daethon ni drwyddo fe, a gobeithio bod nhw'n parchu beth 'naethon ni fel heddlu ac fel family liaison officers."

Fel heddwas profiadol, bu Ms Heard yn gweithio fel swyddog arbenigol yn rhoi cymorth i deuluoedd mewn sawl achos. Ond does dim dwywaith iddi hi bod achos April Jones gyda'r mwyaf heriol iddi orfod delio ag ef.

"Odd e'n galed iawn. Hwn yw'r peth gwaetha' i fi orfod delio gyda fe."

Ddeng mlynedd ers llofruddiaeth April, mae Ms Heard ac eraill yn dal i gofio. Ac er bod 'na ddyn o dan glo am ei lladd, mae 'na gwestiynau sydd dal heb eu hateb.