Gwahardd dynes am gadw 100 o gŵn mewn 'twll uffern'

  • Cyhoeddwyd
Cŵn yng nghartref Julie Elizabeth NewcombeFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cŵn yn cael eu cadw "dan amodau ffiaidd," clywodd y llys

Mae menyw wedi cael ei gwahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd ar ôl iddi gadw bron i 100 o'r anifeiliaid mewn "twll uffern".

Clywodd llys bod Julie Elizabeth Newcombe, o Dredegar, wedi cadw bridiau Labrador, Dachshund, a chŵn tarw Ffrengig, dan "amodau ffiaidd" mewn lle oedd wedi'i lygru gan faw cŵn.

Dywedodd y Prif Arolygydd Elaine Spence, o'r Gymdeithas Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA), mai hwn oedd yr achos gwaethaf iddi ei weld erioed.

Clywodd Llys Ynadon Casnewydd fod Newcombe yn cael "ei rheoli" gan ei chyn-gariad pan ddigwyddodd y drosedd.

Roedd Newcombe yn gwerthu'r anifeiliaid, ac yn y broses o geisio gwneud gwerthiant pan ddaeth yr heddlu i'w chartref, clywodd y llys.

Methodd ddarparu digon o le i'r cŵn fyw'n gyfforddus, a chafodd ei chanfod yn euog o un drosedd dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai o'r cŵn yn cael eu cadw mewn caetsys un ar ben y llall

Roedd delweddau gan yr RSPCA yn dangos cŵn yn cael eu cadw mewn "amgylchedd ffiaidd" yng nghartref Newcombe yn Nhredegar yn 2020.

Roedd yr erlyniad wedi costio £200,000 i'r RSPCA oherwydd bod cynifer o anifeiliaid yn rhan o'r ymchwiliad.

"Dyma'r olygfa fwyaf ofnadwy y gallwch ei ddychmygu," meddai'r prif arolygydd Spence.

"Roedd un o'r 'stafelloedd i lawr grisiau yn ddu, doedd yna ddim goleuni, roedd cŵn wedi eu stacio er ben ei gilydd mewn caetsys.

"Roedd y cŵn hyn yn byw mewn twll uffern," meddai.

Wrth ei dedfrydu dywedodd y Barnwr Toms fod yr anifeiliaid "yn amlwg mewn trallod, yn amlwg mewn lle cyfyng, yn amlwg mewn budreddi" a'i bod yn "drosedd ddifrifol iawn".

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Julie Elizabeth Newcombe yn cadw tua 100 o cŵn mewn budreddi, clywodd y llys

Serch hynny, roedd y barnwr yn cydnabod bod gan ei chariad ar y pryd "reolaeth" drosti, a'i bod yn dioddef "camdriniaeth domestig".

Roedd hi "mewn sefyllfa enbydus", meddai.

Cafodd ei gwahardd rhag bod yn berchen ar gŵn am bum mlynedd, sy'n cynnwys gwaharddiad rhag cadw cŵn, ymhel â chadw cŵn neu brynu a gwerthu cŵn.

Cafodd hefyd orchymyn cymunedol am 12 mis, lle bydd hi dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf, ac yn gorfod gwneud 20 diwrnod o waith neu weithgareddau di-dal.

Pynciau cysylltiedig