Cinema & Co: Perchennog yn rhoi'r gorau i apêl dedfryd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anna Redfern

Mae perchennog sinema a gafodd ddirwy o £15,000 am dorri rheolau Covid wedi rhoi'r gorau i'w hapêl yn erbyn ei dedfryd.

Nid oedd Anna Redfern o Cinema & Co yn Abertawe yn y llys ddydd Gwener i glywed gorchymyn barnwr iddi dalu £8,998 mewn costau.

Cafodd ddirwy fis Rhagfyr diwethaf am gadw ei busnes ar agor er iddi gael ei gorchymyn i gau am resymau diogelwch Covid.

Cafodd apêl Redfern ei gohirio ym mis Medi pan orchmynnodd barnwr iddi lunio trywydd archwilio ariannol.

Roedd y Barnwr Paul Thomas KC eisiau tystiolaeth "ddogfennol yn hytrach nag anecdotaidd" cyn dyfarnu ar y dirwyon a gallu Redfern i dalu.

Roedd y datgeliad hwnnw i gynnwys yr hyn a ddigwyddodd i ddegau o filoedd o bunnoedd o ymgyrch ariannu torfol ar-lein a grantiau'r llywodraeth.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener daeth i'r amlwg bod Redfern wedi diswyddo ei bargyfreithiwr a'i thîm cyfreithiol.

Clywodd y llys na chydymffurfiwyd â'r datgeliad ariannol.

Pynciau cysylltiedig