Cocên traeth Aber yn debygol o fod werth £42m - heddlu

  • Cyhoeddwyd
cyffuriau mewn bagiau
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cerddwyr o hyd i nifer o fagiau du wedi'u clymu ar draeth Tan-y-Bwlch ar 1 Hydref

Mae'r heddlu yn amau bod cyffuriau a olchodd i'r lan ar gyrion Aberystwyth werth tua £42m.

Cafwyd hyd i sawl pecyn o gocên ar draeth Tan-y-Bwlch ar 1 Hydref.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn credu mai cocên yw'r cynnwys, a'i fod yn pwyso tua 1,200kg (1.2 tunnell).

"Byddai gwerth swm mor fawr oddeutu £42m," meddai llefarydd.

Mae eu hymchwiliad ar y cyd â'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn parhau.

'Peidio cyffwrdd'

"Mae gwaith fforensig ar gynnwys y bagiau yn dal i ddigwydd," ychwanegodd y llefarydd.

"Fel unrhyw gyffur gallai cocên achosi sgil effeithiau annisgwyl a pheryglus.

"Ar ei waethaf fe allai gorddos achosi niwed i organau a marwolaeth.

"Mae'n hymchwiliad yn parhau ac ry'n am bwysleisio i'r cyhoedd os ydyn nhw'n dod o hyd i unrhyw beth amheus ar y traethau i beidio â'u cyffwrdd ac i gysylltu â'r heddlu yn syth."

Pynciau cysylltiedig