Cyhuddo 13 yn dilyn ffrwgwd ym mynwent Treforys, Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Mynwent TreforysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y diffynyddion eu cyhuddo mewn cyfres o wrandawiadau o flaen Llys Ynadon Abertawe

Mae 13 o bobl - naw o ddynion a phedwar o fechgyn yn eu harddegau - wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â ffrwgwd "dychrynllyd" ym Mynwent Treforys, Abertawe dros ddeufis yn ôl.

Cafodd dau berson anafiadau difrifol yn y ffrwgwd a ddigwyddodd ddydd Gwener 5 Awst.

Dywed Heddlu De Cymru bod yr holl ddiffynyddion yn nabod ei gilydd, ac y byddai gweld grŵp o bobl yn defnyddio arfau yn erbyn ei gilydd yng ngolau dydd wedi codi ofn mawr ar bobl eraill.

Mae pedwar o'r diffynyddion wedi cael eu cadw yn y ddalfa hyd nes eu hymddangosiad llys nesaf:

  • James Coffey, 45, o Dredelerch;

  • Jeffrey Tawse, 24, o Dredelerch;

  • John Coffey yr ieuaf, 24, o Dredelerch; a

  • Patrick Joseph Murphy, 40, o Lanelli.

Mae'r gweddill wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth:

  • Bachgen 16 oed o Dredelerch;

  • Bachgen 17 oed o Dredelerch;

  • Bachgen 17 oed o Lanelli;

  • Andrew John Thomas, 40, o Llanelli;

  • John Joe O'Brien, 53, o Lanelli;

  • John Murphy yr ieuaf,18, o Lanelli;

  • Martin John O'Brien, 57, o Llanelli;

  • Paddy Murphy, 18, o Llanelli; a

  • Bachgen 16 oed o Lanelli.

Mae mwyafrif y diffynyddion yn wynebu dau gyhuddiad yr un, sef anhrefn dreisgar a bod ag arfau yn eu meddiant.

Mae dau, sef James Coffey ac Andrew John Thomas, hefyd wedi eu cyhuddo o yrru'n beryglus.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mike Owens fod Heddlu'r De wedi cydweithio gyda lluoedd eraill wrth ymchwilio i'r achos ac arestio'r diffynyddion.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad hollol ddychrynllyd a fyddai wedi brawychu pwy bynnag oedd yn y fynwent yng nghanol y dydd," meddai.

Pynciau cysylltiedig