Osian Roberts a Malcolm Allen yn rhan o dîm S4C yn Qatar

  • Cyhoeddwyd
Osian Roberts a Malcolm AllenFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Osian Roberts a Malcolm Allen yn teithio i Qatar fel rhan o dîm S4C

Bydd is-reolwr Crystal Palace, Osian Roberts, yn ymuno â thîm cyflwyno S4C ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Mae'r sianel hefyd wedi cadarnhau y bydd cyn-flaenwr Newcastle a Chymru, Malcolm Allen, yn dadansoddi'r gystadleuaeth sy'n cychwyn ar 20 Tachwedd.

Bydd y ddau yn ymuno ag Owain Tudur Jones yn dadansoddi yn Qatar, gyda Dylan Ebenezer yn cyflwyno, Sioned Dafydd yn gohebu a Nic Parry a Gwennan Harries yn y blwch sylwebu.

Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd FIFA, gan gychwyn gydag UDA v Cymru ar nos Lun 21 Tachwedd am 18.00.

'Dangos i'r byd'

Dywedodd Osian Roberts, a oedd yn rhan o dîm hyfforddi Cymru yn ystod Euro 2016: "Mae'r tîm yma wedi cyflawni rhywbeth arbennig iawn drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA ac mae Rob Page yn haeddu clod anferthol am hynny.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dylan Ebenezer, Sioned Dafydd, Owain Tudur Jones a Gwennan Harries eisoes wedi eu datgelu fel rhan o ddarllediadau S4C

"Ond mi fydd y chwaraewyr yn benderfynol o ddangos i'r byd beth maen nhw'n gallu gwneud a beth mae cynrychioli eu gwlad yn ei olygu iddyn nhw.

"Rydw i'n edrych ymlaen yn arw i fod yn Qatar fel rhan o dîm Cwpan y Byd S4C."

Bydd darllediadau o gemau Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, ar ran S4C.

'Holl ffordd i'r ffeinal'?

Ychwanegodd Malcolm Allen: "Ar ôl dod mor agos i gyrraedd Cwpan y Byd fel chwaraewr, dwi mor falch i fod yno yn 2022, yng nghanol sioe fwyaf y byd.

"Dyma'r llwyfan mae pawb eisiau bod arno a dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm S4C a rhoi'r iaith Gymraeg ar y map.

"Mae gen i ffydd a hyder yn Rob Page a'r tîm a dwi'n gobeithio gweld yr hogiau yn mynd yr holl ffordd i'r ffeinal.

"Fel Cymro balch, dwi mor gyffrous i fod yn rhan fach o achlysur anferthol yn hanes ein gwlad."