Gwobrwyo heddlu achos April Jones

  • Cyhoeddwyd
April Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April Jones ei chipio ar Hydref 1 2012

Mae'r plismyn ymchwiliodd i ddiflaniad a llofruddiaeth April Jones wedi cael eu hanrhydeddu am eu "gwaith gwirioneddol eithriadol".

Heddlu Dyfed Powys enillodd y wobr am heddlua rhagorol yn seremoni wobrwyo'r Fforwm Prydeinig Ditectifs Ffederasiwn yr Heddlu.

Derbyniodd y llu glod am eu gwaith arweiniodd at arestio a chael Mark Bridger yn euog.

Cafodd April Jones, oedd yn bum mlwydd oed, ei chipio yn Hydref 2012.

Dywedodd Paul Ford, ysgrifennydd y fforwm: "Arweiniodd yr ymchwiliad hwn at y cyd-weithio gorau er mwyn sicrhau cyfiawnder i April, ei theulu a'r gymuned leol.

"Hoffai'r fforwm gydnabod gwaith rhagorol Heddlu Dyfed Powys, heddluoedd eraill a'r rheiny gefnogodd yr ymchwiliad ..."

Cafodd Mark Bridger garchar am oes am lofruddio April Jones.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol