Trafferthion prynu wrth i brisiau tai gyrraedd yr uchaf erioed
- Cyhoeddwyd
"'Dan ni 'di gael trafferth hefo outbidio, mae'r prisiau yn boncyrs ar y funud."
Dyna brofiad Natalie Florence-Morris, 26 oed, sydd wedi byw gyda'i rhieni ym Mynydd Llandygai ers bron i dair blynedd wrth iddi geisio prynu tŷ.
Ar ôl gwerthu ei chartref ym Methesda ym mis Chwefror 2020, roedd Natalie, sy'n fam i ddau o blant yn gobeithio prynu cartref newydd, ond fe ddaeth y pandemig ac fe newidiodd y farchnad dai, ac mae hi wedi methu prynu tŷ ers hynny.
Ar gyfartaledd mae prisiau tai yng Nghymru bellach wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed.
Mae data gan Gymdeithas Adeiladu y Principality ar gyfer y tri mis rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022 yn dangos bod pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi codi i dros £245,000 am y tro cyntaf.
'Pres dan ni efo yn teimlo fel dim byd'
"Pan 'naethon ni werthu'r tŷ o'n i'n teimlo fel bod fi mewn sefyllfa rili dda, ond erbyn rŵan hefo sut mae pob dim 'di mynd dwi jest teimlo fel 'dan ni no better off at all," meddai Natalie.
"'Dan ni mewn sefyllfa hefo sut mae prisiau tŷ, bod y pres 'dan ni efo, 'dio ddim yn teimlo fel dim byd.
"'Sa chdi'n gallu cael £30,000 o deposit a 'dio dal ddim yn toucho'r mortgage, so ma'n anodd, mae'n rili anodd.
"Dan ni wedi cael mortgage in principle mewn lle, ond ar y funud ar ôl cael mortgage a prynu tŷ hefo'r prisiau fel mae nhw 'sa ddim pres ar ôl i wario ar neud pethau neis fel teulu, felly dwi'n teimlo fasan ni at limit ni hefo tŷ a bob dim y ffordd mae bob dim ar y funud."
Mae prisiau tai wedi cynyddu 12.4% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, ac mae yna gynnydd o 2.2% o'i gymharu â'r tri mis blaenorol.
Yng Nghaerdydd mae cost cartref ar gyfartaledd bellach bron yn £300,000.
'Caeth' yn y farchnad rentu
Mae Charlotte Moult, sy'n 31, yn byw gyda'i gŵr Ivan, 33, yng Nghaerdydd ac maen nhw'n disgwyl eu trydydd plentyn y flwyddyn nesaf.
Mae'r teulu wedi bod yn rhentu'n breifat ym Mhontcanna ers pum mlynedd, ond mae nhw'n wynebu gadael Caerdydd i brynu cartref cyntaf sy'n ddigon mawr i'w teulu.
"Mae fel petai ein bod ni'n cael ein gorfodi i adael y ddinas," meddai Charlotte.
Ei huchelgais yw i brynu tŷ am y tro cyntaf, ond mae prisiau uchel wedi gwneud iddi deimlo'n gaeth i'r farchnad rhentu.
Mae Charlotte eisiau mwy o help i brynwyr tro cyntaf sydd eisoes â theulu ac angen tŷ mawr.
"Nid oes unrhyw eiddo y gallwn ei brynu yma am lai na £300,000 am faint y tŷ sydd ei angen arnom," meddai.
"Felly heb y gefnogaeth honno gan y llywodraeth rydym yn gorfod edrych y tu allan i Gaerdydd, fyddai'n golygu symud ein plant allan o'r ysgol, ac nid dyna'r hyn yr oeddem am ei wneud. Mae'n wirioneddol ddigalon."
Cynnydd mwyaf ym Mro Morgannwg
Cofnododd Cymdeithas Adeiladu'r Principality gynnydd blynyddol ym mhrisiau tai ym mhob awdurdod leol yng Nghymru.
Roedd y cynnydd mwyaf ym Mro Morgannwg, lle cododd prisiau 17.5% i gyfartaledd o £355,590.
Ond dywedodd y gymdeithas adeiladu y gallai amodau'r farchnad ers mis Medi olygu y bydd prisiau tai yn sefydlogi erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl Dafydd Hardy, sy'n gwerthu tai yn y gogledd, mae'r sefyllfa hefyd wedi cymhlethu ers datganiad y cyn-Ganghellor Kwasi Kwarteng ddiwedd Medi, gyda phobl yn betrusgar, a llai yn edrych am dai.
"Fedra' i weld hyn yn para am ryw ddau i dri mis o ran pobl efallai ddim yn gwneud y cynigion, ddim yn hyd yn oed yn edrych ar dai ac yn meddwl iddyn nhw'u hunan, 'wel, rhaid i fi weld yn union fel mae pethau'n setlo i lawr, be fydd y costau ychwanegol o ran pris morgais', er enghraifft."
"O ran y prisiau fedra' i weld nhw yn gostwng i ryw raddau, efallai 10 i 15% dros y flwyddyn neu ddwy flynedd nesa', ond mae o'n dibynnu be' sy'n digwydd yn y chwe mis nesa' a be' fydd penderfyniad y Torïaid."
Llywodraeth Cymru yn ceisio helpu
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf a'u bod yn cymryd camau i geisio helpu pobl.
"Rydym yn gwneud newidiadau i'r dreth trafodiadau tir fel na fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n prynu eu prif gartref, gan gynnwys y rhai sy'n prynu am y tro cyntaf, yn talu unrhyw dreth ar y pryniant," meddai.
"Mae ein cynlluniau fel Cymorth i Brynu, yn darparu cymorth ariannol i bobl sydd eisiau prynu cartref.
"Ers ei sefydlu mae dros 13,000 o gartrefi wedi cael eu darparu drwy'r cynllun. Mae dros dri chwarter y gwerthiannau drwy'r cynllun wedi bod i rai sy'n prynu am y tro cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022