Angen gwella unedau brys ysbyty mwyaf newydd Cymru - adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwelliannau ar frys yn adran achosion brys ysbyty mwyaf newydd Cymru, yn ôl arolygwyr.
Mae'r adroddiad yn dweud y cafodd meddyginiaethau wedi dyddio eu canfod yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.
Roedd diffyg diogelwch hefyd o gwmpas sylweddau allai fod yn niweidiol, medden nhw.
Ond mae prif bryderon Arolygiaeth Gofal Cymru yn broblemau sy'n cael eu gweld yn genedlaethol, gyda hynny'n cael effaith ar bobl sy'n cyrraedd unedau brys.
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud eu bod nhw'n ceisio lleihau'r amseroedd aros ac yn wynebu heriau sylweddol oherwydd prinder staff.
Dywedodd aelodau o staff wrth arolygwyr nad oedden nhw wastad yn gallu darparu gofal i'r safon oedden nhw'n dymuno oherwydd pwysau cynyddol a'r galw ar yr adran.
Bu pryderon tebyg mewn adroddiad blaenorol ar Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble gafodd cleifion eu gweld yn eistedd ar finiau yn y mannau aros.
Cafodd Ysbyty'r Faenor ei agor yn gynnar yn ystod y pandemig, ac mae yna feirniadaeth wedi bod amdano yn y gorffennol.
Yn 2021 daeth adroddiad gan Goleg Brenhinol y Fferyllwyr i'r casgliad bod rhai meddygon dan hyfforddiant ac ymgynghorwyr ag ofn dod i'r gwaith oherwydd diffyg staff a bod y llwyth gwaith yn ormod.
Yn gynharach eleni, dywedodd y cyfarwyddwr meddygol bod angen ehangu'r safle oherwydd bod y galw draean yn uwch na'r disgwyl.
Mae'r adroddiad ddydd Iau, fodd bynnag, yn rhoi darlun mwy positif o ran rhedeg yr ysbyty, gyda staff yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi a chleifion yn canmol y timau meddygol a'r driniaeth.
Ond mae hefyd yn rhybuddio: "Hyd nes y gellir gwella llif y cleifion i mewn i'r Adran Achosion Brys a thrwyddi, gallai'r bwrdd iechyd ei chael hi'n anodd mynd i'r afael â nifer o'n pryderon."
Dywedodd un aelod o staff dienw wrth yr arolygwyr eu bod yn "derbyn yn llwyr fod llif yn broblem genedlaethol ond dyma'r pryder mwyaf o ran diogelwch cleifion gan fod tystiolaeth dda bod cleifion yn dod i niwed".
Fe aeth ymlaen i ddefnyddio'r gyfatebiaeth (analogy): "Os yw'r bath yn llawn ac yn gorlifo... peidiwch â gwneud bath mwy... atgyweiriwch y twll plwg os gwelwch yn dda."
'Prinder staff'
Ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig mae prinder staff mewn gofal cymdeithasol yn golygu nad yw cleifion yn gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty, er eu bod yn feddygol yn ddigon da.
Mae hynny'n golygu nad oes 'na welyau ar gael i rheiny sy'n cyrraedd unedau brys mewn ysbytai gan arwain at amseroedd aros hir.
Mae'r ystafell aros yn Ysbyty'r Faenor yn "rhy fach", meddai'r adroddiad, a dyw hi ddim yn addas.
Ychwanegodd bod yr amseroedd aros hir i gleifion yn gallu eu harwain i fod yn rhwystredig ac weithiau'n flin.
Ond mae hefyd yn pwysleisio bod y mwyafrif o'r cleifion yn canmol staff yr adran a'r ambiwlansys.
"Fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn garedig, yn barchus ac yn gymwynasgar. Er bod llawer o gleifion yn anhapus â'r amseroedd aros am ofal a thriniaeth, roedden nhw yn cydnabod nad bai'r staff oedd hyn."
Dywedodd rhai cleifion wrth yr arolygwyr fod yn rhaid iddyn nhw eistedd ar y llawr oherwydd diffyg lle.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y gallai mwy na 50 o gleifion fod yn aros yn yr ystafell aros.
Roedd y mwyafrif o'r rheiny yn "sâl yn gorfforol neu'n feddyliol", ac ychwanegodd: "Roedd hyn yn risg sylweddol ac yn gosod straen a risg ar yr aelodau staff."
Bu arolygwyr yn yr ysbyty am dri diwrnod yn ystod mis Awst.
Ar eu diwrnod cyntaf roedd 14 ambiwlans yn disgwyl y tu allan a bu'n rhaid i un claf aros 18 awr i gael ei drosglwyddo oherwydd risg rheoli haint.
'Cefnogi gwelliannau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi gwelliannau i adrannau brys drwy amryw o fesurau gwahanol.
"Ry'n ni'n darparu £25m yn ychwanegol eleni i drawsnewid gofal brys ar draws Cymru gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn derbyn £2m," meddai.
"Ry'n ni hefyd yn darparu £260,000 yn ychwanegol i'r bwrdd iechyd i wneud gwelliannau i'w adran frys ar gyfer y gaeaf hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Fel pob ysbyty ar draws Cymru a'r DU, mae Ysbyty'r Faenor yn wynebu heriau sylweddol oherwydd prinder Staff, galw cynyddol a sgil effeithiau pandemig Covid-19 ar iehcyd pobl."
Ychwanegodd: "Mae Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd wedi nodi bod angen gwelliannau i lif cleifion a'r amseroedd aros ac ry'n ni'n derbyn hynny'n llwyr.
"Tra bod hon yn broblem genedlaethol wedi ei hachosi gan bwysau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ry'n ni'n gweithio'n galed i wella llif cleifion a lleihau amseroedd aros."
Mae AS Ceidwadol Mynwy, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, wedi galw eto am ymchwiliad cyhoeddus sy'n edrych ar "gyflwr ofnadwy" gofal iechyd yn Sir Fynwy.
"Dwi'n derbyn yn llawn, dywedodd, fod pwysau cynyddol ar y GIG ar hyd Cymru, ond mae'r broblem i weld yn benodol yng Ngwent lle mae cwynion cleifion yn Ysbyty'r Faenor yn parhau i godi.
"Dwi'n cael fy nghyhuddo o danseilio doctoriaid, nyrsys a pharafeddygon bob tro dwi'n codi'r mater hwn, ond yn sicr, nid nhw sydd ar fai.
"Ry'n ni'n cael ein gadael lawr gan y rheiny sy'n rheoli sy'n esgus bod y sefyllfa bresennol yn dderbyniol pan, yn amlwg, dydy e ddim - fel y mae'r adroddiad yn ei ddangos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021