Dyn yn 'caru a cholli' dynes mae'n gwadu'i llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Colin MilburnFfynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Colin Milburn yn gwadu llofruddiaeth

Mae dyn o Ynys Môn sydd wedi ei gyhuddo o guro ei gymar hir dymor i farwolaeth wedi dechrau rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae Colin Milburn, 52, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio Buddug Jones, 48, yn eu cartref ym mhentref Rhyd-wyn ar 22 Ebrill eleni.

Mae'r erlyniad yn honni iddi gael anafiadau difrifol i'r pen o ganlyniad i gael ei tharo pump neu chwe gwaith ag arf debyg i forthwyl trwm.

Dywedodd Mr Milburn ar ddechrau'r amddiffyniad ei fod yn caru Ms Jones ac yn ei cholli.

Clywodd y rheithgor bod y diffynnydd wedi symud o'r cartref sawl tro oherwydd dadlau rhwng y ddau'n ymwneud â dynion yr oedd o'n credu roedd hi'n eu gweld.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Buddug Jones yn fam i bedwar o blant ac yn nain

Ar un achlysur dywedodd Mr Milburn ei fod wedi siarad gyda dyn roedd yn credu oedd wedi bod yn ffonio Buddug Jones ond roedd y ddau wedi "ysgwyd llaw" ar ddiwedd y cyfarfod.

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr, Jonathan Rees KC, gwadodd Mr Milburn ei fod wedi bygwth ymosod arni na bod ganddo broblem yn rheoli ei dymer.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi mynd i'r tŷ i drafod dyn o'r enw Dewi gyda Ms Jones.

Honnir bod yna ffrwgwd a bod Ms Jones wedi taro Mr Milburn, a bod eu mab wedi ceisio ei daro hefyd, ond iddo fethu a tharo ei fam, gan achosi iddi waedu.

Clywodd y llys hefyd bod y mab wedi ei gael yn euog o achosi anaf yn y gorffennol, a'i fod wedi "ymddwyn yn fygythiol" ato gyda morthwyl ar sawl achlysur.

Yn dilyn y ffrwgwd, dywedodd Mr Milburn wrth y llys ei fod wedi cysylltu â'r heddlu, a bod Ms Jones wedi cael ei harestio a'i rhyddhau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Buddug Jones ei ddarganfod yn y gwely yn ei thŷ ym Maes Gwelfor

Dywedodd Mr Rees bod y diffynnydd wedi gadael nifer o negeseuon ar ffôn Ms Jones wedi iddi gael ei rhyddhau

"Dwi jest isio i ti siarad efo fi," dywedodd un neges, ac mewn un arall fe ddywedodd bod o "ddim yn gwbod be alla'i neud i 'neud yn iawn i ti".

Dywedodd Mr Milburn ei fod eisiau dychwelyd i'r tŷ a'i fod yn ei charu.

Ond clywodd y rheithgor am negeseuon eraill pan wnaeth Mr Milburn gyhuddo'i gymar unwaith yn rhagor o fod mewn perthynas gyda rhywun arall.

Fe dreuliodd sawl noson cyn marwolaeth Ms Jones yn cysgu yn ei gar ym Mhorth Swtan ac yn ardal Traeth Newry, Caergybi.

Mae Colin Milburn yn gwadu llofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig