Corgi Cymru yn dod i ben chwe mis wedi'i lansiad

  • Cyhoeddwyd
logo CGFfynhonnell y llun, Corgi Cymru

Mae gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru yn dod i ben, dim ond chwe mis ers iddo lansio.

Daw hynny wedi i'r Cyngor Llyfrau a Newsquest ryddhau datganiad yn cadarnhau eu bod am roi stop ar ddarparu arian grant i'r gwasanaeth.

Yn gynharach eleni cyhoeddwyd y byddai Corgi Cymru yn derbyn cyllid blynyddol o £100,000 gan y Cyngor Llyfrau.

Fe olygodd hynny bod grant gwefan newyddion golwg360 wedi ei haneru o'r £200,000 y flwyddyn roedden nhw'n arfer ei dderbyn.

Yn gynharach eleni, fe ddaeth gwefan newyddion Cymreig arall dan berchnogaeth Newsquest, The National, i ben.

Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest, bod "amgylchiadau wedi newid" a hynny oherwydd "amgylchedd economaidd heriol".

Bydd sianeli digidol Corgi Cymru yn dod i ben ddiwedd mis Hydref a'r gwasanaeth yn gorffen yn ystod mis Tachwedd.

'Amgylchiadau wedi newid'

Dywedodd Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru bod "amgylchedd presennol heriol" yn golygu fod amgylchiadau wedi newid.

"Ar ôl dwys ystyried a thrafod gofalus, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno mai'r peth gorau i'r ddwy ochr yw terfynu'r cytundeb cyllido a chau'r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru ddiwedd Hydref.

"Rydym wedi bod mewn cyswllt rheolaidd gyda Newsquest dros yr wythnosau diwethaf ac mae'n ddrwg iawn gennym weld Corgi Cymru yn cau, ond rydym yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers dyfarnu'r grant, oherwydd yr amgylchedd presennol heriol sydd ohoni.

"Mae ein meddyliau gyda'r staff sydd wedi'u heffeithio gan y penderfyniad hwn."

Ffynhonnell y llun, Newsquest
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth gwefan newyddion digidol The National, oedd hefyd dan berchnogaeth Newsquest, i ben ddiwedd mis Awst

Dywedodd Gavin Thompson, golygydd rhanbarthol Newsquest: "Rydym yn ddiolchgar i'r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth, sydd wedi caniatáu i ni lansio Corgi Cymru yn gynharach eleni.

"Yn anffodus, daeth yn glir, hyd yn oed gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau ac o ystyried yr amgylchedd economaidd heriol, na fyddai adeiladu menter Gymraeg newydd ar hyn o bryd yn gynaliadwy yn economaidd.

"Rydym wedi bod mewn trafodaethau adeiladol ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn cau The National Wales."

Ychwanegodd y bydd ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mercher gyda staff sy'n cael eu heffeithio yn Newsquest.

Mae un swydd lawn-amser ac un swydd ran-amser "mewn perygl".

Wrth ymateb ar Twitter fe awgrymodd sylfaenydd The National a Corgi Cymru, Huw Marshall, mai newid ym mlaenoriaethau Newsquest oedd yn gyfrifol am ddod i'r penderfyniad hwn.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Huw Marshall 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Huw Marshall 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cadarnhau y bydd y broses ar gyfer ail-dendro am weddill cyllid y grant Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg o 2023 ymlaen yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig