'Celfyddydau i bawb' er gwaetha'r argyfwng costau byw
- Cyhoeddwyd
Yr argyfwng costau byw fydd un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r celfyddydau yng Nghymru yn ystod y cyfnod sydd i ddod, yn ôl Prif Weithredwr newydd Cyngor y Celfyddydau.
"Heb os, y'n ni fel sector yn dioddef fel pob sector arall o fewn cymdeithas," meddai Dafydd Rhys ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
Dywedodd Mr Rhys nad yw'r sector wedi dychwelyd i ble roedd e cyn pandemig Covid.
Ond, gan nodi fod pob tystiolaeth yn dangos fod y celfyddydau yn llesol i fywyd y genedl, mynnodd ei fod am sicrhau eu bod yno i bawb, a'u bod yn fforddiadwy i bawb.
Costau 40% yn uwch, incwm 60% yn is
Wrth ddechrau ei swydd newydd, mae Dafydd Rhys yn cydnabod fod her yn ei wynebu: "Mae'n amlwg ar hyn o bryd fod y costau wedi codi ryw 40%, tra bod yr incwm wedi gostwng 60%," meddai.
"Felly mae'n argyfwng, mae'n argyfwng go iawn. A hefyd y'n ni'n colli talent yn y sector, wrth i bobl geisio ffeindio gwaith sy'n fwy dibynadwy na dibynnu ar y sector celfyddydau."
Ag yntau tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, dywedodd fod rhedeg y ganolfan wedi bod yn brofiad gwerthfawr: "Y'ch chi'n ymwneud â busnes y celfyddydau o ddydd i ddydd, y costau o redeg canolfan a sicrhau bod yr hyn y'ch chi'n gynnig yn fforddiadwy."
Ond yn ystod ei gyfnod yn y ganolfan daeth y pandemig ac mae'n dweud fod ei effaith yn dal i'w weld ar y diwydiant; "Oedd neb 'di cael eu paratoi i reoli eu ffordd drwy hwnnw.
"Dyw'r sector ddim wedi dychwelyd i ble roedd e cyn Covid. Mae'r 67 cwmni sy'n cael arian gennym ni fel rhan o bortffolio celfyddydau Cymru yn dal i gyflogi llai o staff nag oedden nhw cyn y pandemig."
Er gwaetha'r heriau mae e'n dweud ei fod am sicrhau fod mwy o bobl, a phobl o wahanol gefndiroedd yn cael cysylltiad gyda'r celfyddydau: "Mae'n bwysig bod pob elfen o gymunedau Cymru yn gweld eu hunain mewn cyrff fel Cyngor y Celfyddydau."
Mae gwaith wedi ei wneud yn barod i fod yn fwy cynhwysol, meddai, ond mae angen gwneud mwy: "Y'n ni'n dweud yn aml iawn bod y celfyddydau i bawb, wel rhaid i ni sicrhau fod hynny yn wir".
Dywedodd Dafydd Rhys fod sicrhau bod y celfyddydau yn fforddiadwy, ac o fewn cyrraedd pobl o bob cefndir yn rhan bwysig o hynny.
Er mwyn gwneud hynny mae'n galw am gydweithrediad: "Yr her i ni yw edrych i weld sut fedrwn ni weithio gyda'r canolfannau a Llywodraeth Cymru i weld allwn ni ymateb drwy ddod â chynllun ger bron sy'n mynd i fynd â ni drwy'r cyfnod anodd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020