Rhyd-wyn: Dyn yn euog o lofruddio ei gymar, Buddug Jones

  • Cyhoeddwyd
Buddug JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Buddug Jones o anafiadau difrifol i'w phen ar 22 Ebrill 2022

Mae dyn o Ynys Môn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gymar wrth iddi orwedd yn ei gwely.

Cafodd Buddug Jones, 48, ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mhentref Rhyd-wyn, yng ngogledd orllewin yr ynys ym mis Ebrill.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon iddi farw o ganlyniad anafiadau "anferthol" i'w phen, a'u bod o bosib wedi eu hachosi gan forthwyl trwm.

Roedd Colin Milburn, 52, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.

Fe gymerodd chwe awr a hanner i'r rheithgor gyrraedd mwyafrif o ran y dyfarniad.

Yn ystod yr achos llys, fe glywodd y rheithgor sut y datblygodd Milburn obsesiwn â'r syniad fod ei bartner o 32 o flynyddoedd yn cael perthnasau gyda phobl eraill ac yn siarad â dynion eraill.

Roedd Buddug Jones ar ei phen ei hun yn eu cartref yn Ynys Môn pan darodd Milburn ei gymar ar ochr chwith ei phen "bump neu chwech o weithiau".

Yn ystod yr achos, fe glywodd y rheithgor mai "morthwyl trwm" neu sbaner oedd yn debygol o fod wedi cael ei ddefnyddio - ond chafodd yr arf fyth mo'i ddarganfod.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Buddug Jones yn ei gwely

Roedd Milburn yn honni ei fod wedi dod o hyd i'w bartner yn ei gwely gydag anafiadau i'w phen, ac mai ef aeth i chwilio am help gan gymdogion.

Ond fe glywodd Llys y Goron Caernarfon fod y ddau wedi cael ffrae a'i fod yn byw yn ei gar dair wythnos cyn ei marwolaeth.

Fe wnaeth Milburn ddychwelyd i'w cartref ym Maes Gwelfor lle wnaeth ei llofruddio.

Cafodd ei arestio a'i gyhuddo yn dilyn ymchwiliad.

Yn ystod yr achos, fe wnaeth barhau i fynnu nad oedd yn gwybod sut y bu farw Ms Jones gan ddweud ei fod yn "ei charu ac yn ei cholli".

'Un ddedfryd fydd - oes'

Dywedodd y barnwr, Rhys Rowlands, wrth Milburn y byddai'n cael ei ddedfrydu maes o law.

"Fe wnaethoch chi achosi'r ymosodiad ofnadwy hwn ar y diweddar Buddug Jones wrth iddi orwedd yn ei gwely yn ei chartref ei hun," dywedodd y barnwr.

"Ry'ch chi'n gwybod mai dim ond un ddedfryd fydd - a dedfryd oes yw honno."

Bydd Milburn yn cael ei ddedfrydu ar 28 Tachwedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Pynciau cysylltiedig