'Roedd achos April Jones yn gymhleth, anodd a sensitif'

  • Cyhoeddwyd
Elwen EvansFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe

"Dwi'n emosiynol iawn yn fy mywyd personol, ond mae'r persona yna mae'n rhaid i rywun ddefnyddio o fewn llys yn golygu mod i yn medru switshio o'r ochr emosiynol i'r person sydd yn y llys."

Yr athro Elwen Evans, un o fargyfreithwyr troseddol mwyaf talentog Cymru, wnaeth arwain yr achos yn erbyn Mark Bridger am lofruddio April Jones yn 2012.

Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru mae hi'n trafod sut aeth hi a'i thîm ati i erlyn y dyn am gipio a lladd y ferch pump oed o Fachynlleth - a sut mae hi'n ymdopi â gweithio am fisoedd ar achos mor sensitif ac emosiynol.

'Creu bocsys yn fy meddwl'

"Roedd achos April Jones yn gymhleth, yn anodd, yn sensitif iawn, ond wrth gwrs mae pob achos yn dod â sialens," meddai.

"Dwi wedi bod yn lwcus iawn dros y blynyddoedd, dwi wedi gallu switshio o'r llys, i'r byd tu allan, i'r byd personol heb ddim trafferth. Ac mae'n bwysig dweud hyn - os dwi'n watshio rhywbeth fel Bambi dwi'n llefain, dwi'n emosiynol iawn.

"Dros y blynyddoedd dwi wedi creu bocsys yn fy meddwl. Bocs i'r achos yma, bocs i'r achos acw, bywyd personol; mae popeth yn ei focs ei hun ac wedyn pan dwi'n gorffen yn y llys, gorffen paratoi, erbyn y diwrnod nesa' dwi'n rhoi'r achos nôl yn y bocs."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Elwen Evans yw dirprwy ganghellor a deon gweithredol Adran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe

Yn wreiddiol o Landyrnog, daeth Elwen Evans i'r Bar yn Grey's Inn, Llundain yn 1980. Fe gymerodd y Sidan i'w gwneud yn Gwnsler y Frenhines yn 2002 gan agor y drws i weithio ar rai o'r achosion troseddol mwyaf heriol ym Mhrydain Fawr.

Yn achos April Jones roedd hi'n arwain tîm o dros 100 o bobl wedi iddi dderbyn cyfarwyddiadau i gynrychioli'r erlyniaeth ar ôl i Mark Bridger gael ei arestio, ond all pethau wedi bod yn wahanol:

"Os fysa'r alwad ffôn wedi dod fewn gan yr amddiffyniad gyntaf, faswn i wedi gorfod ei dderbyn, a byswn i wedi ei dderbyn, wrth gwrs yr achos i gynrychioli," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bu cannoedd o bobl yn chwilio am April Jones yn ardal Machynlleth wedi iddi gael ei chipio tra'n chwarae tu allan i'w chartref fis Hydref 2012

"Dyna 'da ni'n galw fo yn y job - y cab-rank rule. Mae'n rhaid i yrwyr tacsis y tacsi duon yn Llundain fynd â'r person nesa i ble bynnag maen nhw isho mynd, ac mae'n rhaid i fargyfreithiwr gymryd yr achos ar ran y person sy'n gwneud y cais cyntaf. Mae'n hollbwysig rhoi teimladau o'r neilltu."

Gwisgo het broffesiynol

Yn y rhaglen, mae hi'n pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar wneud y gwaith gorau yn ôl y gyfraith a'r dystiolaeth, waeth pwy mae'n ei gynrychioli:

"Mae rhywun yn rhoi'r het broffesiynol arno - neu'r wig broffesiynol - ac yn pwyso ymlaen o fewn y canllawiau clir... mae'n haws dweud hynny nag wrach wneud a theimlo hynny, ond wir mae pobl sy'n ffeindio'n anodd i wneud hynny wir yn methu dal ymlaen i wneud gwaith sydd yn medru bod mor emosiynol."

Disgrifiad o’r llun,

Llun gan artist y llys o Elwen Evans yn croesholi

Yn y rhaglen mae Elwen Evans yn trafod y pwysau sy'n dod gydag achos sy'n denu cymaint o sylw. Mae hi hefyd yn egluro'r broes o groesholi:

"Mae'n rhaid bod yn hyblyg, meddwl ar eich traed. Rhaid i fi fod yn barod i fynd draw y gornel nesa', debyg i chess360° i ryw raddau.

"Os dwi'n gofyn y cwestiwn yma, mae hynny'n mynd i alluogi'r ochr arall i ofyn y cwestiwn yma, dwi'n meddwl trwodd os dwi'n mynd i'r cyfeiriad yma be' fydd y canlyniad - 'da chi ddim isio gofyn cwestiwn os 'da chi ddim yn gwybod be' ydi'r ateb."

Bydd yr ail raglen yn y gyfres o ddwy yn trafod ei gwaith yn amddiffyn y diweddar Wendy Ellis, a gyhuddwyd o lofruddio ei chymar yn 2007, dolen allanol ar ôl blynyddoedd o gael ei chamdrin.

Roedd yr achos, wnaeth arwain at ryddhau Wendy Ellis yn ddieuog o unrhyw drosedd, wedi ei gynnal bron i gyd yn Gymraeg.

  • Elwen QC, ar BBC Sounds a nos Sul 28 Mawrth am 6.30pm ar BBC Radio Cymru

Hefyd o ddiddordeb: