Blwyddyn heb Saesneg: Yr Americanwr a'i daith gerdded i ddysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Phil Wyman arFaes Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Caernarfon yw cartref Phil Wyman o Salem, Massachusetts, ers dros bedwar mis

"Dwi wedi symud yma achos dwi wedi syrthio mewn cariad efo Cymru, efo Caernarfon ac efo'r Gymraeg hefyd."

Mae Phil Wyman nid yn unig wedi symud yr holl ffordd o'r Unol Daleithiau i fyw yng Nghymru er mwyn dysgu Cymraeg ond mae hefyd yn paratoi i deithio o amgylch y wlad am flwyddyn a diwrnod heb siarad gair o Saesneg.

Gweinidog ydy Phil sydd wedi gadael ei weinidogaeth yn Salem, Massachusetts - y dref sy'n enwog am erlid gwrachod yn y 17eg Ganrif - ac ymgartrefu yn nhref Caernarfon.

Mae'n gobeithio bydd dysgwyr eraill yn ymuno ag o ar ei daith 'Cymraeg yn unig' pan fydd yn dechrau arni o Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

"Dwi eisiau dechrau y daith dros y wlad yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf," meddai.

"Ac i fynd o'r Eisteddfod i'r Eisteddfod nesa' yn cerdded bob dydd efo pobl eraill - syniad crazy iawn dwi'n gwybod ond mae fy nghalon yn teimlo yn gryf iawn am y peth."

Ffynhonnell y llun, Phil Wyman/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil wedi creu bathodynau ar gyfer ei daith

Mae wedi dod i'r DU ar fisa cenhadwr felly mae'n cyfuno dysgu Cymraeg gyda chrwydro gwyliau a digwyddiadau fel gweinidog a gweithio gyda chapel Caersalem yng Nghaernarfon.

Cyd-ddigwyddiad yw'r cysylltiad rhwng Salem a Chaersalem, a'r ffaith ei fod yn digwydd eistedd dan lun enwog Salem pan siaradodd gyda Cymru Fyw yn nhafarn y Black Boy yng Nghaernarfon.

Disgrifiad,

Phil Wyman: 'Caernarfon y lle eprffaith i ddysgu Cymraeg' (fideo o Hydref 2022)

Ond cyfri'r dyddiau hyd nes ei daith genhadu dros yr iaith Gymraeg mae o ar hyn o bryd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Phil Wyman

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Phil Wyman

'Syrthio mewn cariad' â Chymru

Daeth Phil i Gymru y tro cyntaf yn 2003 a "syrthio mewn cariad yn cerdded yr afon Gwy o Rhaeadr i Chepstow a padlo caiac drwy'r afon," meddai.

"A des i yn ôl i Gymru bron bob haf, am 15 mlynedd i fynd i'r Eisteddfod, i fynd drwy'r wlad i weld y lle a dwi wedi syrthio mewn cariad efo Caernarfon - achos mae pawb yn siarad Cymraeg yma, ac o'n i'n trïo dysgu Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, Phil Wyman

Efallai bod Phil yn gyfarwydd i rai eisteddfodwyr ifanc oedd yn gorffen eu noson yn y Gorlan yn Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ei fod wedi bod yn helpu yno dros y blynyddoedd.

'Siarad yn gyflym'

"Mae'n anodd iawn i ddysgu Cymraeg yn America," meddai Phil sydd wedi bod yn dilyn cwrs ar y we ac ymarfer gyda rhai siaradwyr Cymraeg roedd yn eu hadnabod yn ardal Boston.

"Mae dipyn bach yn anodd i fyw yng Nghaernarfon achos mae pobl yn siarad yn gyflym iawn ac yn mymblo ychydig hefyd!

"Ond y lle perffaith i ddysgu Cymraeg," ychwanegodd

"Dwi wedi syrthio mewn cariad efo Caernarfon achos des i yma pan oedd yn adeg anodd yn fy mywyd."

Dechrau newydd

Yn 2005 fe wahanodd Phil a'i wraig ac fe syrthiodd yn ddarnau, meddai.

"Des i i Gymru achos o'n i'n teimlo fel rhywbeth newydd. Roedd yn ffordd i ddechrau rhywbeth newydd yn fy mywyd."

Ffynhonnell y llun, Phil Wyman
Disgrifiad o’r llun,

Llun a dynnodd Phil ar Gader Idris yn mis Chwefror 2010, ble cysgodd dros nos

Ar ymweliad yn 2010 dringodd Gader Idris a chysgu ar ei chopa er mwyn dod yn fardd, fel mae'r chwedl am y mynydd ym Meirionnydd yn ei addo - hynny neu droi'n wallgofddyn. "I just came down a madman!" meddai Phil gyda'i chwerthiniad nodweddiadol.

Yr unig gyswllt y gwyddai amdano gyda Chymru pan oedd yn tyfu i fyny oedd bod ei fam weithiau yn ei alw yn 'Fy Nghymro bach i'.

"Dydi hi ddim yn gwybod dim byd am Gymru, ond enw ei theulu oedd Jones. Dwi'n cofio hi'n dweud imi 'My little Welshman' - achos mae hi'n licio Tom Jones dwi'n meddwl!" meddai gan chwerthin eto.

Wrth dyrchu i hanes y teulu daeth o hyd i hynafiad oedd wedi dod o Gymru - Philip Jones a ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1680.

'Crïo' yn y castell

Pan ddaeth i ymweld â Chaernarfon cafodd brofiad emosiynol wrth ddarllen am dywysog Cymru: "Dwi'n cofio mynd i'r castell i weld arddangosfa tywysog Cymru. Yn ystafell cyntaf yr arddangosfa dwi'n cofio darllen y geiriau - Llywelyn ap Gruffydd, last native born prince of Wales, died 1282 - dim gwybodaeth arall.

"Ond o'n i wedi gwybod; wedi darllen y stori - betrayal, beheading. Dwi wedi mynd i Cilmeri ac Abaty Cwm Hir (lle mae Llywelyn wedi ei gladdu)... O'n i'n cofio'r stori."

Roedd hefyd wedi clywed y chwedl bod brenin Lloegr wedi dweud na fyddai'r tywysog nesaf, sef mab Coron Lloegr, yn siarad gair o Saesneg (am mai babi oedd o ar y pryd).

"Dwi wedi sefyll yn y stafell yn y castell yn crïo achos oni'n meddwl - mae rhywbeth yn ddrwg i meddwl am beth oedd yn digwydd i Gymru trwy y blynyddoedd.

"Felly dwi wedi dweud i fy hun rhyw ddydd dwi eisiau dod yn ôl a teithio dros y wlad am un flwyddyn ac un dydd yn siarad dim iaith ond Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Phil Wyman o flaen giatiau Capel Caersalem, Caernarfon

A rŵan mae'r daith bron â throi yn realiti.

Mae wrthi'n gwneud y trefniadau ac mae'n bwriadu ei gwneud mewn ffordd y gall pobl ymuno ar rannau ohoni.

"Un dydd efallai dwi'n mynd i ddringo mynyddoedd; y dydd nesaf efallai dwi'n mynd i wneud cerdded hawdd trwy ddinas neu ar y traeth; a weithiau dwi'n mynd i wneud gigs yn y tafarndai felly dwi'n mynd i wneud lot o bethau gwahanol.

"Cerdded efo pobl eraill sydd eisiau dysgu, i siarad am yr hanes, am y mytholeg... dwi'n licio siarad am athroniaeth felly mae rhaid i fi dysgu yn araf iawn os dwi yn mynd i siarad am athroniaeth yn Gymraeg - dwi ddim yn rhugl eto!

"Os ti'n ddysgwr a ti'n meddwl [dy fod] ti'n rhugl... os ti'n byw yng Nghaernarfon, ti'n gwybod yn well!" meddai Phil dan chwerthin eto.

"Dwi wedi symud yma achos dwi wedi syrthio mewn cariad efo Cymru, efo Caernarfon ac efo'r Gymraeg hefyd.

"Dwi'n gobeithio bod yn rhugl heb fod yn alcoholig achos y lle gorau i ddysgu ydy yn y dafarn!" ychwanegodd.

Mae ganddo un neges olaf i unrhyw un sydd â diddordeb yn ei daith:

"Dwi'n gobeithio dy weld ti i ddod efo fi! Felly pan dwi'n teithio dros y wlad dwi'n gobeithio cerdded efo pobl eraill: efallai ti eisiau dysgu Cymraeg efo fi trwy'r wlad?"

Ffynhonnell y llun, Phil Wyman

Pynciau Cysylltiedig