'Aros dros ddwy flynedd' i gofrestru a gweld deintydd y GIG

  • Cyhoeddwyd
Deintydd yn trin claf

Mae pobl yn aros dros ddwy flynedd i gofrestru a chael eu gweld gan ddeintydd y GIG yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn ôl tystiolaeth i bwyllgor iechyd Senedd Cymru.

Dywedodd yr Athro Ivor Chestnutt, ymgynghorydd anrhydeddus i'r bwrdd, fod 15,500 o gleifion ar y rhestr aros.

"Os ymunwch chi heddiw, mae tua 26 mis cyn y gallech ddisgwyl cael apwyntiad deintyddol gyda'r GIG," meddai.

Dywedodd yr Athro Chestnutt y gallai pobl "gael eu gorfodi i gael eu gofal yn breifat", oherwydd na allant wneud hynny ar y GIG.

Rhestr aros ganolog

Roedd yr athro mewn iechyd deintyddol cyhoeddus yn Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru.

"Ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, mae gennym restr aros ganolog ac ar hyn o bryd mae gennym 15,500 o gleifion ar y rhestr aros honno," meddai.

"Os ymunwch chi heddiw, yna mae tua 26 mis cyn y gallech ddisgwyl cael apwyntiad deintyddol gyda'r GIG."

Ychwanegodd yr Athro Chestnutt: "Rwy'n credu ein bod ni, ar hyn o bryd, yn gallu darparu gofal deintyddol brys i'r rhan fwyaf o gleifion.

"Ond ar ôl datrys yr argyfwng uniongyrchol i ble rydyn ni'n eu cyfeirio?"

Rhoddodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ei barn ar y rhesymau dros y prinder deintyddion mewn tystiolaeth i'r pwyllgor fis diwethaf, gan grynhoi ei fod oherwydd:

  • diffyg parhaus o fuddsoddiad mewn staff a seilwaith;

  • anhawster i ddenu a chadw deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol o fewn y GIG;

  • cleifion â phroblemau iechyd y geg sy'n cael eu gwaethygu gan y pandemig a diet gwael;

  • gwastraffu amser clinigol oherwydd colli apwyntiadau, gormod o waith papur, a systemau gweinyddol aneffeithlon.

Ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O eleni ymlaen, rydyn ni'n darparu £2m ychwanegol bob blwyddyn i wella mynediad at wasanaethau deintyddol ledled Cymru.

"Mae newidiadau i gontract deintyddiaeth y GIG, sydd wedi'u cynnig i bractisau deintyddol ers mis Ebrill, hefyd yn cynnwys gofyniad i weld cleifion newydd.

"Mae hyn yn golygu y bydd amcangyfrif o 112,000 o apwyntiadau cleifion newydd yn bosib yng Nghymru o eleni ymlaen."

Pynciau cysylltiedig