Siom taith car trydan i Qatar er siwrne 'anhygoel'
- Cyhoeddwyd
Wrth i gefnogwyr pêl-droed ddechrau eu teithiau tua'r dwyrain canol ar gyfer Cwpan y Byd, y freuddwyd i un tîm o Gymru oedd gyrru drwy 18 o wledydd a chyrraedd Qatar mewn car trydan.
Ond gyda'r grŵp yn agosáu at y llinell derfyn, siom oedd hi, pan ddaeth y daith i ben wrth geisio croesi'r ffin i'r wlad agosaf, Saudi Arabia.
Er y methiant, roedd yna ddathlu hefyd. Yn hytrach na gyrru i Doha, fe gyrhaeddodd y criw ar awyren gyda rhodd i'r chwaraewyr - trim olwyn y car, a channoedd o negeseuon o gefnogaeth o gartref.
Roedden nhw wedi ofni y gallai prinder mannau gwefru ceir trydan fod yn broblem mewn gwledydd fel Gogledd Macedonia a Serbia, ond yn y pen draw y gyfraith yn Saudi Arabia ddaeth â'u taith i ben, a hynny oherwydd nad ydy'r wlad yn caniatáu ceir sydd ag olwyn lywio ar yr ochr dde.
"Er bod ni wedi methu, ni wedi methu oherwydd bureaucracy, ni ddim wedi methu oherwydd bod y car ddim lan i'r dasg", meddai Huw Talfryn Walters, fu'n gyfrifol am ddogfennu eu taith ar gamera ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Roedd e'n siom - o'n i'n really edrych 'mlaen i yrru drwy Saudi Arabia!"
Yn ôl aelod arall o'r grŵp, Nick Smith, fe wnaethon nhw aros deuddydd neu dri i geisio dod o hyd i ateb neu gael y caniatâd cywir i groesi'r ffin, ond doedd yna ddim ateb meddai. Nid y car trydan oedd y broblem.
"Fe ddywedodd rhywun mai'r broblem gyda cheir lle mae'r olwyn lywio ar yr ochr dde ydy bod pobl yn dod â nhw i mewn i'r wlad ac yn tanseilio'r farchnad leol", meddai Nick.
Er i'w taith ddod i ben yng Ngwlad yr Iorddonen, roedden nhw ymhlith y cyntaf o gefnogwyr Cymru i gyrraedd Doha, gan hedfan yno ddydd Iau.
Mae Huw Walters sy'n wreiddiol o Faesteg ond bellach yn byw yng Nghaerdydd yn dweud iddo fod yn brofiad anhygoel a bythgofiadwy, er na wnaethon nhw gwblhau'r daith o 5,000 milltir (8,000km) yn y car.
"Mae pobl methu coelio be' ni 'di bod yn 'neud i fod yn onest. Un elfen yw i roi gwybodaeth i bobl am geir trydan, a bod e'n bosib 'neud siwrne mor hir mewn car trydan."
Mae'r tîm cenedlaethol wedi bod yn dilyn y daith o'r dechrau, er nad oedd Gareth Bale a'r chwaraewyr yn hyderus o'u gweld yn y Dwyrain Canol wrth i'r grŵp adael Bro Morgannwg ar 28 Hydref.
Wrth iddyn nhw adael, fe ofynnodd Danny Gabbidon os oedd yn credu y byddai'n eu gweld yn Qatar, gyda Joe Ledley yn ateb yn chwareus gyda "Dim gobaith".
Roedd yn daith epig, gyda miloedd yn eu cefnogi gartref, a rhai o arwyr pêl-droed Cymru yn cymryd rhan yn ystod y siwrne.
Un ohonyn nhw oedd Peter Nicholas, a enillodd 73 o gapiau i Gymru. Fe ymunodd gyda nhw yn Amman yng Ngwlad yr Iorddonen, ac fe wnaeth o gwrdd â thîm Cymru gyda'r grŵp ddydd Gwener.
"Roedd ganddyn nhw gymaint o ddiddordeb yn y daith, gan ofyn cwestiynau gwych", meddai. "Fe ddywedon ni wrthyn nhw am wneud Cymru yn falch ohonyn nhw, a dwi'n siŵr y byddan nhw'n gwneud hynny."
Yn ôl Huw Walters roedd yn brofiad gwych cwrdd â'r tim.
"Maen nhw 'di dangos lot o gefnogaeth i'r syniad o'r car trydan 'ma. O'n nhw wedi siomi hefyd bod ni ddim wedi cyrraedd [drwy'r dull gwreiddiol] ond eto'n eitha' hapus am y ffaith bod ni 'di 'neud mor dda.
"Ac roedd eu hysbryd nhw'n eitha' uchel felly roedd hwnna'n grêt."
Beth sydd wedi digwydd i'r car?
"Fe wnaethon ni ei adael mewn ystafell arddangos ceir yng Ngwlad yr Iorddonen", meddai Nick Smith.
Y bwriad mae'n debyg ydy anfon y cerbyd o'r enw Morris yn ôl ar long, ac fe fydd y grŵp yn hedfan yn ôl ar ôl y gêm gyntaf.
"Bydden i 'di dwlu aros am gemau Iran a Lloegr", meddai Huw Walters, "ond yn anffodus mae'r trip yn dod i ben i ni. Ond roedd e'n un anhygoel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022