Caerdydd: Ysgolion yn gorfod cau oherwydd diffyg dŵr

  • Cyhoeddwyd
Leaking water tapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broblem wedi effeithio ar 12,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru yng Nghaerdydd

Bu'n rhaid cau naw o ysgolion ar ôl i bibell ddŵr dorri yng Nghaerdydd.

Gan effeithio ar 12,000 o bobl, dywed Dŵr Cymru iddyn nhw sefydlu gorsaf ddŵr dros dro yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain gan fod pobl un ai heb ddŵr neu'n cael problemau gyda'u cyflenwadau.

Ond dydedodd y cwmni bod y cyflenwad wedi ei ail sefydlu erbyn nos Lun.

Yr ysgolion a bu'n rhaid cau oedd Ysgol Gynradd Llanedern, Glan yr Afon, Bryd Hafod, St Bernadettes, Hollies, Pen Y Groes, Bryn Celyn a Berllan Deg.

Yn ôl Cyngor Caerdydd daeth y broblem i'w sylw am 05:30 gyda rhai yn poeni am broblem llifogydd.

Dywedodd Dŵr Cymru: "Rydym wedi llwyddo i ad-drefnu'r rhwydwaith dŵr yn yr ardal fel bod cyflenwadau i gwsmeriaid yn ardaloedd CF23 a CF3 bellach wedi dychwelyd.

"Wrth i gyflenwadau ddychwelyd gall cwsmeriaid brofi naill ai pwysedd dŵr isel neu ddŵr afliwiedig. Nid yw hyn yn anarferol ar ôl digwyddiad o'r math hwn a dylai glirio o fewn cyfnod byr.

"Bydd ein timau yn parhau i wneud y gwaith atgyweirio i'r bibell ac yn gweithio dros nos i gwblhau hyn.

"Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd, gan diolch i gwsmeriaid am fod yn amyneddgar gyda ni".

Pynciau cysylltiedig