Cyn-aelodau bwrdd yn beirniadu awdurdod parc y Bannau

  • Cyhoeddwyd
Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r parc cenedlaethol yn un o dri yng Nghymru, ac mae'n ymestyn ar draws 520 milltir sgwâr (1,346 km sgwâr)

Mae pedwar cyn-aelod o fwrdd yr awdurdod sy'n goruchwylio Bannau Brycheiniog wedi beirniadu sut mae'r parc cenedlaethol yn cael ei redeg.

Mae'r pedwar - a benodwyd gan Lywodraeth Cymru - yn dweud bod rheolaeth cynghorwyr dros yr awdurdod yn golygu bod buddiannau lleol yn "trechu" materion Cymru-gyfan.

Maen nhw hefyd yn dweud nad yw statws yr ardal fel parc cenedlaethol wedi atal ei hamgylchedd rhag gwaethygu.

Dywedodd yr awdurdod mai mynd i'r afael â'r amgylchedd yw ei "genhadaeth graidd".

Daw sylwadau'r cyn-aelodau ar ôl i BBC Cymru gael gwybod trwy gais Rhyddid Gwybodaeth bod dau ohonyn nhw wedi gadael yn dilyn penderfyniad gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James yn yr haf.

Daeth ei phenderfyniad i "derfynu" swydd James Marsden a pheidio ag adnewyddu cyfnod cyn-bennaeth yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd, Sue Holden ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (APCBB) yn dilyn adroddiadau damniol a oedd yn manylu ar doriad yn y berthynas.

Dywedodd Archwilio Cymru fod staff yn teimlo "wedi'u gorlethu" a'u bod hyd yn oed yn "ofnus" o ymgysylltu â rhai aelodau bwrdd, na chawsant eu henwi.

Ond mae pobl sy'n amddiffyn y cyn-aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gosod y ffrae yng nghyd-destun gwrthdaro rhwng rôl genedlaethol y parc yn erbyn buddiannau lleol.

"Y rheswm am adael," meddai un, oedd bod "gwahanol ddealltwriaeth o bwrpasau parc cenedlaethol".

Y ddadl oedd mai dim ond rhai aelodau oedd yn y teimlo y gallai fod â "rôl enfawr" yn iechyd a lles cymunedau ledled Cymru.

Adroddodd BBC Cymru ym mis Mai bod staff y bwrdd yn gweithio o dan "bwysau annioddefol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o apêl y parc yn ei harddwch naturiol, ond mae dogfen yn honni nad yw mewn "cyflwr gwell na thirweddau ehangach ar draws y DU"

Mae'r bwrdd yn cynnwys cynghorwyr o awdurdodau lleol cyfagos a phobl a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda'r cynghorwyr yn y mwyafrif.

Roedd y berthynas rhwng rhai wedi bod yn wael a chyn i Mr Marsden a Ms Holden adael, rhoddodd Chris Coppock a Liz Davies y gorau iddi yn gynharach yn y flwyddyn.

Cafodd y pedwar eu penodi gan weinidogion Llywodraeth Cymru i oruchwylio'r parc, gyda phob un yn ennill tua £4,000 y flwyddyn.

'Diraddio amgylcheddol'

Mae'r awdurdod yn gyfrifol am warchod harddwch naturiol yr ardal. Mae'n cyflogi tua 130 o bobl.

Nid oedd yr un o gyn-aelodau awdurdod y parc yn fodlon cael eu cyfweld am benderfyniad Ms James, ond mae dogfen gafodd ei hysgrifennu ganddyn nhw ac a welwyd gan BBC Cymru yn dweud nad yw'r Bannau mewn "cyflwr gwell na thirweddau ehangach ar draws y DU".

Nid yw'r dynodiad fel parc cenedlaethol "wedi atal dangosyddion amlwg o ddiraddio amgylcheddol", dywed y pedwar cyn-aelod.

Fe wnaethant ddyfynnu ffigyrau 2020 sy'n dangos bod 35% o'i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a 56% o ardaloedd cadwraeth arbennig mewn cyflwr "anffafriol".

Disgrifiad o’r llun,

Un o atyniadau mwyaf y Bannau yw Pen y Fan, gyda mwy na 350,000 o ymwelwyr yn flynyddol

Dengys asesiadau o lygredd afonydd fod 88% o Afon Wysg a 67% o Afon Gwy yn methu â chyrraedd lefelau ffosffad.

Yn ôl y ddogfen, heb unrhyw newid i'r ffaith fod mwyafrif yr aelodau yn bobl a enwebwyd gan gynghorau yn hytrach na phenodiadau gweinidogol, "bydd buddiannau lleol bob amser yn trechu'r budd cenedlaethol".

Dywedon nhw nad oedd enwebiadau cynghorau lleol i'r bwrdd ar ôl etholiadau Mai 2022 wedi arwain at benodi unrhyw fenywod, ac maen nhw'n cyhuddo cynghorwyr o wrthsefyll "polisïau sy'n cynnig newidiadau mewn arferion rheoli tir sy'n gyson â dibenion craidd a dyletswydd tirwedd warchodedig genedlaethol".

Daeth yr honiadau i'r amlwg ar ôl i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth i BBC Cymru yn dangos bod Ms James wedi terfynu penodiad Mr Marsden, cyn-gynghorydd i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU. Roedd yn anghytuno â'r penderfyniad ond fe'i derbyniodd yn ddiweddarach.

Yn ôl cofnod o gyfarfod, dywedwyd wrtho fod y berthynas waith rhyngddo ac aelodau eraill wedi chwalu.

Roedd y cofnod yn nodi ei fod yn teimlo nad oedd aelodau'r cyngor lleol eisiau gweld newidiadau.

Daw'r penderfyniad yn dilyn dau adroddiad beirniadol gan Archwilio Cymru. Yn 2021, canfu'r archwilwyr fod "rheolaeth wael" yn rhwystro gwaith a gynlluniwyd i wella amgylchedd y parc.

Dywedodd fod y berthynas waith rhwng rhai aelodau bwrdd a swyddogion wedi chwalu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed awdurdod y parc ei fod yn benderfynol o "ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd"

Ym mis Mawrth 2022, canfu adroddiad fod rhai o staff y parc yn teimlo "wedi eu llethu gan ymholiadau a heriau gan rai aelodau".

"Nododd sawl un hefyd eu bod yn ofni ymgysylltu â'r aelodau hyn ac yn ofni mynd i bwyllgorau neu weithgorau."

Nid oedd yr adroddiadau'n priodoli'r ymddygiad i unrhyw unigolion penodol.

Dywedodd ffynhonnell sy'n gyfarwydd â'r gwaith archwilio fod rhai aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru wrth wraidd rhai tensiynau yn y bwrdd, ond nid nhw yn unig.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mynd i'r afael â'r "argyfwng natur" yn "flaenoriaeth allweddol", ei bod yn darparu "cymorth uniongyrchol" i'r awdurdod i "fynd i'r afael â materion a godwyd yn adroddiad Archwilio Cymru", a'i fod yn anelu at wella llywodraethiant yno.