Chwyddiant yn codi eto - ond mae rhai yn elwa

  • Cyhoeddwyd
Mae CK's Foodstores yn un o archfarchnadoedd mwyaf Cymru gyda 33 o siopau.
Disgrifiad o’r llun,

Mae CK's Foodstores yn un o archfarchnadoedd mwyaf Cymru gyda 33 o siopau

Wrth i brisiau gynyddu'n gynt nag erioed o'r blaen, mae rhai cwmnïau yn gweld pethau'n arafu, ond i eraill mae costau uchel tanwydd yn fanteisiol.

Mae CK's Foodstores yn un o archfarchnadoedd mwyaf Cymru gyda 33 o siopau.

Maen nhw'n cyflogi dros 650 o staff ac mae'r sefyllfa bresennol wedi newid y ffordd maen nhw'n gweithredu.

Dywed y cwmni bod eu siopau bach cymunedol yn gwerthu mwy gan fod cwsmeriaid yn siopa'n lleol yn hytrach na gyrru i ganolfannau siopau mawr.

Mae ganddyn nhw fecws newydd yn eu warws yn Llanelli - yn y flwyddyn ddiwethaf mae pris blawd a llaeth wedi codi 35% ac wyau 20%.

"Mae'n takings ni lan," meddai Melanie Jenkins, rheolwraig siop CK's ym Mhontyberem, Sir Gâr.

"Mae pobl yn dod i'r siop i sefyll yn local yn lle mynd i Lanelli a Chaerfyrddin i siopa."

Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau tanwydd uwch yn golygu bod pobl yn siopa'n lleol, medd Melanie Jenkins

Chwyddiant ydy'r cynnydd ym mhris rhywbeth dros gyfnod o amser.

Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher, ym mis Hydref roedd prisiau 11.1% yn uwch na 12 mis cyn hynny, wrth i filiau ynni yrru'r gyfradd chwyddiant.

Ers misoedd mae costau byw wedi codi i'w lefel uchaf ers 40 mlynedd, gyda'r cynnydd mwyaf ym mhrisiau bwyd ac ynni.

Llai o elw i eraill

I eraill dyw'r cynnydd mewn costau ddim yn newyddion cystal.

Mae Caffi Cwtch ym Mhontyberem yn rhan o Fenter Iaith Cwm Gwendraeth.

Yn ôl John Derik Rees o'r fenter mae pris "popeth" wedi cynyddu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae elw Caffi Cwtch ym Mhontyberem yn is, medd John Derik Rees o Fenter Cwm Gwendraeth

"Ni wedi codi ein prisiau ychydig bach ond ddim byd o'i gymharu â beth i ni'n talu mas am y bwyd," meddai.

"Felly ni ddim yn gwneud lot o elw achos ni ddim eisiau rhoi ein prisiau lan a rhoi e ar y cwsmeriaid."

Un o gwmnïau eraill y pentref yw cwmni tacsis 'Call a Cab'. Mae chwyddiant a chostau tanwydd wedi taro eu helw gan olygu 25% yn llai o arian.

"Ni'n syffro dal ar ôl Covid," meddai un o'r perchnogion Gareth Williams.

"Mae'r contracts ni gyda'r ysgolion yn good, ond mae rhai weekend sef private hire - dydi hwnna ddim yn ôl yw beth oedd e. Dyw pobl ddim yn mynd mas gymaint."

Pynciau cysylltiedig