Gwahardd cefnogwyr gyda ffaglau mewn gêm bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr Gwlad Pwyl yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y pedwar dyn eu rhwystro cyn iddyn nhw allu fynd mewn i'r stadiwm ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl fis diwethaf.

Mae tri dyn wedi eu gwahardd rhag mynychu gemau pêl-droed am geisio mynd â thân gwyllt i mewn i gêm Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl fis diwethaf.

Roedd Sebastian Gonicki, 38, o Blackpool, Krzysztof Ilnicki, 40, o Lerpwl a Mateusz Jaroz, 30 o Bridgwater - i gyd yn wreiddiol o Wlad Pwyl - wedi cyfaddef bod â thân gwyllt neu ffagl oleuo (flares) yn eu meddiant yn ystod digwyddiad chwaraeon.

Plediodd pedwerydd dyn, Martin Koczur, 28, o Staines, hefyd yn euog i'r un drosedd ond cafodd ei achos ei ohirio.

Collodd Cymru 1-0 yn erbyn Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 25 Medi, gyda fflachiadau a thân gwyllt wedi eu cynnau yn ardal y cefnogwyr oddi cartref.

Disgrifiad,

Tân gwyllt yn saethu o'r dorf yng ngêm Cymru v Gwlad Pwyl

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Gonicki ac Ilnicki wedi dweud wrth yr heddlu mai hwn oedd eu tro cyntaf mewn gêm bêl-droed ac nad oedd yr un o'r dynion yn adnabod ei gilydd.

Cafodd y pedwar eu stopio cyn iddyn nhw allu mynd i mewn i'r stadiwm.

Dywedodd Nicholas Evans ar ran yr erlyniad fod gorchymyn gwahardd pêl-droed yn briodol oherwydd y byddai "risg sylweddol o anaf i'r cyhoedd" pe bai'r ffaglau wedi eu defnyddio, gan nodi "angen i atal eraill".

Yn amddiffyn dywedodd John McCarthy fod Sebastian Gonicki wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi dod o hyd i'r ffagl ar y llawr a'i fod yn bwriadu mynd ag ef i mewn i'r stadiwm ac "efallai ei fod wedi ei ddefnyddio ar ôl ychydig o gwrw".

Dywedodd Mr McCarthy fod Gonicki wedi dweud "nad oedd yn gwybod ei fod yn drosedd i fynd â ffagl i faes chwaraeon yn y DU" a'i fod "wedi bod yn wirion."

Clywodd y llys, er fod tân gwyllt yn olygfa gyffredin mewn meysydd ar draws Ewrop, eu bod yn anghyfreithlon yng Ngwlad Pwyl.

Cafodd Sebastian Gonicki orchymyn gwahardd pêl-droed am dair blynedd, a bydd hefyd rhaid iddo dalu dirwy o £300 a £205 mewn costau eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffaglau golau yn cael eu dal gan y cefnogwyr oddi cartref yn ystod y gêm rhwng Cymru a Gwlad Pwyl

Dywedodd John McCarthy fod Krzysztof Ilnicki, 40, o Lerpwl, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod "wedi dod o hyd i'r eitem ar y llawr" a'i roi ym mhoced ei drowsus.

Dywedodd Ilnicki nad oedd ganddo "unrhyw fwriad i'w ddefnyddio ond ei fod yn gwybod ei fod yn anghywir i fynd â'r ffagl i'r maes".

Cafodd Krzysztof Ilnicki hefyd orchymyn gwahardd tair blynedd a dirwy o £346, yn ogystal â chostau eraill gwerth cyfanswm o £223.

'Gwybod ei fod yn anghywir'

Clywodd y llys fod Mateusz Jaroz, 30 oed o Bridgwater, hefyd wedi cael ei stopio gan stiwardiaid cyn mynd i mewn i'r stadiwm a'i ddarganfod gyda'r ffagl.

Wrth amddiffyn, dywedodd John McCarthy fod Jaroz wedi dweud wrth yr heddlu ei fod "wedi prynu'r fflêr gan gefnogwr arall yn y dafarn am £10" a'i fod "yn gwybod ei fod yn anghywir".

Dywedodd Mr McCarthy fod Jaroz wedi sylweddoli ei fod yn "beth ffôl i'w wneud" ond wedi digwydd "lle mae pobl yn cael eu dal yn yr atmosffer".

Cafodd Mateusz Jaroz hefyd orchymyn gwahardd pêl-droed am 3 blynedd a dirwy o £369, yn ogystal â chostau o £233.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl ffagl oleuo eu cynnau ymhlith y cefnogwyr yn eisteddle Gwlad Pwyl, cyn i dân gwyllt gael eu tanio i'r awyr wedi i'r ymwelwyr sgorio

Mae telerau'r gorchymyn gwahardd yn golygu nad yw'r dynion i fod o fewn 2,500 metr i unrhyw gêm bêl-droed yn y DU o bum awr cyn y gic gyntaf nes pum awr ar ôl y chwiban olaf.

Dywedwyd wrthynt hefyd i beidio mynd i unrhyw dref ble mae unrhyw dîm pêl-droed proffesiynol o Wlad Pwyl yn chwarae gêm oddi cartref yn ystod y dydd neu'r noswaith y mae'r gêm yn cael ei chwarae.

Gallant dderbyn chwe mis o garchar pe baent yn torri'r gorchmynion.

Plediodd Martin Koczur, sy'n wreiddiol o Hwngari, hefyd yn euog ond fe benderfynodd ynadon ohirio ei achos er mwyn iddo gael amser i ddod o hyd i gynrychiolaeth gyfreithiol.