Cwpan y Byd: Cerdd gan Rhys Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae'r bardd a'r cefnogwr pêl-droed brwd, Rhys Iorwerth, wedi ysgrifennu cerdd arbennig i Cymru Fyw am daith Cymru i Gwpan y Byd lle byddwn yn cystadlu ar y llwyfan chwaraeon byd-eang unwaith eto.
Dywedodd Rhys: "Wrth i Gwpan y Byd nesáu, mae beirdd, cantorion ac enwogion Cymru wedi ymuno yn y cyffro, ac wedi mynd ati rif y gwlith i greu eu teyrngedau nhw i'r tîm ac i'r achlysur.
"Dyma un o fy nghynigion i!
"Englynion i ddau lais sydd yma - ac maen nhw'n 'cadwyno'. Ystyr hynny ydi bod diwedd un pennill yn cydio mewn rhyw ffordd yn nechrau'r pennill nesa'.
"Roeddwn i'n gweld hynny'n ffordd addas o gyfleu'r undod y byddwn ni'n ei rannu fel cenedl dros y mis nesa'.
"A'r brif neges, ar ôl yr holl aros, ydi mai dyma'r awr, dyma'r ennyd, pan gaiff ein gwlad ni o'r diwedd hawlio lle ar y llwyfan mwya' un."