Tro pedol gan y Canghellor newydd ar bron pob toriad treth

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Hunt

Yn Nhŷ'r Cyffredin mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi cadarnhau na fydd mwyafrif y mesurau a gafodd eu cyhoeddi fel rhan o gyllideb 'fechan' ei ragflaenydd yn cael eu gweithredu mwyach.

Cyn iddo sefyll ar ei draed dywedodd arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Penny Mordaunt, mai'r flaenoriaeth oedd adfer sefydlogrwydd ariannol yn sgil anwadalrwydd difrifol yn y marchnadoedd arian.

Ond mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud y bydd camau Mr Hunt "yn crebachu'r economi gan achosi dirwasgiad dyfnach a hirach".

Doedd Prif Weinidog y DU, Liz Truss, ddim yn bresennol yn Nhy'r Cyffredin am gyfnod brynhawn Llun gan ei bod yn delio â "materion brys", meddai arweinydd y tŷ.

"Dyw hi ddim yn cuddio o dan ddesg," meddai. "Mae yna reswm da iawn pam nad yw'n bresennol."

Wrth i Ms Mordaunt siarad roedd yna nifer o gwestiynau a sylwadau gan y gwrthbleidiau am absenoldeb a gallu'r Prif Weinidog, gyda nifer yn dweud bod y llywodraeth geidwadol yn wynebu trafferthion difrifol.

Ond fe ymddangosodd Ms Truss yn y siambr wrth i Ms Mordaunt orffen ateb cwestiynau, cyn i'r Canghellor Jeremy Hunt sefyll ar ei draed.

Beth sydd wedi newid?

Wedi iddo sefyll ar ei draed dywedodd Mr Hunt bod yn rhaid i'r llywodraeth wneud yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer sefydlogrwydd economaidd.

"Mae'r DU yn wlad sy'n ariannu ei haddewidion ac yn talu ei dyledion," meddai.

"Fe fydd y llywodraeth yn gwneud rhai penderfyniadau anodd sy'n dod â dŵr i'r llygad."

Mewn araith fer fe wnaeth Mr Hunt ailadrodd ei gyhoeddiadau blaenorol ar gyfraddau treth a thollau alcohol. Dyw'r holl gyhoeddiadau ddim yn berthnasol i Gymru - gan gynnwys y rhai ar iechyd a'r dreth stamp.

Bydd y mesurau newydd a gyhoeddwyd brynhawn Llun yn arbed £37 biliwn, meddai Mr Hunt ac ychwanegodd y bydd penderfyniadau anodd yn cael eu cyhoeddi ar 31 Hydref pan fydd yn cyhoeddi rheolau cyllidol y llywodraeth a rhagolygon Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Rhai o brif bwyntiau datganiad brys y Canghellor

  • Gwyrdroi bron pob mesur treth a gafodd eu cyhoeddi ar 23 Medi sydd heb ddechrau ar y broses o fynd trwy'r Senedd;

  • Newidiadau i gyfraddau treth difidend, rhewi'r dreth ar alcohol a siopa heb dalu TAW i ymwelwyr â'r DU ddim mwyach i gael eu gweithredu;

  • Y dreth incwm 20% i barhau am gyfnod "amhenodol" ond penderfyniad Mr Kwarteng i wyrdroi'r cynnydd o 1.25% yn nhaliadau Yswiriant Cenedlaethol yn sefyll;

  • Dim newid i'r gefnogaeth ar gyfer talu biliau ynni tan ddiwedd Ebrill 2023 ond y Trysorlys i adolygu'r ffordd ymlaen wedi hynny - roedd y gefnogaeth i fod i bara am ddwy flynedd yn wreiddiol;

  • Newidiadau treth stamp yn Lloegr i barhau.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y bydd y camau y cyhoeddodd Mr Hunt "yn crebachu'r economi gan achosi dirwasgiad dyfnach a hirach" a bydd pawb "yn talu'r pris" am fethiannau llywodraeth Liz Truss.

Dywedodd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru'n parhau "i wneud popeth a allwn" i helpu'r cyhoedd "drwy'r argyfwng hwn" yn wyneb chwyddiant, biliau ynni uchel a chynnydd yng nghyfraddau morgeisi.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Fe gyhuddodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, Mr Hunt o gynllunio "llymder mwy poenus".

Ychwanegodd bod San Steffan "ar chwâl yn llwyr a ddim mewn sefyllfa i roi unrhyw sicrwydd i deuluoedd sy'n wynebu biliau afresymol a morgeisi sy'n codi'n aruthrol" a bod "cefnu ar addewid" i gapio biliau ynni am ddwy flynedd "yn anfaddeuol".

"Mae San Steffan mewn anrhefn llwyr," meddai.

Beth mae'r datganiad yn ei olygu?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Gwarant Pris Ynni'r llywodraeth i fod mewn grym am ddwy flynedd, gan roi cap ar faint all cyflenwyr godi yr uned am nwy a thrydan.

Bydd hynny bellach mewn grym tan ddiwedd Ebrill, er mwyn helpu pobl ddygymod â biliau'r gaeaf.

Bydd y Trysorlys yn ystyried beth ddylai ddigwydd wedi mis Ebrill, ond dywedodd Mr Hunt y bydd yna "ffordd newydd" o dargedu'r bobl fwyaf anghenus.

Bydd dal angen talu am y nwy a thrydan sy'n cael eu defnyddio. Yn achos aelwyd nodweddiadol sy'n defnyddio 12,000 kWh (cilowat-oriau) o nwy y flwyddyn, a 2,900 kWh o drydan y flwyddyn, mae'n golygu bil blynyddol o £2,500 tan gwanwyn nesaf. Mae hynny'n cymharu â £1,277 y flwyddyn y gaeaf diwethaf.

Morgeisi'n annhebygol o ddod i lawr yn fuan

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd cyfraddau morgeisi eisoes yn codi, ac fe gyflymodd y cynnydd hwnnw mewn ymateb i gyllideb fechan Kwasi Kwarteng.

Ond mae broceriaid yn rhybuddio bod dim disgwyl i'r cyfraddau ostwng yn syth mewn ymateb i ddatganiad Mr Hunt ddydd Llun.

Mae benthycwyr yn debygol o bwyllo, gan aros i weld sut y mae'r marchnadoedd yn ymateb i'r newidiadau, a beth mae Banc Lloegr yn debygol o wneud wrth ystyried cyfraddau llog.

Mae unrhyw fenthycwr sy'n gostwng eu cyfraddau nawr yn debygol o dderbyn ton o geisiadau am forgais.

Yn gefndir i'r cyfan, mae chwyddiant yn dal yn uchel ac mae Banc Lloegr yn debygol o fynd i'r afael â hynny trwy godi cyfraddau llog.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynnydd yn y dreth ar gwrw, seidr, gwin a gwirodydd bellach yn mynd yn eu blaenau, yn hytrach na chael ei dileu

Cafodd toriad i'r dreth gorfforaethol ei ddileu ddydd Gwener, wrth i Liz Truss ddiswyddo Mr Kwarteng a phenodi Mr Hunt yn ei le, wedi i'r gyllideb wreiddiol achosi ansefydlogrwydd mawr o fewn y marchnadoedd ariannol.

Roedd yna dro pedol hefyd ddechrau'r mis ar gael gwared ar y dreth 45c yn achos unigolion sy'n ennill o leiaf £150,000.