Peter Ormerod wedi marw o 'anaf trawmatig i'w ben'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y bu farw cyn-athro yn Sir Gâr fis Medi o ganlyniad i "anaf trawmatig i'w ben".
Fe wnaeth Peter Ormerod, 75, ddioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad honedig ym Mhorth Tywyn ar 24 Medi.
Bu farw'r cyn-athro Mathemateg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd y cwest i'w farwolaeth ei agor a'i ohirio yn Llanelli ddydd Gwener.
'Sawl toriad i'w benglog'
Yn ystod y gwrandawiad darllenwyd adroddiad heddlu oedd yn dweud fod Mr Ormerod wedi "dioddef anaf trawmatig i'w ben" yn y digwyddiad.
Dywedodd y dirprwy grwner Mark Layton fod y patholegydd Dr Richard Jones wedi nodi fod asesiadau cychwynnol yn awgrymu i Mr Ormerod farw o "anaf i'w ben oedd yn cynnwys sawl toriad i'w benglog a chleisiau ar yr ymennydd".
Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth Hywel David Williams, 39 oed o ardal Grangetown yng Nghaerdydd, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi'i gyhuddo o ddynladdiad Mr Ormerod.
Mae'n gwadu'r cyhuddiad a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan ddechrau'r achos yn ei erbyn ym mis Gorffennaf 2023.
Cafodd y cwest ei ohirio nes y bydd unrhyw achos cyfreithiol yn dod i ben.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022