Arolygydd heddlu'n euog o ymosod ar fachgen 16 oed

  • Cyhoeddwyd
Dean GittoesFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arolygydd Dean Gittoes wedi gwadu cyhuddiad o ymosod trwy guro

Mae arolygydd heddlu wedi ei ganfod yn euog o ymosod ar fachgen 16 oed a wnaeth ei ffilmio y tu allan i orsaf heddlu.

Roedd Dean Gittoes, 49, wedi gwadu cyhuddiad o ymosod trwy guro, ond fe'i gafwyd yn euog yn Llys Ynadon Cwmbrân.

Dangoswyd fideo i'r llys a gafodd ei ffilmio gan y llanc y tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful ym mis Awst 2021.

Honnwyd bod y swyddog gyda Heddlu De Cymru yn ymosodol ac, ar un adeg, wedi ei dagu.

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Mewn lluniau sydd wedi eu rhyddhau gan y CPS, mae Gittoes i'w weld yn arwain y bachgen i mewn i'r orsaf

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Yna mae'n dal y bachgen ger ei fraich...

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Cyn iddo wthio'r bachgen i'r llawr

Grŵp 'archwilio'

Roedd y llanc wedi dweud wrth y swyddog ei fod yn rhan o grŵp "archwilio" byd-eang yn ffilmio swyddogion, a sut roedden nhw'n rhyngweithio â'r cyhoedd.

Ond yn y ffilm o ffôn y bachgen, gwelwyd a chlywyd yr Arolygydd Gittoes yn dweud, "rwy'n gofyn i chi pwy ydych chi, beth yw eich enw", cyn dweud y gall fod yn derfysgwr.

Dywedodd y llanc wrth y swyddog fod ganddo hawl i ffilmio mewn mannau cyhoeddus ac nad oedd angen rhoi ei enw.

Clywyd yr Arolygydd Gittoes yn dweud: "Rydych chi'n berson bach clyfar o'r we sy'n mynd i ddysgu'r ffordd galed."

Hefyd fe glywodd y llys y swyddog ar y recordiad yn dweud: "Rwyf wedi cael llond bol o bobl yn ffilmio ni."

Gwelodd y llys luniau teledu cylch cyfyng yn dangos yr Arolygydd Gittoes yn dal braich y bachgen 16 oed ac yn cerdded gydag ef fewn i'r orsaf heddlu ac yn ei arestio yn ddiweddarach.

Cafodd y llanc ei ryddhau o'r ddalfa yn ddigyhuddiad yr un diwrnod.

Clywodd y llys fod swyddogion wedi eu cyfarwyddo i ganiatáu i aelodau'r cyhoedd eu ffilmio.

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dean Gittoes herio'r llanc y tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful

Roedd yr erlyniad yn dadlau bod arestio'r bachgen yn anghyfreithlon, ac mai'r hyn a ddilynodd oedd ymosodiad pan gafodd y bachgen ei orfodi i mewn i orsaf yr heddlu.

Dywedwyd nad oedd yna "sail wrthrychol rhesymol i amau" bod y bachgen yn derfysgwr posib.

'Ddim yn meddwl yn gall'

Nid oedd yr Arolygydd Gittoes ar ddyletswydd ar y pryd a dywedwyd wrth y llys ei fod wedi methu ag adnabod ei hun fel heddwas ar unwaith, ac na roddodd rybudd ar adeg yr arestio.

Disgrifiwyd yr achos gan Christopher Rees, ar ran yr amddiffyn, fel un "unigryw" gan nad oedd o ganlyniad i ddefnyddio gormod o rym, ond oherwydd bod yr arestiad "wedi'i dybio fel un anghyfreithlon".

Dywedodd ei fod yn "benderfyniad gweithredol gan y swyddog ar y foment honno" a'i fod yn "ffurfio barn mewn eiliad" y gallai fod yn delio â rhywun gyda "bwriad gelyniaethus".

Cafwyd Gittoes yn euog, ac fe ohiriwyd y dedfrydu gan y Barnwr Rhanbarthol, Sophie Toms, nes 27 Hydref.

Dywedodd Ms Toms nad oedd y bachgen yn fygythiad ar ddiwrnod y digwyddiad, ac nad oedd Gittoes yn meddwl yn gall.