Powys: Diwrnod yn llai yn yr ysgol i arbed costau?

  • Cyhoeddwyd
Dysgu ar-leinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dysgu plant ar-lein ddiwrnod yr wythnos yn un opsiwn sy'n cael ei ystyried i arbed costau i ysgolion Powys

Mi allai rhai o ddisgyblion Powys gael eu haddysg ar-lein am ddiwrnod yr wythnos er mwyn i ysgolion gwtogi costau.

Mae'n un o nifer o syniadau sy'n cael eu hystyried i alluogi ysgolion i arbed arian ar gynhesu adeiladau, yn ôl aelod cabinet y cyngor dros addysg.

Mae gwisgo cotiau yn yr ystafell ddosbarth, peidio llenwi swyddi gwag a chwilio am wirfoddolwyr ymysg y camau eraill sy'n cael eu crybwyll mewn dogfen i benaethiaid ysgolion y sir.

Ond does dim penderfyniad pendant eto a'r ysgolion eu hunain fydd yn penderfynu sut i wneud arbedion.

'Ystyried pob opsiwn'

Yn ôl aelod cabinet Powys dros addysg, mae'n rhaid ystyried pob dewis posib i fynd i'r afael â'r argyfwng ariannol.

Dywedodd Pete Roberts wrth gyfarfod cyngor fod cyllidebau ysgolion yn cael eu harchwilio'n "fanwl" ar gyfer "atebion posib".

"Mi wnaethom ni awgrymu'r posibilrwydd o wythnos bedwar diwrnod," meddai, "gyda'r pumed diwrnod yn cael ei ddysgu yn rhithiol, yn ogystal ag wythnosau pan fyddai peth dysgu'n cael ei wneud ar-lein".

Ond fe wnaeth bwysleisio nad ydy ysgolion wedi cael "cyfarwyddyd pendant" i wneud hynny, yn ôl y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol.

"Penderfyniad a chyfrifoldeb pennaeth yr ysgol a chadeirydd y llywodraethwyr ydy cyllideb yr ysgol yn y pen draw, a dydy'r un ateb ddim yn addas i bawb," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, ASCL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awgrym yn arwydd o "ddifrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru" yn ôl undeb yr ASCL

Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr un o undebau'r prifathrawon, ASCL Cymru, fod yr awgrym yn "tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa sydd ganddom ni yma yng Nghymru".

Dywedodd wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast: "Yn amlwg, os oes gennym ni blant gartre' am ddiwrnod neu hanner diwrnod yr wythnos, 'dan ni'n mynd i gymlethu problemau'r plant mwyaf anghennus.

"Pwy fydd gartre', a phwy allai fod heb fynediad i addysg yn eu cartref eu hunain - fe welsom ni hynny yn ystod Covid.

"Felly mae'n rhaid mai hyn fyddai'r cam olaf un. Ond dwi'n meddwl fod y ffaith fod hyn wedi cael ei ystyried yn arwydd o pa mor anodd yw'r sefyllfa.

"Mae ysgolion ar hyn o bryd yn trïo jyglo a chydbwyso eu cyllideb, ond dydy hynny just ddim yn bosib.

"Mae'n mynd i arwain at ddiswyddiadau, mae'n mynd i arwain at ddosbarthiadau mwy a llai o ddewis pynciau."

'Gwisgo cotiau yn y dosbarth'

Yn ôl y Cynghorydd Pete Roberts mae ysgolion wedi cael cyfarwyddyd i lunio cynlluniau yn esbonio sut y byddan nhw'n parhau gydag addysg y plant, ac y byddai angen iddyn nhw feddwl am"bob sefyllfa bosib".

Disgrifiad o’r llun,

Mae biliau tanwydd yn un o'r elfennau sy'n ei gwneud hi'n anodd i ysgolion gadw o fewn eu cyllideb

Mi allai dysgu ar-lein "leihau costau tanwydd ysgolion ac arwain at arbedion sylweddol," dywedodd.

Mae plant eisoes wedi bod yn gwisgo cotiau yn yr ystafell ddosbarth, meddai.

"Dros y ddau aeaf diwethaf, mewn rhai achosion, mae rhai plant wedi gorfod gwisgo eu cotiau yn yr ystafell ddosbarth am bod ffenestri wedi bod yn agored fel rhan o'r mesurau atal Covid, ond nid oherwydd bod yr ysgol yn methu fforddio eu biliau tanwydd.

Gyda Covid ar gynnydd, mae'r sefyllfa yma yn debygol o ddigwydd eto eleni".

Ond pwysleisiodd na fyddai'r sir yn defnyddio gwirfoddolwyr i ddysgu plant: "Fyddem ni ddim yn dadlau dros gael gwirfoddolwyr yn lle athrawon.

"Fyddem ni ond yn ystyried peidio llenwi swyddi gwag os fyddai'r gwaith sy'n gysylltiedig â nhw gael ei wneud gan aelodau eraill o'r staff yn y tymor byr".

Pynciau cysylltiedig