Blaenau Ffestiniog: Carcharu ffermwr a'i wahardd rhag cadw cŵn

  • Cyhoeddwyd
Dog in a cageFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ci bach du ei ganfod mewn cawell bach rhydlyd

Mae ffermwr o Wynedd wedi ei garcharu ar ôl torri gwaharddiad o wyth mlynedd rhag cadw cŵn.

Roedd David Williams Lloyd Thomas, 56 oed o Fferm Cwm Bowydd, Blaenau Ffestiniog, wedi ei wahardd yn 2018 ar ôl achos llys yn ymwneud â'r defnydd o gŵn i ymladd moch daear.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno fod Thomas wedi anwybyddu'r gwaharddiad a bod y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon wedi cynnal cyrch cudd i'w wylio.

Wrth ddedfrydu Thomas i 24 wythnos o garchar, dywedodd y barnwr rhanbarth Gwyn Jones ei fod yn fodlon bod y ffermwr wedi mynd ati yn fwriadol i dorri'r gyfraith.

"Heb amheuaeth byddwch wedi gobeithio gyda threigl amser y byddai pobl wedi anghofio unrhyw bryder oedd ganddynt am y modd yr ydych yn ymdrin ag anifeiliaid," meddai.

Dywedodd yr amddiffyniad nad oedd gan Thomas unrhyw fwriad i gael pleser o ddioddefaint anifeiliaid.

Gwaharddiad newydd

Yn ogystal â chyfnod yn y carchar penderfynodd yr ynadon osod gwaharddiad newydd o 10 mlynedd rhag cadw cŵn a ffureti.

Fe blediodd Thomas yn euog i gyhuddiadau o dorri'r gwaharddiad, o gicio ci, ac o fethu ag edrych ar ôl 29 o gŵn a ddau ffuret yn iawn.

Penderfynodd y llys hefyd fod mab Thomas, Carwyn Lloyd Fazakerely - 18 oed ac o'r un cyfeiriad - yn euog o fethu â darparu yn briodol ar gyfer 29 o gŵn.

Cafodd ei ddedfrydu i 160 o oriau di-dâl a thalu costau o £600 a'i wahardd rhag cadw cŵn am 10 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr achos i'r amlwg ar ôl ymchwiliad gan y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon

Gwnaed gorchymyn hefyd i symud 28 o gŵn a dau ffuret o'r fferm.

Clywodd y llys fod aelodau o'r RSPCA ynghyd â'r heddlu wedi ymweld â'r fferm ar 17 Tachwedd 2021 yn dilyn gwybodaeth a ddaeth i law.

Dywedodd arolygwyr yr RSPCA fod yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn amgylchiadau "budur ac anaddas".

Roedd un o'r cŵn wedi ei ganfod ar ben ei hun ar dennyn mewn ysgubor gwbl dywyll a'i fudreddi o'i gwmpas.

Dywedodd arolygydd arall fod anifeiliaid yn cael eu cadw gyda sgerbydau yn pydru o'u cwmpas a "bowlen o ddŵr yfed oedd â lliw oren."

Cafodd yr anifeiliaid eu rhoi yn ofal yr RSPCA a dywed yr elusen y byddan nhw nawr yn cael eu hailgartrefu.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon eu bod yn croesawu'r ddedfryd o garchar ond eu bod yn siomedig nad oedd y ddedfryd yn fwy llym.

Pynciau cysylltiedig