Gyrrwr bws wedi gadael merch ysgol ar ochr y ffordd

  • Cyhoeddwyd
LoisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois wedi cael ei gadael ar ochr y ffordd dair gwaith gan Arriva ers iddi ddechrau yn ei hysgol newydd fis Medi

Cafodd merch 11 oed oedd ar ei ffordd i Ysgol Maes Garmon ei gadael yn crïo ar ochr y ffordd wedi i yrrwr wrthod ei gadael ar fws.

Doedd Lois ddim yn cael mynd ar y bws Arriva yn Wrecsam am nad oedd hi'n gallu lawrlwytho cod QR i'w ffôn.

Dywedodd ei thad, Matthew, fod angen "newid diwylliant" o fewn y cwmni.

Mae Arriva yn dweud fod "rheolwyr lleol wedi delio â'r mater er mwyn atal digwyddiadau eraill o'r fath".

Y trydydd tro mewn deufis

Dywedodd tad Lois ei bod wedi ceisio dangos i'r gyrrwr fod ganddi bas bws am y mis, ond ei fod wedi dweud nad ei broblem ef oedd y sefyllfa, cyn gyrru i ffwrdd.

Bu'n rhaid i'w thad yrru'r naw milltir i Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug ddydd Mercher ar ôl 'nôl Lois o'r arhosfan bws yng Ngwersyllt.

Dywedodd mai dyma'r trydydd tro i'w ferch, sydd ym Mlwyddyn 7, gael ei gadael ar ochr y ffordd gan Arriva ers iddi ddechrau yn ei hysgol newydd fis Medi.

Ychwanegodd, ar ddechrau'r tymor, fod Lois ymysg criw o ddisgyblion a gafodd eu gadael tu allan i'r ysgol ar ddiwedd y dydd am fod y gyrrwr wedi dweud fod y bws yn llawn.

Mewn digwyddiad arall yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Matthew fod y bws wedi gyrru heibio i'r holl ddisgyblion oedd yn aros amdano yn yr arhosfan.

Ffynhonnell y llun, Alan Sansbury
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Arriva fod "rheolwyr lleol wedi delio â'r mater er mwyn atal digwyddiadau eraill o'r fath"

Dywedodd prif swyddog trafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint, Kate Wilby, fod yr awdurdod wedi cael gwybod fod y bws dan sylw wedi methu mynd â disgyblion i'r ysgol "ar sawl achlysur" yn y mis diwethaf.

Er mai gwasanaeth bws cyhoeddus yw hwn, dywedodd Ms Wilby fod y cyngor wedi trefnu trafnidiaeth amgen i rai disgyblion yn dilyn y pryderon, gan olygu y bydd mwy o le ar y bws cyhoeddus o hyn ymlaen.

Dywedodd Matthew ei fod wedi cael e-bost gan Arriva ar ôl i Lois gael ei gadael yn yr arhosfan, yn dweud y bydd y cwmni yn delio gyda'r gyrrwr.

Ond dyw hynny ddim yn ddigon, yn ei ôl ef.

"Mae angen newid diwylliant. Dydw i ddim eisiau i un person gael ei drin fel scapegoat," meddai.

'Ddim yn addas i'w bwrpas'

Cododd y mater gyda'i gynghorydd lleol, Emma Holland, a ddywedodd ei bod hi hefyd wedi cael problemau gydag Arriva, a bod y gwasanaeth "ddim yn addas i'w bwrpas" yn ardal Wrecsam.

Dywedodd Arriva fod newidiadau wedi'u gwneud i rwydwaith Wrecsam yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliad, a'i fod yn croesawu adborth gan deithwyr ar ei wasanaethau ac amserlen.