Dim swydd am nad oedd athrawes yn 'adlewyrchu'r gymuned'
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r unig brifathrawon yng Nghymru sydd o leiafrif ethnig wedi sôn am yr hiliaeth mae hi wedi ei brofi yn ystod ei gyrfa, wrth iddi geisio newid pethau.
Cafodd Reena Patel ei galw'n enwau hiliol gan blant pan oedd hi'n gweithio fel athrawes lanw yng Nghymru.
Dywedodd ei bod hi hefyd wedi cael ei gwrthod ar gyfer swydd pennaeth un tro am nad oedd hi'n "adlewyrchu'r gymuned".
Mae hi wedi dechrau gweithio i sicrhau bod ei hysgol hi'n wrth-hiliol, gan ddechrau gydag hyfforddiant i'w staff sydd ar y cyfan yn wyn.
'Anodd deall y rhwystrau'
Mae tua 90% o'r 480 o blant yn Ysgol Gynradd Kitchener yng Nghaerdydd yn dod o gefndiroedd lleiafrifol, ond mae pob un athro ond un yn wyn.
"Mae'r term white privilege yn gwneud i chi deimlo dan fygythiad, mae'n gwneud i chi feddwl eich bod chi'n hiliol a dyw e ddim," meddai Mrs Patel, un o bum pennaeth yn unig yng Nghymru sydd o leiafrif ethnig.
"Pan 'dych chi'n gweithio mewn ysgol ble mae 'na amrywiaeth 'dych chi'n meddwl yn awtomatig eich bod chi'n wrth-hiliol, achos 'dych chi'n teimlo eich bod chi'n deall anghenion y plant.
"Ond mae'n bwysig adlewyrchu ar eich breintiau eich hunan hefyd."
Ychwanegodd: "Dwi'n gwybod weithiau os 'dych chi o dras gwyn ei bod hi'n anodd weithiau credu fod 'na rwystrau yna i'n plant, ond gall e fod yn rhywbeth mor fach â chyflwyno ffurflen gais.
"Mae hwnna'n anodd iawn i rai o'n teuluoedd, ac mae'n bwysig deall ei bod hi'n bosib nad ydych chi'n deall y rhwystrau yna, ond bod pobl sy'n edrych fel fi yn."
Rhybuddiodd hefyd fod angen bod yn wyliadwrus ynghylch hiliaeth rhwng grwpiau o fewn lleiafrifoedd ethnig hefyd.
Mae'r ysgol wedi bod yn gweithio gyda rhwydwaith DARPL, gyda'r plant yn gweithio ar brosiectau sy'n dathlu hunaniaeth a digwyddiadau sy'n rhan o ddiwylliannau gwahanol.
'Eisiau mynd yn ôl i Gaerlŷr'
Cafodd Mrs Patel, sydd o dras Indaidd, ei geni yng Nghaerlŷr, ac fe astudiodd yn Llundain cyn symud i Gymru.
Dywedodd bod dod i weithio yn ysgolion y wlad hon wedi bod yn "sioc ddiwylliannol".
"Dwi wedi profi hiliaeth - hilaeth mewn recriwtio, hiliaeth wrth fod yn athrawes, ac mae 'na ryw agwedd eich bod chi i fod i dderbyn y peth achos chi yw'r lleiafrif, pan do'n i ddim yn teimlo fel lleiafrif yng Nghaerlŷr neu Llundain," meddai.
Cyn dod yn brifathrawes yn Kitchener, mae'n dweud iddi gael ei gwrthod ar gyfer sawl swydd arall fel pennaeth.
"Roedd e'n siomedig iawn, roeddwn i'n drist iawn," meddai, wrth adlewyrchu ar un o'r achlysuron hynny.
"Cafodd ei awgrymu nad oeddwn i'n adlewyrchiad o'r gymuned, felly dyna pham na ches i'r swydd er mod i'n agos iawn.
"Mae'n drist bod hyn yn dal i ddigwydd yn 2022 ond roeddwn i hefyd yn rhwystredig achos nid fy ngallu i fel prifathrawes oedd y rheswm, ond mwy oherwydd sut oeddwn i'n edrych."
Ychwanegodd ei bod hi'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu "dychryn" ganddi - "fel person ifanc o liw".
Dywedodd hefyd ei bod wedi profi hiliaeth wrth weithio fel athrawes lanw, gan gynnwys cael ei galw'n "eiriau penodol".
"Roedd e'n gwneud i mi beidio eisiau bod yng Nghymru os dwi'n onest, roedd e'n gwneud i fi fod eisiau mynd yn ôl i Gaerlŷr, achos doeddwn i heb brofi hynny o'r blaen," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn rhannu ei phrofiad yn y gobaith y bydd eraill, gan gynnwys ei merch, yn gweld newid yn y dyfodol.
Rhwydweithio ag eraill
Yn ôl Mrs Patel mae angen mwy o benaethiaid o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ac mae cael rhywun fel hi yn bennaeth yn bwysig ar gyfer y plant yn ei hysgol.
"Mae 'na ddywediad dwi'n defnyddio gyda'r plant yn aml - 'allwch chi ddim bod yn rhywbeth 'dych chi ddim yn ei weld'," meddai.
"Dwi'n gobeithio ei fod yn ysbrydoli plant i fod eisiau mwy. Mae'n gwneud iddyn nhw deimlo cyswllt gyda fi, rydyn ni'n siarad am wyliau, ieithoedd, y bwydydd 'dyn ni'n bwyta.
"Mae'n plant yn teimlo'r diogelwch yna, y synnwyr o berthyn, ac o gyswllt."
Dyw Mrs Patel ddim yn adnabod y penaethiaid eraill yng Nghymru sydd o leiafrifoedd ethnig, ond mae'n dweud y byddai'n hoffi cysylltu gyda nhw er mwyn cael "rhwydwaith o gefnogaeth" a rhannu profiadau.
"Bydd just gweld pobl sy'n edrych fel fi mewn swyddi uwch dylanwadol, yn helpu cenedlaethau'r dyfodol," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022