Dyn o Ynys Môn 'wedi lladd ei gymar yn ei gwely'
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn dyn o Ynys Môn sydd wedi ei gyhuddo o guro ei gymar i farwolaeth wrth iddi orwedd yn ei gwely.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Buddug Jones, 48, wedi cael anafiadau difrifol i'w phen, a'u bod mwyaf tebyg wedi eu hachosi gan forthwyl trwm.
Fe gafodd Colin Milburn, 52, ei arestio yn y cartref teuluol ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd yr ynys ar 22 Ebrill eleni.
Mae wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio Ms Jones, oedd yn fam i bedwar o blant.
Wrth amlinellu achos yr erlyniad, dywedodd Gordon Cole KC bod Mr Milburn yn grediniol bod ei gymar yn cael perthynas gyda rhywun arall.
Dywedodd wrth y rheithgor ei fod wedi bygwth ei lladd "a phwy bynnag roedd yn tybio roedd hi'n eu gweld".
'Obsesiwn'
Clywodd y gwrandawiad bod Mr Milburn wedi symud allan o'u cartref, ym Maes Gwelfor, yn yr wythnos cyn marwolaeth Ms Jones, gan fyw yn ei gar yng Nghaergybi.
Yn ôl Mr Cole, fe adawodd sawl neges ar ei ffôn a mynd i'w tŷ gyda blodau mewn ymgais i gael dychwelyd ac adfer y berthynas.
"Roedd Colin Milburn ag obsesiwn bod ei gymar wedi bod yn cael perthnasau gyda phobl eraill - rhywbeth, y mae'n ymddangos, yr oedd Buddug yn gyson yn ei wadu," meddai, "ond wnaeth hynny ddim stopio'r diffynnydd rhag gwneud y cyhuddiadau."
Clywodd y rheithgor bod Mr Milburn wedi curo ar ddrws cymdogion, Huw a Patricia Jones, tua 11:20 ar fore 22 Ebrill yn dweud bod Ms Jones yn y gwely ac yn edrych fel petae rhywun wedi ymosod arni.
Aeth y cymdogion gyda Mr Milburn i'r tŷ ac fe welodd Mr Jones bod Buddug Jones yn gorwedd yn y gwely gydag anafiadau difrifol i'w phen.
"Roedd yn amlwg iawn i Mr Jones bod Buddug wedi cael ei lladd," ychwanegodd Mr Cole.
Roedd Patricia Jones lawr grisiau ar y pryd gyda Mr Milburn ac fe ffoniodd yr heddlu.
Dywed yr erlyniad bod Mr Milburn wedi dweud wrth Mrs Jones bod ei gymar wedi bod mewn perthynas ers blynyddoedd gyda dyn o'r enw Dewi.
Honnodd Mr Cole ei fod "mor ddig roedd ofn ar Mrs Jones".
Pan gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, dywedodd wrth yr heddlu: "Be' 'di hyn? 'Dwi heb 'neud dim byd."
Clywodd y llys bod archwiliad post-mortem wedi dod i'r casgliad bod Ms Jones wedi marw o ganlyniad gael ei tharo bum neu chwe gwaith yn ei phen gydag arf trwm.
"Y posibilrwydd fwyaf tebygol yw morthwyl trwm," meddai Mr Cole.
Dydy'r heddlu heb ddod o hyd i'r arf a laddodd Ms Jones.
Clywodd y rheithgor hefyd bod Ms Jones ag anafiadau i'w llaw oedd yn gyson â cheisio amddiffyn ei hun.
Dywedodd Mr Cole y bydd yn cyflwyno tystiolaeth wyddonol, gan gynnwys gwaed ar ddillad sy'n perthyn i'r diffynnydd.
'Nonsens'
Clywodd y gwrandawiad bod Mr Milburn wedi bod yn y tŷ ar fore marwolaeth Ms Jones.
Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi mynd â dillad yno i'w golchi.
Yn ddiweddarach, fe ddywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi anghofio gadael y dillad yno ar ei ymweliad cyntaf ac wedi dychwelyd i'r tŷ.
Awgrymodd Mr Cole mai "nonsens" oedd hynny a bod Mr Milburn wedi dychwelyd a lladd ei gymar.
Gwadu hynny mae'r diffynnydd ac mae disgwyl i'r achos bara am dair wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022